Skip to main content

Y DRYSORFA. RHIF. 518.] RHAGFYR, 1873. [Llyfr XLIII. SEFYDLOGRWYDD GORUCHWS'LIAETH YR EFENGYL. GAN Y PARCH. WILLIAM JAMES, ABERDAR. Hebreaid xüi. 8: "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Y'MAE yn anhawdd penderfynu pa un sydd fwyaf priodol, ai cysylltu yr adn- od hon â'r un sydd yn ei blaenori, ynte â'r un sydd yn ei chanlyn. Fe allai nad ydyw yn anmhriodol ei chysylltu â'r adnod flaenorol: "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Meddyliwch am danynt ar ol eu hymadawiad; ystyriwch eu bywyd duwiol a Uafurus, a myfyriwch ar eu diwedd dedwydd a thangnefeddus. Ond er eu bod hwy wedi eich gadael, a bod eu lle yn wâg yn yr eglwys, na thristewch yn ormodol ar eu hôl, gan fod yr Iesu yn aros gyda chwi; ni bydd ei le ef byth yn wâg: " Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Y mae y cysylltiad yna yn cyfleu syniad cysurus ac efengyl- aidd iawn, sef, arosiad yr Iesu yn ngwyneb ymadawíad y blaenoriaid. Neu, y mae yn bosibl cysylltu yr adnod â'r un sydd yn ei chanlyn: " Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Gan hyny, am ei fod efyrun, "Na'charweinieroddiamgylch âg athrawiaethau amryw a dyeithr." Nid oes un cyfnewidiad hanfodol i fod bellach ar grefydd, gan ei bod wedi cyrhaedd ei pherffeithrwydd eithaf yn Mherson a gwaith Iesu Grist; ac y mae y perffaith i gael aros yn ddigyf- newid. Y mae yn hawdd canfod y meddwl yna i'r geiriau yn eu cysyllt- iad â'r adnod naenorol. Er boa y blaenoriaid wedi ymadael, dilynwch eu ffydd. Eu crefydd hwy sydd i fod yn grefydd i chwithau; er eu bod hwy wedi eu symud, nid ydyw crefydd wedi cyfhewid. " Iesu Grist," gwrth- ddrychmawr eu ffydd, a swm a sylwedd eu gweinidogaeth, mae efe "yr un ddoe a heddyw, ac yn dragywydd;" ganhyny, "na'ch arweinier oddiamgylch âg ath- rawiaethau amryw a dyeithr." Y mae y cysylltiad hwn yn eithaf naturiol, ac yn cydgordio yn hapus âg amcan yr epistoL Amcan yr ysgrifen- ydd ydoedd ceisio tawelu meddyliau yr Hebrëaid, a'u hannog i ymsefydlu o ran eu meddyliau yn ngwirioneddau Dwyfol y grefydd Gristionogol. Er eu bod wedi derbyn Cristionogaeth un- waith gyda phob parodrwydd meddwL yr oeddynt erbyn hyn yn amlygu tuedd gref i'w gadael, a derbyn ffurf arall o grefydd yn ei lle. Yr oedd yn anhawdd cael y byd i ymsefydlu ar unwaithmewn crefydd anghymewidiol, ar ol bod yn cael ei arwain oddiamgylch am gyhyd o amser "âg athrawiaethau amryw a dyeithr." Yr oedd hanes y byd, mewn ystyr grefyddol, cyn dyfod- iad y Messiah, yn debyg iawn i hanes yr Atheniaid, am nad oedd ganddo hamdden i ddim arall ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd. Yr oedd y bobloedd megys yn ymwybodol nad oedd y crefyddau oedd ganddynt yn ddigonol, ac am hyny yr oeddynt yn barhäus yn rhedeg ar ol rhyw grefydd newydd, neu ffurf newydd ar hen grefydd. Yr oedd y pagaaiiaid yn ychwanegu at nifer eu duwiau yn bar- 2 L