Skip to main content

Y DETSOEFA. Rhip. 552.] HÎDREF, 1876. [Llyfr XLVI. GWAITH GENADOL Y CYFUNDEB. Anerchiad a draddodwyd yn y Cyfarfod Ordeinio yn Nghymdeiihasfa Llansawel, Awst, 1876. GAN Y PARCH. THOMAS LEVI. îstid wyf yn gwybod paham y rhoddwyd y raater hwn i draethu arno ar adeg ordein- iad, nac yn sicr beth a ddysgwylid i mi draethu arno. Bum yn holi amryw o bobl rlaenaf y Gymdeithasfa, ond nid oeddynt yn cydweled. Dywedai un mai rhoddi brasolwg ar yr hyn oedd y Genadaeth Gartrefol yn y Deheudir wedi ei wneyd. Meddyliai un arall mai cymhwysderau cenadwr ydoedd y pwnc i fod; ac un arall mai dyledswydd y cyfundeb yn wyneb lledaniad yr iaith Saesoneg oedd y pwnc. Ar ol holi a dyfalu, tybiais y gallasai fod yn fuddiol, pa un bynag a oedd yn cyf- lawni y bwriad wrth ddewis y testun ai peidio, i dafiu cipolwg byr ar yr hyn y mae y Gymdeithas Genadol Gartrefol wedi ei wneyd, yr hyn sydd ganddi eto i'w wneyd, a'r offerynoliaeth i'w gyfiawni. I. Yr hyn sydd wedi ei wneyd gan y Genadaeth hon. Mae yr achos hwn wedi cychwyn, fel Methodistiaeth ei hun, heb gynllun blaen- orol. Tyfu a wnaeth allan o ysbryd cref- yddol ein tadau ; ac wedi iddo gychwyn y meddyliwyd gyntaf am ffurfio cynllun iddo. Yr oedd yr ysbryd cenadol wedi tori allan mewn gwaith cenadol cyn meddwl am ffurfío cymdeithas. Felly yn y Dehau a'r Gogledd. Amcan y genadaeth hon oedd myned â'r efengyl at y Saeson ar ororau Cymru a Lloegr. Gwelid fod Saeson uniaith y gor- orau yn cael eu hesgeuluso, ac o ddiffyg gwybodaeth grefyddol yn myned yn ba- ganiaid. Cymerodd y symudiad cjmtaf gyda'r achos hwn le yn ardal Gwrecsam. Thomas Edwards o Liverpool oedd y cyntaf i gy- chwyn y gwaith da. Gôf ydoedd efe wrth ei alwedigaeth, ac wedi symud o Gymru i Liverpool i fyw. Dechreuodd bregethu I yno pan o 32 i 35 oed. Nid oedd ond ' Sais digon trwsgl, ond yr oedd yn Gristion I o'r iawn ryw. Teimlai yn ddwys dros | gyfiwr isel y bobl ar oror Clawdd uffa ; ae J un Sabboth aeth ef, ac wyth neu naw o j gyfeillion, o "Wrecsam tua Bangor Iscoed. ! Yr oedd pob un o honynt ar gefn ceffyl, a ; phob un yn cario bachgenyn wrth ei ysgîl, I er mwyn eu cynnorthwyo i gânu; oblegid trwy gânu yr oeddent yn dyfeisio i gynnull y bobl ynghyd. Cawsant ganiatâd i sefyll yn ymyl tafarn. Aeth Edwards i ben ystôî, a rhoddodd emyn allan i gânu. Cynhyrfodd y cânu yr holl bentref, a daeth tua dau cant o bobl ynghyd. Yr oeddent yno yn bob math o gymeriadau— rhai yn synu beth allai hyn fod, rhai yn gwatwar, a rhai yn tyngu a rhegu. Aed oddiyno erbyn dau o'r gloch i Worthen- bury, gerllaw Broad Oak, hen gartre Phylip a Matthew Henry; ac wedi hyny erbyn chwech i Overton. Yr oedd hyn yn 1808. Yr »edd yn gynllun da iawn. Pum' mlynedd ar ol hyn—yn 1813—y sef- 'À E