Skip to main content

X DRTSOEFA. RSIP. 554.] RHAGF7R, 1876. [Llyfr XLVI. Y PAROHEDIG EBENEZER POWELL, CAERLLEON (GYNT O HOLT). GAN Y PARCH. ROBERT ÖWEN, M.A., PENNAL. " Yma a thraw, yn ehediad y blynydd- oedd, y mae cymeriad yn ymddangos sydd yn goroesi anghyfiawnder a chreu- londeb amser." Fel yna y dywedai un, tua dwy flynedd yn ol, wrth ysgrifenu adgofion am y Parch. Thomas Binney. Teimlad o wir werth gwrthddrych ei adgofion ar un llaw, a barai i'r awdwr wneyd y sylw, gyda mesur o frys, ar y Uaw arall, i gael ei adgofion yn argraff- edig cyn i ddylanwad amser wisgo ym- aith ddim o werth y gwrthddrych. Rhyfedd fel y gwna amser gario hyd yn nôd bethau da i dir anghof, a rhy- fedd hefyd mor hir y mae yntau yn dwyn ymaith o'r cof ac o'r byd gymer- iad oedd â dylanwad yn perthyn iddo! Y mae dynion da, fel pethau da, yn brin, ac yn hir cyn cael eu hadnabod; ond wedi eu hadnabod, byddant yn hir cyn cael eu hanghofio. Mae yr aur yn brin, ond yn fetel o faith barhâd; nis gall y ffwrnes boeth yn fuan ei ddy- ietha. Mae y dderwen am flynyddoedd meithion yn tyfu i'w llawn faintioli, ac am flynyddoedd meithion drachefn cyn y gall y gwres a'r ystormydd ei gyru ymaith. O'r natur yma y mae dynion rhagoraf y byd. Hwy yn ddiau ydyw rhaî rhagorol y ddaear; ond hir iawn ydyw y ddaear yn gweled, ac yn enwedig yn cydnabod hyny. Ar ol iddynt hwy esgyn yn uwch na'r ddaear, y disgyna eu cymeriad, fel mantell Elias, yn ol i'r ddaear, nes peri i'r rhai sydd ar ol gredu fod y neb a wisgai y fantell o anfoniad Dwyfol, a bod y fan- tell ei hun hefyd yn meddu rhyw gy- maint o ddaioni Dwyfol ynddi. Beth bynag sydd yn cael ei anghbfio yn y byd hwn, dywed y Llyfr Dwyfol yn bendant nad yw enw y rhai rhagorol ddim yn cael ei anghofio. " Cotfadwr- ; iaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Gorphenodd y Pareh. E. Powell ei ddiwrnod pryd nad oedd neb a'i had- waenai yn meddwl iddo wneyd. Esgyn- odd i fyny, wrth orchymyn eì Feistr, gan adael i ni ryfeddu paham y cymer- | wyd gwas mor fuddiol i'w orphwysfa ! mor gynnar. Bu ei oes ef yn hynod j ddefnyddiol; parhäodd i weithio hyd ! y diwedd, a chymerwyd ef ymaith tra j yr oedd megys yn rhodio ac ymddyddan ! â'i gyfeillion. Ni chollodd ac ni chyll efe bellach mo'i goron; nid oes berygl | ychwaith i amser creulawn wisgofym- aith yr hyn oedd ragorol yn y gwas da j hwn ; oblegid y mae ei ddaioni wedi ei i wasgaru ynddigon pell, ac wedigwreidd- | io yn ddigon dwfn, yn y cylchoedd y bu j yn troi ynddynt. Eto mae yn briodol j iawn ì ni gasglu ynghyd rywfaint o'r { hyn sydd yn wasgaredig, i'w roddi i I gadw yn y Drysorfa. Amcan y sylw- adau hyn ydyw, nid rhoddi cofiant o Mr. Powell—caiff rhywun arall wneyd hyny—ond ceìsio dwyn i'r golwg rai llinellau yn ei gymeriad fel dyn da a gweithgar, fel cristion, fel athraw, _ac fel gweiniaog yr efengyL Yr oedd maes eì lafur mewn rhan y tu allan i Gymru; ond yr oedd efe yn ddyn gwerthfawr iawn i Gymru oll. Llafuriai megys ar un cẁr i'r Cyfun- deb, ond bu ei wasanaeth o werth mawr 2 L