Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 517.] TACHWEDD, 1873. [Llypr XLIII. DELW CRIST AR DEIMLAD AC EWYLLYS. Pregeth Angladdol i'r diweddar Barchedig John Mills, a draddodwtd yn Nghapel Nassau Street, Llundain, nos Sabboth, Medi 21, 1873. GAN Y PARCH D. CHARLES DAVIES, M.A. Rhufeiitiaid x. 1: " O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth." Testun yw hwn, nid i lefaru oddiarno heno, ond er coífadwriaeth am frawd a chyfaill anwyl sydd wedi ymadaw oddi- wrthym. Yr oedd yn cynnwys profiad Paul ar y cyntaf, ac mor sicr â hyny, brofiad ein cyfaiíl, bron o dymmor ei ieuenctyd i ddiwedd ei oes. Am hyny, priodol yw ei ddefnyddio fel arwyddair cymhwys i'r sylwadau a wneir ar ei gymeriad fel dyn ac fel cristion. Y mae yn amlwg mai y pwnc mawr sydd i'w bregethu yw Person yr Ar- glwydd Iesu. Pa wybodaeth arall bynag sydd yn ddymunol i'w chyrhaedd ymhlith pechaduriaid fel y cyfryw, ei hunig gynnwysiad a ddylai fod, " Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." "Md ydym ni yn ein pregethu ein hunain," na'n gilydd ychwaith, " ond Crist Iesu yr Arglwydd." Yn y gol- ygiad hwn, y mae mater gweinidogaeth yr efengyl yn gyfyng ; ac eto mewm golygiad arall, y mae yn ëang ; o her- wydd ni a gawn bregethu Crist croes- hoeliedig, ymha le bynag y ceir ef. Y mae efe erioed a byth yn mynwes ei Dad. Fe fu yn Bethlehem, a Nazareth, a Capernaum, ar y môr a'r mynydd, yn y synagog a'r deml, yn yr ardd, ar y groes, mewn bedd, ac y mae yn y nef- oedd. Ond y mae hefyd mor wirion- eddol, er nad yn yr un ystyr, yn ngalonau ac ymddygiadau y rhai a gredasant ynddo. Yn yr efengyl yn ol Ioau, Mab Duw yn y gogoniant oedd iddo gyda'r Tad cyn bod y byd, yw y dechreuad. Yr Iesu yn ei eiriau, ei weithredoedd, ei ddyoddefiadau, ei angeu, ei ymweliadau â'i ddysgyblion ar ol ei adgyfodiad, a gawn i ddiwedd yr ugeinfed cennod. Ond y mae un bennod yn ychwanegol,—yr unfed ar hugain. Yr Iesu eto sydd yn hono. Ond y mae yn hono yn nghalon a gwaith a merthyrdod Simon Pedr. Yn y bennod gyntaf o'r llythyr at y Colos- siaid, ar ol darlunio yr Iesu yn ei ogon- iant fel cyfrwng crëadigaeth, rhaglun- iaeth, ac iachawdwriaeth y byd, y mae yr apostol yn ychwanegu llinell arall, ag oedd yn meddu cymaint o fawredd â dim a ddywedodd o'r blaen: " Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant." Er na chawn bregethu Paul, ni a gawn bregethu Crist í'el yr oedd yn byw yn Paul. Duw a ymddangosodd yn y cnawd yn yr Iesu. Ac wedi hyny ie ymddangosodd mewn gwêdd arall yn y rhai a gredasant ynddo. Fe eglurwyd bywyd Iesu yn eu corff, yn eu marwol I gnawd. Felly y dywedodd yr Iesu ei hun : " Y dydd hwnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi," ac un peth eto : " a minnau ynoch chwithau." Nid oes un credadjTi a fedr ei hun yn unig ddangos yr Iesu yn yr oll ag ydyw o ran ei gymeriad moesol ac ysbrydoL Tra y mae Efe yn ddigon mawr i gyn- nrychioli pawb a gredodd ac a grêd 2 n