Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. clxxii.] EBRILL, 1845. [LLYFfiÉXV* Butom$ŵtaet&* TLODI CREFYDDOL. Yh. ydym yn clywed llawer o achwyn y blyn- yddau hyn ar gyflwr tlodion ein gwlad, a'r angenrheidrwydd am ryw lwybr c>frredinoL at ddiwygio iselder eu sefyllfa angenus. Y mae hyn yn fynych wedi arwain fy meddwl at dlodi arall sydd a mawr eisieu ei symud, sef tlodi cbefyddoi., neu yr iselder cy- ffredinol ag y mae canlynwyr Crist yn byw ynddo, er fod darpariaeth mor dda wedi ei gwneuthur iddynt, a chyfraith mor uniawn a manteisiol i gyfranu y ddarpariaeth hon, fel y mae yn anmhosibl ei gwella—eto, rhyw fodd, y mae Ûodif crefyddol yn ëang, a phoenus i edrych amo, ac yn cyffroi teimladau gofídus yn mynwes pob dyn ysbrydol a theimladwy, fel y mae yn g«fyn gyda syndod, ' Paham y mae plant Tad mor gyfoethog yn byw yn y fath dlodi? Paham y mae priodasferch Tywysog yn rhodio mewn gwisg garpiog? Ai ewyllys ei phriod yw iddi fyw, tra yn y byd hwn, mor wael a digysur, megys pe byddai Efe yn greulon, ac yn cadw oddi wrthi y pethau ag y mae arni wir angen am danynt? Nid wyf yn meddwl son am grefydd mewn enw yn unig, heb ddim gwirionedd oddi mewn-~Hawer sydd heb ddim ond y grefydd hon, y rhai ni allant byth fod yn gyfoethog— eithr crefydd a gwir ras yn egwyddor ynddi, ond yn isel a thlawd yn ei weithrediad—y gwyneb crefyddol yn ymddangos yn llwfr a digysur,—y wisg grefyddol yn deneu a llom, fel gwisg cardotyn,—yr ymborth crefyddol yn brin, a'r ychydig hwnw yn debyg i fera y Gibeoniaid pan ddaethant i wersyll Israel, yn fara sych a brithlwyd. I'r dyben o alw sylw crefyddwyr at y cyflwr hwn, fe allai mai nid anfuddiol a fyddai dangos, I. Yn mha le y mae y tìodi hwn i'w ganfod. II. Beth yw yr achos o hono. III. ¥ moddion a ddylid eu harfer tuag at eitymucL i íi. ,¥ä mha îe y mae yn ymddangos? Canfyddir ef yn laf, yn ngwendid eu graí. Nid peth egwan yw gras yn ei natur—î>ywyd ydyw, ac nid oes un cryfder fel cryfder bywyd { mae yr elfenau naturiol, dwfr, tàn, gwynt, &c yn gryfion, ond y mae bywyd yn gryfech; a bywyd ysbrydol a grasol y saint yw y cryfaf o bob bywyd, oddieithr bywyd Duw ei hun— eto ymddengys gwendid mawr yn ngras y nifer amlaf o ganlynwyr Crist yn y dyddiau hyn. Os dwfr yn tarddu i fywyd tragy w y ddol ydyw, rhyfedd mor wan y mae yn tarddu mewn llawer teulu crefyddol, ac mewn llawer eglwys luosog ei haelodau! hynod mor lleied y mae y dwfr rhinweddol hwn yn ei ireiddio a firwythloni ar y tir sych o amgylch!— Os tân ydyw, O mor wan y mae yn llosgi y drain a'r míeri, ac yn gwresogi y galon mewn cariad at Dduw, a sel dros ei ogoniant! Nid ydwyf yn ewyllysio dywedyd, ' wele grefydd heb un bywyd ynddi:' pe dywedwn felly, gwnawn gam a chenedlaeth plant Duw; eto rhaid dywedyd, wrth edrych ar lawer yn ein gwlad, fod mwy o bob peth yn eu crefydd nag o wir fywyd—^mwy o ddoniau, mwy o siarad, mwy o gyflawniadau crefyddol, nag sydd ynddi o wir ras,—rhyfyg yn gryf, yn rhuthro i'r sefyllfeoedd a'r gwaith mwyaf santaidd yn yr eglwys, eithr ffydd yn hynod o wan i ddyoddef dim dros Grist,—cariad at fiurfiau crefyddol ac at bethau sectol yn gryf, ond gwir serch at Grist ac iachawdwriaeth eneidiau dynion yn fach iawn, yn methu ofirymu dim ond y dall a'r cloffj—Ûawer o sel yn erbyn pechod mewn ereill, yn enwedig os na byddant yn gyfeillion, eithr edifeirwch am bechodau y galon yn rhy wan i weithio allan fywyd y chwant pechadurus sydd yn esgor bob dydd ar ryw bechodau dirgelaidd,—y cyffyri meddygo^ er o'r rhywogaeth oreu, yq methu gweithio yr afiechyd allan o'r cyf- ansoddiad, am eu bod yn ei gymeryd mewn dognau rhy fychain. 2. Ymddengys Ûodi crefyddol yn sefyllfe profiad lluaws o grefyddwyr y dyddiau pres- ennol. Nid heb bröfi &d yr ^û^wydd ya dirion y maent, ond heb fawroadnabyddMHŵ G_