Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEEA, Rhip. 560.] AWST, 1876. [Llypb XLVI. ANERCHIAD VB. EGLWYSI. A draddodwyd yn Ngwasanaeth yr Ordeinio, yn Nghymdeithasfa Pontypridd, Awst, 1875, GAN Y PARCH. GRIFFITH DAYIES, LLUNDAIN. Anwtl Frodyr, Chwi a wyddoch mai'r duU arferol o'r dechreuad gyda y rhan hon o wasanaeth yr ordeinio yw cael ychydig tylwadau ar yr hyn a elwir "Natur ÍEg- lwys;" o'r hyn lleiaf, y mae hyny wedi myned yn gymaint o arferiad yn ein plith fel y mae y sylwadau a wneir, bron yn ddîeithriad, wedi cael yr enw " Araeth ar Natur Eglwys." Gweddus iawn oedd i'r mater yma gael cymaint o le yn y gwasan- aeth hwn, fel yr achlysur mwyaf priodol i ddadgan ein golygiadau arno ac i osod arbenigrwydd ar y cyfryw olygiadau; ond yr ydys wedi traethu llawer iawn ar y mater erbyn hyn, a hyny, fe allai, ar draul esgeuluso yn ormodol faterion eraill sydd o'r pwys mwyaf i ni. Ar yr adeg bresen- nol, modd bynag, nid oeddwn yn golygu liarad dim yn neillduol ar gyfansoddiad yr eglwys, neu ffurfìywodraeth eglwysig, ond yn hytrach defnyddio y cyfie i roddi gair o anerchiad i'r eglwys neu'r eglwysi ar yr achlysur pwysig hwn—achlysur y dylid edrycn arno gyda'r dwysder a'r difrif- oídeb mwyaf. Y mae eisieu i ni gadw mewn cof fod ein gwaith yn ordeinio mewn Cymanfa—mewn central office fel yma—yn ein gwneyd ychydig yn hynod fel corff o Ymneillduwyr ; ond y mae yn ddull hollol unol â'n cyfansoddiad ni, wedi cyfodi o anghenrheidrwydd o'n trefn weinidogaeth- ol, ac wedi ei fwriadu i ychwanegu at ddifrifoldeb y gwasanaeth. Ac yr ydym yn ystyried fod eglwys Dduw sydd yn ein plith—Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Neheudir Cymru, yn bresennol trwy ei oliynnrychiolwyr yma heddyw. Y blaen- oriaid mewn modd arbenig sydd yn cyn- nrychioli yr eglwys ar yr achlysur hwn. Y mae hyny yn dangos pwysigrwydd eu swydd mewn modd neülduol; ac ni a allwn ddyweyd fod y swydd hon wedi cael llt mawr yn ein cyfundeb ni o'r dechreu, mwy nag a roddir iddi mewn nemawr i gyfun- deb. Ond nid wyf yn meddwl ein bod wedi camgymeryd yn hyn, nac fod genym le i edifeirwch o'r herwydd. Y mae fod genym fiaenoriaid mor alluog, ag.edrych arnynt yn gyffredinol, i'w briodoli, i fesur mawr, i'r ffaith eu bod wedi cael cymaint o le yn ein plith, ac fod y gwaith yn gor- phwys cymaint arnynt; a diau fod eu heffeithiolrwydd hwy wedi bod yn un elfen bwysig yn llwyddiant ein cyfundeb yn ngwyneb yr amgylchiadau neillduol dan ba rai yr ydym wedi Uafurio. Bydded i'n brodyr, y blaenoriaid, gan hyny ystyr- ied pwysigrwydd eu sefyUfa fel cynnrych- iolwyr yr eglwysi ar yr achlysur difrifol hwn. Y mae yma gysylltiad o'r natur bwysic- af, cyfammod o'r fath fwyaf difrifol, yn cael ei wneyd heddyw rhwng yr eglwys â'r brodyr hyn sydd yn cael eu'neülduo i gyfiawn waith y weinidogaeth. Nid anmhriodol ei alw yn gyfammod priodasél rhwng y pleidiau. Fe ellir dyweyd eu bod wedi eu dyweddio i'w gilydd o'r blaen. Ond adeg yr ordeiniad yw dydd y briodas. Heddyw, i'r brodyr hyn, y mae'r solemnû zation yn cymeryd Ue. Yn y cyttundeb yma heddyw, y mae'r pleidiau yn myned dan yr ymrwymiadau mwyaf difrifol j naill i'r Uall. Y maent yn cymeryd eu gilydd "er gwell ac er gwaeth, er cyfoeth-