Skip to main content

Tv Y DEYSOEPA. Rhif. 545.] MAWRTH, 1876. [Llyfr XLVI. CYFARFOD MISOL MORGANWG. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, ABERTAWE. Ar gais Golygydd parchedig a hoff y Drtsorfa, yr wyf yn eistedd i ys- grifenu am yr hyn a fu, ac nid yw. Y mae y cyfansoddiad, neu y sefydliad, neu pa beth bynag arall ei gelwir, yr hwn sydd ar ben fy ysgrif, wedi peidio a bod. Ynigynnuilodd am y tro diweddaf, a'r diweddaf am byth o ran pob peth sydd yn ymddangos yn awr, ar y pummed o Ionawr 1876, ac aeth allan o fodolaeth y dydd canlynol. Y mae yr elfenau a'i cyfansoddent eto mewn bod, ac felly mae yn debyg y bydd yr elfenau sydd yn ein cyfansoddi ninnau pan fyddom wedi gadael y byd ; ond y mae efe ei hun wedi diflanu. Y mae Gyfarfodydd Misol yn bod yn awr o fewn terfynau y sîr; ond Cyfarfod Misol Dwyrain Morganwg yw un o honynt, a Chyfarfod Misol Gorllewin Morganwg yw y llall, tra y mae yr ymadrodd "Cyfarfod Misol Morganwg" wedi myned i beidio cynnrychioli dim sydd yn awr, ac wedi myned i berthyn yn unig i'r blynyddoedd gynt. Ond er fy mod yn ysgrifenu fel hyn, nid wyf yn teimlo y duedd leiaf yn y byd i alaru; oblegid nid anffawd ofidus sydd wedl dygwydd i'r hen Gyfarfod Misol, ond mesur anghenrheidiol a doeth y mae o'r diwedd wedi ei gymeryd. Yr oedd wedi myned yn rhy fawr i fod yn un, ac felly ymranodd yn ddau ; ac y mae yn llawen iawn genyf allu dywedyd fod pob un o'r ddau hyny yn llawer mwy nag yr oedd yr un pan ddechreuais gyrchu i'w gynnulliadau. Yr wyf yn cymeryd i fyny y Dyddiadur am 1846, deng mlynedd ar hugain yn ol, ac yn cael fod yn Morganwg y pryd hwnw unarddeg o weinidogion ; ac yr wyf yn eu cofio yn wyth ; ond yn awr y maent ymhell dros driugain. Yr oedd y pryd hwnw wyth ar hugain o bregethwyr ; ac yr wyf yn cofio dau ar bymtheg o'r rhai hyny yn dechreu ; ond y mae nifer y pregethwyr erbyn hyn yn un ar bymtheg ar hugain. Yr oedd y capelau y pryd hwnw yn bedwar ar ddeg a thriugain, ac yr wyf yn eu cofìo yn hanner cant ; ond y maent heddyw yn llawn saith ugain. Rhoddir nifer y cymunwyr y pryd hwnw yn bedair mil a hanner, ond bellach y maent yn bedair mil ar ddeg. O'r unarddeg gweinidogion ag oeddent y pryd hwnw, nid oes ond tri yn aros hyä y dydd hwn ; ac o'r pregethwyr, y mae tri ar bymtheg wedi marw, tra y mae wyth o honynt "wedi eu neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth," a dau yn aros yn rhestr y " pregethwyr " hyd yr awr hon. Yr oedd yr unarddeg gweinidog- ion, yn agos oll yn ddynion o saíle uchel iawn yn y weinidogaeth; a bydd- ent yn gyffredin yn bur gyflawn yn y Cyfarfodydd Misol; a chan hyny yr oedd yn beth anghyffredin iawn i breg- ethwr ieuanc gael cyfleusdra "i arfer ei ddawn" yn y lle anrhydeddus a chyhoeddus hwn. Cyfarfod Misol y Pîl oedd cynnull- iad mawr y flwyddyn. Cynnelid ef yn amser y Calan; ac yno, wedi ymadawiad y doniol a'r duwiolfrydig Dafydd Nicholl, Morgan Rhys oedd y pen blaenor. Efe oedd yn " trefnu y modd- ion" ac yn cyhoeddi y drefn hono ar