Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. clxxiii.] MAI, 1845. [Llyfr XV- ©utomgîẃtaetö. PREGETH Ÿ DIWEDDAH BAB.CH. JAMES HUGHES, LLUNDAIN. [Barchedig Olygydd,—Wrth edrych dros sypyn o bapyrau ychydig ddyddiau yn ol, daethum o hyd i un o Bregethau y diw- eddar Barch. James Hughes, yn ei law ys- grifen ei hun; ac os gwelwch chwi yn addas iddi ymddangos yn y Drysorfa, wele gopi o honi at eich gwasanaeth; gwnewch fel y gweloch yn oreu.—-Ydwyf, yr eiddoch, Llundain. John Foulk.es. Ltjc xxiv. 32. ' A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ÿr ydoedd efe yn ymddiddan a ni ar y ffordd, a thra yr ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgry thyrau ?' Yn nechreuad y bennod hon mae hanes am adgyfodiad Crist. Mae yr holl Efengylwyr mor ofalus i roddi hanes ei adgyfodiad ag ydynt i roddi hanes ei farwolaeth ef. Mae yn angenrheidiol i ninau gredu ei adgyfodiad ef yn gystal a'i farwolaeth: cysur gwan a fyddai credu iddo farw, heb gredu ei adgyfodi hefyd. Yn adnod 13 rhoddir hanes am ryw ddau yn myned tuag Emmaus, ar brydnawn dydd yr adgyfodiad. Nid dau o'r Apostolion, fwel adn. 33., eithr dau, efallai, o'r 70 aor- einiodd yr Iesu, Luc 10. 1., neu ddau o'r 500 brodyr y sonia Paul am danynt yn 1 Cor. 15. 6. Pwy bynag oeddynt, yr oedd- ynt yn credu yn Nghrist, ac yn ganlynwyr iddo. Yr oeddynt yn ymddyddan am dano ar hyd y ffordd, pan ddaeth efe ei hun atynt; argyhoeddodd eu tywyllwch, ceryddodd eu hanghrediniaeth, dysgodd hwynt yn yr holl ysgrythyrau y pethau am dano ei hun, dad- guddiodd ei hun iddynt, a diflanodd allan o'u golwg. Geiriau y testun yw y cyntaf a lef- arasant yn eu syndod, wedi iddo amlygu ei hun, a diflanu allan o'u golwg. Syiwn yn y modd canlynol ar y geiriau— I. Sylwn ar y gair * Ysgrythyr,' neu ' Ys- grythyrau.' Ystyr y gair Ysgrythyr yw vs- |prífen--.Ysgiythyrau, ysgrifeniadau; feí y mae y gair Bibl neu Biblos yn arwyddo * Y Llyfr.' 1. Gelwir y Bibl yn Ysgrythyrau, neu ys- grifeniadau, mewn cyferbyniad, efallai, i'r dull o addysgu trwy draddodiadau llafar (oral tradìtions) ag oedd yn mhlith pob cenedl yn yr hen amseroedd cyn y gelfyddyd werthfawr o ysgrifenu ac argraffu. Yr oedd y dull hwn mewn bri mawr yn mhlith yr hen Dderwyddon Cymreig yn Mrydain gynt. Ond pan aeth Duw i ddysgu ei bobl, rhodd- odd iddynt eu gwersi mewn ysgrifen;—y ddeddf foesol mewn ysgrifen, y seremon'iol mewn ysgrifen, y wladol mewn ysgrifen; ac o'r diwedd cawsom holl ganon yr Ysgrythyr mewn ysgrifèn. 2. Gelwir y Bihl yn Ysgrythyr, neu y*. grifen, mewn ffordd o enwogrwydd, er dango» ei ragoroldeb ar bob ysgrifen arall:—mae llawer o ysgrifeniadau da heblaw y Bibl, ond mae yr Ysgrythyr yn rhagori arnynt oll, mewn cywirdeb, cynwysder, a gwerthfawrog- rwydd. * Ymadroddion Duw' yw yr Y«- grythyr, Rhuf. 3. 2. Ymadroddion bywiol, Act. 7- 38. Nis gellir dywedyd felly am ymadroddion nac ysgrifeniadau ereill yn y byd. II. Sylwn, fbd yr Ysgrythyrau yn cynwys pob dadguddiad a gwybodaeth a welodd Duw yn dda i roddi i ddyn; ac hefyd sydd ar ddyn ei eisieu yn mha gyflwr bynag y byddo, pa un bynag ai fel pechadur syrthiedig, ai gwedi ei adferu trwy râs. 1. Cynwys pob gwybodaeth am Dduw,— y bodoldeb o hono—pa fath un ydyw o ran perffeithiau a phriodoliaethau. Dengys hefyd bod lluosogrwydd o Bersonau yn yr Hanfod Ddwyfol,—mai Tri ydyw y Personau hyny, nid líai nid mwy,—ac mai Tad ydyw enw un, Mab (neu Gair) yw enw y Uall, ac Ysbryd Glân y trydydd. Dengys hefyd nad oes na blaenafiaeth nac olafiaeth, uwchraddoldeb nac israddoldeb, yn perthyn i'r Personau Dwyfbl; ond cydraddoldeb a chyd-dragywyddoldeb. Yn fyr, dengys, er fod Tri o Bersonau DwyfoL nad oes ond Un Duw!