Skip to main content

Y DEYSOEPA. Rhip. 548.] MEHEFIN, 1876. [Llyfr XLVI. GWAREDIGAETH ODDIWRTH GOSB PECHOD YN SYLFAENEDIG AR RYDDHAD ODDIWRTH DDEDDF PECHOD. GAN Y PARCH. THOMAS JAME8, M.A., LLANELLI, LLYWYDD PEES- ENNOL CYMDEITHASFA'R DEHEUDIR. Rhcff:ixiaid viii. 1, 2 : " Nid oes gan hyny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu y rhai sydd yn rhodio nid yn ol y enawd, eithr yn ol yr Ysbryd. Canys deddf Ysbryd y bywyd yn ÌSghrist Iesu a'iii rhyddhäodd i oddiwrth ddeddf pechod a marwolaeth'." Y geiriau hyn ydynt gasgliad oddi- wrth yniresyrniad yr apostol yn y bennod flaeuorol—pennod y gwahan- iaethir llawer ynghylch ei chynnwys- iad. Cymerwn hi yn bresennol fel yn . gosod allan deimlad pob cristion, i raddau mwy neu iai, tra ar y ddaear. Gwir, nad yw y cristion, tra o dan ddylanwad y teirnlad hwn, mewn meddiant o brofiad uchel iawn; eto nid yw yn debyg y gallai neb yn ei íefylìía naturiol ddefnyddio ymadiodd- ion y seithfed bennod. Dichon, fel yr hòna rhai, fod y ddyn- oliaeth ar y cyfan yn dyheu am ryw- beth tra gwahanol i'r presennol a'r gweledig, i gyfarfod â'i dymuniadau, ac yn barod i ofyn, " Pwy a ddengys i ni ddaioni?" Ac fe allai y ceir dos- barth helaeth o'r hîl yn teimlo awydd i orchfygu eu tueddiadau llygredig, ac ymddyrchafu at yr hyn sydd rinweddol a da. Eithr cyfyd hyn y rhan amlaf, os nad bob amser, oddiar amcanion hunanol ac uchelgeisiol, ac nid oddiar ymhyfrydiad yn nghyfraith Duw yn ol y dyn oddifewn. Nid allant ddyweyd eu bod hwy eu hunain â'r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw, ond â'r cnawd gyfraith pechod. Os ydynt ar adegau yn gwneuthur yr hyn nid yw foddlawn ganddynt—yr hyn yr edifar- hânt o'i herwydd wedi y cyfiawnir ef, ^j ny sydd ain fod tuedd ynddo i I niweidio eu hamgylchiadau, iselhâu eu cymeriad, neu eu drygu mewn rhyw | gyfeiriad, ac nid yn codi oddiar burdeb calon. Y cristion yn unig sydd yn galaru am bechod o herwydd ei fod yn bechod, yn ocheneidio a thristâu yn aehos ei anmherffeithrwydd a'i annheb- ygolrwydd i Dduw. Ete yn unig sydd yn ymdrechu cyrhaedd perffeitíirwydd am fod ei Dad yr hwn sydd yn y nef- oedd yn berffaith. Mae yn hwna allu croes i'r naturiol a llygredig o fewn yr enaid yn gwrthweithio dylanwad y drwg, ac yn ymorchestu i'w gadw o dan warogaeth iddo ei hun, eto yn teimlo caledrwydd yr ymdrech, ac yn dechre llwfrhâu ac ofni. Dyua, fedd- yliein ni, sydd yn y seithfed bennod : yr apostol yn ei berson ei hun yn gosod allan y credadyn yn y cyfryw sefyllfa. Dyagwyliai i'w dderbyniad o ©rist osod terfyn bythol ar nerth llygredigaeth y galon, na chai deimlo ychwaneg oddi- wrth ei ddylanwad dinystriol, mewn meddiant o lonyddwch i wasanaethu Duw, a dal cymundeb âg ef heb ddim yn beiddio tòri ar y dystawrwydd sanct- aidd hwn. Ond erbyn edrych, "sŵn y rhyfel ydyw'r man mae eto yn byw." Mae yr ymwybyddiaeth yma o bechod preswyliedig yn peri iddo ofni nerth y gelynion, ymsynio mai colh'r dydd wna yn y diwedd, a syithio i drueni. Yn y teimlad h..n, gwaedda,