Skip to main content

X DEYSOEFA. Rhif. 544] CHWEFROR, 1876. [Llyfh XLVI. ADDYSG DEÜLUAIDD I GYDWEITHIO A'R YSGOL SABBOTHOL A;R PULPUD. GAN Y PARCH. THOMAS EDWARDS, CWMYSTWYTH. Mae y geiriad uchod ar y testun yn cynnwys y dealltwriaeth fod yr Ysgol Sabbothof a'r Pulpud gyda y gwaith o addysgu yr ieuenctyd, ac, yn gystal a hyny, focl yr addysg o'r natur sydd yn ddynaunol ac anghenrheidiol i oleuo a thywys yr ieuenctyd i ffyrdd rhinwedd a chrefydd. Pell ydym oddiwith fod yn argyhoeddedig fod sefydliad yr Ysgol Sabbothol yn ateb y dyben i'r graddau y dylai, ac y gallai fod, yn ein plith y dyddiau hyn. Ac y mae yn ammhëus gan lawer a ydyw yn dyfod i fyny mewn rhai ystyriaethau â'r hyn ydoedd yn nyddiau ein tadau ; ac ofnir, tra y mae wedi ennill mewn rhai ffurfìau mwy prydferth, ei bod wedi colli mewn eraill mwy defnyddiol. Mae llawer iawn mwy o esbonio, o'r fath ag ydyw; ond ai nid oes llawer llai o gymhwyso y gwirioneddauatfeddyliau a chalonau y dysgyblion ? Eithr heb sôn am ragoriaethau y dyddiau gynt, na diffygion y dyddiau presennol, ond yn unig cymeryd yr Ysgol Sabbothol fel y mae heddyw yn ein gwlad,—nis gallwn lai na'i chydna- bod fel un o'r sefydliadau mwyaf gogon- eddus a bendithiol a fedd y byd, ac yn neillduol felly i ni yn Nghymru, a'r hon sydd yn parhâu i ateb dybenion anmhiisiadwy fel un o'r moddion mwyaf effeithiol i oleuo, moesoli, a chrefyddoli ein cenedL Mae wedi ac yn bod yn effeithiol i osod gwêdd ardderchog ar ein gwlad, fel y gallwn ddeall wrth ei chymharu â'r hyn ydoedd gynt. Nid anmhrîodol fyddai galw ein darllenwyr i ystyried yr olwg a welir ar ein hardaloedd ar ddydd yr Ar- glwydd. Gwelir gan mwyaf ddwylaw pawb wedi eu selio oddiwrth orchwyl- ion cyffredin y chwe' diwrnod; a thua'r | oriau deg yn y bore, neu ddau y pryd- I nawn, gwelir agos o bob annedd ddau j neu dri, mwy neu lai, wedi eu trefnu , eu hunain mewn dillad gweddus yn ] cyfeirio eu camrau tua rhywle sydd ! wedi ei neillduo i gydgyfarfod ynddo. : Awn i mrwn er cael gweled beth sydd I yn myned ymlaen yno. Yn gyntaf olî, j dyna weddi a mawl yn cael eu hoffrwni i'r Hwn a wnaeth y nefoedd a'r ddaear, y i môr, a'r hyn oll sydd ynddynt. Yna l wele bob athraw gyda'i ddosbarth yn j dechre ar eu gwaith. Ac fel yr oedd y ddau gerub yn edrych ar y drugar- | eddfa, wele bawb yn y fan wedi eu I dwyn i edrych ar ryw lyfr sydd yn eu dwylaw, gan graffu arno. Attolwg, beth ydyw ? Y Bibl, yr hwn y mae ei holl gynnwys yn tueddu at ogoneddu Duw a dwyn dyn colledig at Iesu Grist y Gwaredwr. Tra y mae eraiJl yn y drafferth gyda'r plant bychain yn dechreu eu dysgu i gerdded grisiau yr A B C, a'r a-b ab, at egwyddorion y Bibl y maent oll yn cyrchu. Diam- mheu fod yr olygfa ,yn swynol i angy!- ion edrych arni, a'u bod yn barod i gyd- uno â'r hen fardd Cymreig, a gafodd eì orchfygu wrth edrych arni, fel y cânodd, " Gwel'd tyrfa yn addoli Yr Arglwydd yn ei dý, Yw 'r olwg fwyaí hyfryd 0 dan y nefoedd sy'."