Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. clxx.] CHWEFROR, 1845. [Llyfr XV. ©utomptẃíaŵ ANFEIDROLDEB YR IAWN. Fe greodd Duw Adda mor berffaith, ac fe'i gosododd yn y fath sefyllfa fel pen cyfam- modwr, fel y buasai ei holl briodoliaethau yn ymddysgleirio yn eu gogoniant tanbaid wrth wobrwyo Adda a'i had â bywyd tra- gywyddol, pe cadwasai y gorchymyn es- mwyth a roddasai yr Arglwydd iddo.* Ond trwy droseddu y gorchymyn, a thori y cyf- ammod, dygodd y fath ddianrhydedd ar Dduw; ac, hyd y gallodd, gwnaeth ef yn gelwyddog, yn anghyfiawn, yn greulon, a gwadodd ei ddaioni a'i sancteiddrwydd. Ac felly ceisiodd ei ddiosg o'i holl ogoniant— oblegid coron gogoniant y Duwdod ydyw ei gyfiawnder, ei eirwiredd, ei ddaioni, a'i sancteiddrwydd; a thrwy hyny amddifad- odd ei hun a'i had o heddwch a ffafr Duw, ac a aeth tan y condemniad, ' Gan farw ti a fyddi farw.' Pwy a all draethu, nac amgyffred gwerth gogoniant y Duwdod ? gan hyny pwy a all amgyffred na mesur drwg pechod ? Os yw gogoniant Duw o anfeidrol werth, rhaid fod pechod dyn yn anfeidrol ddrwg. A phe buasai yr Arglwydd yn rhoddi bywyd i ddyn wedi y codwm, heb Iawn, buasai yn cadarnhau cam-gyhuddiad Adda, ac felly yn cymeryd ei ysbeilio o'i ogoniant. Onä pa fodd y gall efe roddi ei fwriad grasol mewn gweithrediad, i roddi bywyd tragy- wyddol i ryw luoedd o hil cwympedig Adda, heb gymylu ei ogouiaut, ac ystyried eu bod oll wedi eu condemnio i farw, a hyny yn gyfiawn. tíolygwn ddyn o gymmeriad anrhydedd- us mewn ardal, a rhyw un ag oedd yn byw yn gwbl arno wedi ceisio ei ddiosg'o'i holl anrhydedd mewn anghyfiawnder. Yn wyn- eb hyn y mae yn naturiol i'r hwn a ddi- anrhydeddwyd ddigio wrth yrhwna wnaeth y fath sarhad ar ei gymmeriad, a'i lanhau ei hun oddiwrth y duwch a roddes y llall arno, a hyny trwy ei gosbi. Bwriwn fod rhyw un yn cynnyg Iawn dros y troseddwr er ei heddychu, Ni farnai neb y byddai dim llai Iawn yn gyfiawn nag un a godai gymeriad y dyn, wrth heddychu âg ef, í'r un anrhydedd ag yr oedd efe o'r blaen. Ond beth yw cydmariaeth fel hyn i ddangos y fath ddianrhydedd y mae pob dyn, trwy ei bechod, yn ei ddwyn ar Dduw? 0 gan- lyniad, y mae yn rhaid ei fod ef wedi ei ddigio genym o herwydd yr anfri ydym wedi ei roddi ar ei holl briodoliaethau. Yn awr, nid oes modd iddo heddychu a dyn heb Iawn. Ac y mae yn rhaid i'r Iawn hwnw fod mor anfeidrol ag y byddo yr holl briodoliaethau yn ymddysgleirio mor danbaid yn eu gogoniant wrth roddi bywyd tragywyddol i'r euog, ag y buasent wrth wobrwyo Adda â bywyd tragywyddol cyn Iddo dori y cyfammod. Felly, gogoniant y Duwdod yn achubiaeth pechaduriaid sydd i'w gyd brisio â'r Iawn, ac nid gwerth y gwrthddrycbau. ' Ac efe yw yr Iawn.' 1 Ioan 2. 2. Dyma Iawn cyd-bwys a go- goniant y Duwdod. Anfeidroldeb ar gyfer anfeidroídeb : a Duw tragywyddol yn gallu amgyffred y ddau. Rhoddi bywyd tragywyddol i'r gwrth- ddrychau oedd wedi ceisio ei ddiosg o'i holl ogoniant, oedd dyben grasol Duw wrth ofyn, gosod, a rhoddi lawn; ac, fel y byddai yr holl briodoliaethau yn ymddysgleirio yn eu gogoniant, wrth weinyddu y rhodd wertb- fawr hon i'r holl wrthddrychau, a hyny mor ddysglaer ag y buasent wrth wobrwyo dyn â bywyd tragywyddol pe buasai heb anuf- uddhau. ' Yr hwn a osododd Duw yn Iawn," Rhuf. 3. 25. Beth oedd y dyben ? • I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, trwy faddeuant y pechodau a wnaethpwyd o'r blaen.' Nid i ddangos ei gyfiawnder ef yn namnedigaeth y rhai a ddamniwyd o'r Waen; yr oedd ei gyfiawnder wedi ei ddang- os yn eu cosbedigaeth, gan hyny nid oedd un berthynas rhwng yr Iawu a'r rhai a ddamniwyd o'r blaen, megys y dywed rhai. Ond yr oedd meibion lawer wedi eu dwyn i ogoniant cyn i Fab Duw ymddangos yn y cnawd, na marw ar y groes, Beb, 2. 10. ac nid aeth yr un yno ond trwy lawn fadd- euant Pa fodd yr oedd Duw yn maddeu iddynt hwy cyn derbyn Iawn ? Yr oedd y .-