Skip to main content

"^I Y DEYSOEIA. Rhif. 546.] EBRILL, 1876. [Llyfr XLVI. Y FRAINT O ODDEF PROFEDIGAETH. Iago i. 12: "Gwỳn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth ; canys pan fyddo profedh dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef." efe a Nid edrych Duw fel yr edrych dyn, ac am hyny nis barna Duw fel y barna dyn. Fel hyn y mae gyda golwg ar wynfydedigrwydd ; mae syniad y byd a syniad y Bibl arno yn dra gwahanol. Dyma Ysbryd Crist yn Iago yn rhoi gwynfyd mewn lle na buasai deall dyn, ysgatfydd, yn meddwl am ei ddargan- fod. Buasem ni yn dueddol i ddy- wedyd, Gwỳn ei fyd y gŵr sydd yn osgoi profedigaeth—y gŵr sydd yn ca«l dianc rhagddi. Eithr dywedir yma, " Gwỳn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth." Mae dynolryw yn chwannog i grynhöi eu syíw ar y pres- ennol, ac i alw pethau yn dda neu ddrwg yn ol fel y canfyddir ac y teimlir hwy yn y byd sydd yr awr hon; ac ni welir un brofedigaeth, ynglŷn â chystudd a dyoddefaint, dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn an- nyfryd. Ond y mae'r Duw a roddes y gair yn gweled y diwedd o'r de- chreuad; a da yw yr hyn sydd yn diw- eddu yn dda. A dyma ddiwedd yr Arglwydd i'r gŵr sydd yn goddef prof- edigaeth—y sawl sydd yn ei chymeryd yn ddiddig, ac yn ei dwyn yn ddyl- adwy: " Pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai â'i carant ef." Profedigaeth—y gŵr sy'n goddef profedigaeth—a'i wynfyd pan fyddo profedig,—dyna yr hyn a gyflwynir yn awr i'n sylw. Ygairhwn "profedigaeth," a ddar- Uenir mewn lleoedd eraill yn y Bibl Cymraeg yn demtasiwn, ac felly yma yn Saesoneg, " Blessed is the man that endureth temptation." Nid temtasiwn yn yr ystyr o lithio i bechod, fel yr ydym i ystyried tenitasiynau Satan, yw yr hyn a olygir yma. Yn yr ystyr hwnw, "Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb." Ond y mae'r gair yn y lle hwn i'w ddeall yn yr ystyr o ddwyn allan ac arddangos cymeriad. Felly y mae Iago yn nechre'r bennod yn cyfeirio yr Hebrëaid cristionogol, oedd ar was- gar, at eu hadfydau fel eu profedig- aethau, gan eu hannog i'w cyfrif yn destun llawenydd, am eu bod wedi eu hanfon er profiad eu ffydd, ac er eu perffeithiad ymhob rhinwedd. Profed- igaeth (trial) ydyw unrhyw amgylch- iad yn cyfarfod â dyn sydd yn offer- ynol i'w brofì—i anilygu beth sydd ynddo—i ddangos beth ydyw mewn gwirionedd o ran ei egwyddor lywodr- aethol, neu ansawdd foesol ei galon. Yn yr ystyr hwn y lleferir am Dduw yn profi calonau dynion : nid fod ar Dduw eisieu ein profi er ein gwneyd yn hysbys iddo ef, ond ei fod yn gweled yn dda ein rhoddi mewn amgylchiadau â'n gwnelo yn hysbys i eraill, ac^ yn enwedig i ni ein hunain, tuag at i ni ein hadnabod ein hunain. Megys gydag Israel yn yr anialwch, mae yr Arglwydd yn ein harwain oddiamgylch, gan ein profi, er mwyn i ni wybod yr nyn sydd yn ein calon, fel, trw/r cyfan, y byddo'r gogoniant iddo ef, ac y delo lleshâd i ninnau.