Skip to main content

Y DR YS ORF A. Rhif. clxxi.] MAWRTH, 1845. [Llyfr XV. ÎButompttòíaetl)* ARWYDDION YR AMSERAU, Wedi ceisio dangos o'r blaen y « bwystfil cyntaf, a'r ail; a delw y bwystfil, a'r but- ain a'i merched;' ynghyda'r amlhad fydd 3r gyfeiliornadau cyn cwymp Babilon, nyni a geisiwn chwilio yn bresennol i'r cyfarwyddiadau dwyfol a roddir i ni yn y Gair sanctaidd er adnabod * gau athraw- on,' a'u gochel; oblegyd un fyddin elynol i Grist a'i deyrnas yw y cwbl, a'r diafol yw trefnwr y fyddin. Rhoddes y ddraig ei gallu irr bwystfil, dygodd yntau y but- ain yn mlaen, a magodd hithau ei merch- ed. Gwasanaethodd * y bwystfil deugorn' o'i flaen ; a gorchymynodd wneud ' delw y bwystfil cyntaf. Felly un fyddin gy- ngreiriol, yn ymladd yn eu rhestrau dan eu gwahanol fanerau, yn erbyn yr Oen a'i luoedd, ydynt oll. Y mae cymaint o ddichell a gelyniaeth y diafol i'w weled yn fFurfiad gau athraw- iaethau, ac anfon gau athrawon, ag sydd i weled yn ei holl waith. Nid eu casglu yn un dosbarth, dan ryw un enwad yn unig y mae, pe felly byddai yn haws eu gochel, (er mae yn wir fod ganddo ddos- beirth digymysg o honynt, megys y rhai sydd yn gwadu Duwdod Crist, ac ereill). Ond y maent dan amry wiol enwau, ì'e, y mae rhai o honynt yn y wir eglwys; a'r rhai hyny ydyw y mwyaf peryglus o'r cwbl. « Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd rhai yn llefaru pethau gwyr-draws,' Act. 20. 30. Ac nid rhyw un gyfundraeth ydyw ou hathrawiaeth^ ond llawer. « Athraw- iaethau amryw a dieithr.' Ac megys y dywedir fod y pysgodwr medrus yn newid ei abwyd yn ol lliw y dwfr, a misoedd y flwyddyn, felly y mae y diafol yn ym- drechu i addasu cyfeiliornadau i ateb i'r graddau o oleu fydd wedi Uewyrchu mewn gwledydd a gwahanol oesoedd. A pho mwyaf dirgelaidd y byddo cyfeiliornad mwyaf peryglus yw. Ond yn y cwbl y mae yn dyfod â rhywbeth i'r dyn i bwyso arno yn lle Crist, a hyny weithiau mewn rhan, ac nid cymmeryd èi achub yn gwb! yn nhrefn Duw. Y mae athrawiaeth y purdan a'r penyd yn wawd gan y cyffredin yn Nghyraru; ond y mae athrawiaeth gallu dyn yn gymraeradwy gan lawer. Y mae Crist a'i ras yn annerbyniol gan y naill a'r llall. Y mae cyfeiliornadau yn heresiau dinystriol, am fod yn eu natur rwystro y gwrandawyr i bwyso ar Grist yn unig am fywyd tragywyddol, ac yn diystyru gwaith yr Ysbryd Glân yn cy- mhwyso yr iachawdwriaeth at yr enaid. Rhybuddiodd yr Arglwydd Iesu ei ddysgyblion i ' ymogelyd rhag gau bro- phwydi, y rhai a ddeuai atynt yn ngwisg- oedd defaid:1 ond er mor ddiniweid yr oeddynt yn ymddangos oddi allan, dy- wedodd mai ' oddifewn bleiddiaid rheibus fyddant' am ysglyfio y praidd. A dy- wedodd mai wrth eu ffrwythau yr oedd- ynt i'w hadnabod, Mat. 7.15, 16. Ac felly ceisiwn chwilio y gair i edrych pa ffrwythau sydd arnynt. Dywedir eu bod yn «wasanaethwyr Uygredigaeth,' 2 Ped» 2. 19. ; gan hyny ni waredwyd hwy erioed odditan lywodraeth pechod. Rhai heb eu geni o Dduw ydynt oll. O bosibl mai nid yr un chwant sydd yn ar- glwyddiaethu arnynt oll; ond y mae pob un yn wasanaethwr rhyw lygredigaeth. Y mae 'llygaid gan rai o honynt yn Hawn godineb, a heb fedru peidio â phechod,' 2 Pedr 2. 14. Y mae llawer o honynt dan lywodraeth cybydd-dod ac anghyf- iawnder. " Mewn cybydd-dod, drwy chwedlau gwneuthur, y gwnant farsandî- aeth o honoch," 2 Pedr 2. 3. Y maent 1 yn caru gwobr anghyfiawnder,' adn. 15. * cŵn gwancus, ydynt, ni chydhabyddant â'u digon,' Esa. 56.11. * Nio! ydynt yu