Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. clxxvi.] AWST, 1845. [Llyfr xv. ARAETH Y DR. MERLE D'AUBIGNE, O GENEVA, O FLAEN CYMANFA GYFFREDIN0L F.GLWYS RYBD SCOTI.AND, MAI 28, 1845. [Allan o'r « Witne&s," a'r «PatriotS]] Mawr oedd y pryderwch a lanwai fynwesau cannoedd lawer o grefyddwyr yn Ysgotland, pan ddeallasant fod un o r gwyr mwyaf yn y I byd, ag sydd a'i enw mor adnabyddus dros | holl wledydd cred—y Parch. Dr. Merle j D'Aubigne, o Germany—yn dyfod i ymweled I â'r Eglwys Rydd yn Ysgotland, ac igymeryd rhan yn ngweithrediadau ei Chymanfa. .. Yr oedd y gair wedi myned ar led yn gynar y byddai y Dr. Chalmers yn cyflwyno i sylw y Cyfarfod dri o weinidogion enwog oddiar y Cyfandir, y Parch. M. Monod, o Paris, y Parch. Mr. Kuntze, o Berlin, a'r Parch. Dr. D'Aubigne; ac o herwydd hyny yr oedd pob cwr o 3 stafell y c\ farfod wedi eu llenwi gan ddynion awyddus am weled y ddau wein- idog hyny i Grist, ag sydd a'u henwau ar daen mor adnabyddus dros Ewrop a r byd —Dr. Chalmers a Dr. D'Aubigne—yn sefyll ochr yn ochr yn nghanol gosgordd o weinid- ogion urddasol a duwiol ereill. Yr oedd Cymanfa Eglwys Sefydledig Ys- gotland wedi anfon gwahoddiad i'r hanesydd hynod hwn—Dr. D'Aubigne—i ymweled â hwythau: ond efe a wrthododd, gan ddy- wedyd, mai at Eglwys Rydd Ysgotland yr oedd ei genadwri ef: ac nad oedd efe wedi dyfod t ymweled a chorff eglwysig yn cael ei gynysgaethu gan lywodraeth y wlad. Na, daethai i estyn deheulaw cymdeithas i ddilyn- wyr Knox, y rhai oeddynt gynullcdig o fewn nmriau diaddurn Canon Mills, â miloedd o bobl yn bresennol yn eu cymanfa; ac nid yn nghanol pinaclau heirddwych, a tho addum- awl, Victoria Hall. Yr oedd araeth Dr. Chalmerf, wrth gyf- lwyno y Parchedigion i sylw y Cyfarfod, yn llawn o'r meddwl tanbaid, a'r galluoedd cryfion, ag sydd eisoes wedi hynodi y gwr parchedig hwn. Ond yr oedd arwyddion amlwg nad oedd cydymaith ei enaid—sef ei gorfF-—mor fywiog a heinyf ag ydoedd fìsoedd yn ol. A chwynai hefyd am nad ydoedd ganddo nerth a gallu i wneud cyfiawnder â'r hyn oedd ganddo mewn llaw. Wedi i r gwr parchedig eistedd i lawr, dilynwyd ef gan y Parch. M. Monod, o Paris; ac ar ei ol cyfodai gwr tal, cryf yr olwg arno, ac oddeutu canol oed, i gyfàrch y gynulleidfa. Yr oedd gwedd ei wynebpryd yn siriolaidd, eto yri wrol, a'i dalcen yn arddangos galluoedJ meddwl cryfion iawn. H wn ydoedd y Parch. Dr. Merle DAubigne, araeth pa un a ddodir yn awr o flaen y darllenydd. Ar ei ymddangosiad ar yr esgynlawr, gwnaed i bob congl o'r tŷ adseinio gan floedd- iadau o gymeradwyaeth a chroesawiad: ac wedi ymlonyddu o'r dyrfa ychydig, efe a dde- chreuai fel hyn :— ' Myfi a ddaethym o Geneva, ac yr wyf yn awr yn Scotland. Ni ddaethym o Geneva i Scotland yn unig i weled eich gwlad, i edryclí ar eich ucheldiroedd, nac i ymddyddan a'ch trigolion. Na, mi a ddaethym ar neges arall yn hollol. Oddeutu tair canrif yn ol, daeth gwr o Ffrainc i'n dinas ni wrth droed mynyddoedd yr Alps, ar fin Llyn Leman, ac yno y plan- odd faner y gwirionedd. Ei enw oedd John Calvin. Efe a gyhoeddai yno â llais nerthol, na chyfiawnheir dyn ond trwy flỳdd yn ngwaed yr Oen yn unig—ac nid oes un tra^ ddodiad dynol—^na gweithred, nac olyniaetli dynol ychwaith, yn Uesâu dim yn Nghrist Iesu; ond creadur newydd. Ac efe a wnaeth ein Geneva fechan yn amddifrynfa y gwirion- edd. Rhai blynyddoedd wedi hyny, daeth gwr arall ar dráws y Jura i'n gwlad odidog. Daliwyd ef yn Nghastell St. Andrew, ac a ddiangodd o'r wlad yr ydym ynddi yn awr. Hyrddiwyd ef allan o Loegr a Scotland gau gynddeiriogrwydd yr OfFeiriadau Pabaidd, a gorfbdwyd ef i encilio i Geneva. Ei enw oedd John Knox. Yno yr ymgofleidiodd y gwyr hyn eu gilydd fel brodyr. John Knox a ysgydwai law â John Calvin—cynrychiol- ydd Scoüand â'r gwr o Geneva. Cafodd Joha Knox yn Calvin, nid yn unig yr athrawiaeẃ bur a dderbyniasai yn barod oddiwrth Dduw; ond hefyd, yn lle y llywodraeth esgobyddol, yn ol cynllun yT eglwys Grisüonogol fei y sefydlid hi ÿn yr ymerodrae^i Rufeinig; y drefn Bresbyteraidd, ag oedd yn fwy unol â sefýllfa yr eglwys gyntefig. A thrabu Kiwx