Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Y DETSOEFA. Ehif. 547.] MAI, 1876. [Llyfr XLVI. PREGETHAU Y DIWEDDAR BARCH. HENRY REES. GAN Y PARCH. GRIFFITH PARRY, MANCHESTER. NlD heb radd o betrusder yr addawsom, ar gais y Golygydd parchedig, ysgrifenu ychydig ar y testun uchod i'r Drysorfa. Parai y testun ei hunan i ni betruso, gan mor fawr ydoedd. Ond fel y mae mawredd yn cynnyrchu ofn a chariad, teimlem tra yn cilio oddiwrtho fod grym ei attyniad arnom yr un pryd. Petrusem hefyd wrth ystyried fod mwy nag un o brif ddynion y genedl wedi bod yn tỳnu portrëad o awdwr y preg- ethau hyn. Nid oes eisieu dyweyd dim am y portreadau hyny; y maent yn llefaru drostynt eu hunain. Eto teimlem fod pregethwr fel Mr. Rees, a Phregethau fel yr eiddo ef, yn debyg i rai o olygfëydd gwychaf natur—mynyddau yr Àlps neu raiadr y Niagara, yn fedd- iant cyffredin ac o ddyddordeb parhäus, fel nas gellir peidio eu hedmygu a'u darlunio gan y naill ar ol y llall, pob un yn ei ddull ei hun ac yn ol yr argraffìadau a wnaethant ar ei feddwl ef ei hunan, er i'r arlunwyr penaf fod wedi eu darlunio o'i flaen. Gellir chwanegu fod ymddangosiad yr Ail Gyfrol o'r Pregethau hyn yn agor cyf- leusdra naturiol i alw sylw atynt o newydd. Megys y mae yr efengyl ei hunan yn ddirgelwch, felly y mae y cyhoeddiad o honi yn y ffurf o bregethu yn ddirgel- wch mawr. Ac y mae y dirgelwch neillduol hwn yn tarddu o un mwy cyffredinol, sef y dirgelwch a berthyn i iaith. Rhyfedd yw nerth geiriau! Pwnc Uawn o ddirgelwch yw iaith ddynol. Dolen gysyÜtiol yw iaith yn gyntaf rhwng ysbryd a chnawd, ac yna trwy y cnawd rhwng ysb'yd ac ysbryd. Tardda iaith o'r ddwy ffaith fod dyn yn ysbryd, a bod yr ysbryd mewn cnawd ; a chymmoda y ddwy ffaith â'u gilydd. I gnawd yn unig, nid yw iaith yn bosibl, fel y gwelir yn yr anifail; i ysbryd yn unig, nid yw iaith yn ang- henrheiäiol, fel yr ymddengys am yr angel. Y mae yr anifail islaw iaith, a'r angel uwchlaw. Am iaith ddynol yr ydym yn sôn; nis gwyddom ddim am iaith angelion. Undeb ysbryd a chnawd sydd yn gwneuthur iaith yn bosibl ac yn anghenrheidiol. Ac y mae y dirgelwch sydd yn yr undeb hwn yn ei gyfranu ei hunan i iaith— ffrwyth yr undeb ac ammod cym- deithas. Y mae yn rhyfedd fod dynion yn cael eu cludo yn ngherbydau y rheilffordd o fôr i fôr ar draws cyfandir America. Ond rhyfeddod fwy ydyw fod meddyliau yn cael eu cludo yn ngherbyd geiriau, trwy byrth y syn- wyrau, yn llwythog o ddaioni neu niwed, o bleser neu boen, o ysbryd y naill ddyn i ysbryd y llall Yn y dydd y dadguddir dirgelion Amser, gwelir mai hyn fydd un o'r pethau rhyfeddaf mewn byd llawn o ryfedd- odau—nerth geiriau. Y mae ychydig eiriau yn abl i gynneu y galon rnewn serch, neu ei chythruddo i ddigofaint, ac i "osodtröell naturiaeth yn fílam." Gall gair gyfodi yT ysbryd i ehedeg mewn Uawenydd, neu ei daro megys âg ergyd i ddyfnder galar. Gall ychydig eiriau newid 'syniadau y meddwl a theimladau y galon. Y mae geiriau wedi rhoddi ffurf a chyfeiriad