Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhif. 516.] HYDREF, 1873. [Llypb XLIII. "ISRAEL YN DILYN DEDDF CYFIAWNDER." GAN Y PARCH. DAVID JONES, LLANBEDR, MEIRION. Y mae yn eglur iawn mai dynwarediad ydyw defodaeth Eglwys Loegr o sere- monîau y grefydd Babaidd, a bod defodau yr Eglwys Babaidd yn dwyn delw seremoniau cyfraith Moses. Ced- wir yn yr Eglwys Babaidd wyliau gosodedig, ac y mae yr offeiriad, yr aberth, a'r allor ganddi, megys yn yr eglwys gynt. Nid oes yr un rheswm gwell dros fod yr eglwys Gristionogol wedi dirywio fel ag i ymwisgo mewn defodau cnawdol, na balchder a gwendid dyn syrthiedig : balchder, oblegid fod yr hwn sydd yn meddu ffydd yn " ym- wrthod â chymaint oll ag a feddo;" a gwendid, am fod ffydd yn amlygiad fod y r hwn sydd yn ei meddu wedi gorchfygu ei hunan, a " gorchfygu gyda Duw." A dyweyd y lleiaf, methodd Israel a chyrhaedd cyfiawnder er cael y defodau. A chaniatâu mai manteisiol ydynt tuag at ei gyrhaedd, y mae yn wirionedd y troisant allan yn aneffeithiol i'r eglwys luddewig. Ac nid rhai cyffredin oedd- ynt. Yr oedd y bobl yn neillduedig gan yr Arglwydd; llwyth arbenig o ofFeiriaid ganddynt, ordeiniedig, gan Dduw, pa rai a gadwent i fyny yr olyn- iaeth offeiriadol yn ddifwlch ; aberthau wedi eu nodi i gael eu hoffrymu ar allor wedi gosod i fyny yn ol archiad y Deddf- roddwr ; tân a dwfr sanctaidd yn y tỳ ; arogldarth a'i ddefnyddiau wedi eu nodi allan yn fanwl gan eu Duw. Derbynias- ant fel eglwys eu cyfraith a'u hordein- iadau yn nghanol mawredd anghyffred- in; cedwid y gyfraith ganddynt ar ol ei chael yn yr arch, a'r arch a sanctaidd bethau eraill yn y sancteiddiolaf—yn relics a daflent ddirmyg ar bob creiriau yn yr adgof anwyl a berthynai iddynt. Ac yn ben ar y cwbl, tabernaclai Duw yn eu plith—trigai rhwng y cerubiaid, ac o'r herwydd gelwid eu prifddinas yn "ddinas y Brenin Mawr." Ond a fu cenedl mor anffodus? adrôdd manteision mor arbenig mor siomedig i rywrai? Dyma y bobl a fuont oll dan y cwmwl, ac a aethant oll drwy y môr—y bobl a fwytasant ac a yfasant yn ngwydd Duw; " ac ni bu Duw foddlawn i'r rhan fwyaf o honynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffaethwch." Er rhodio y áydd a gwersyllu y nos megys yn ei gysgod, dyma y bobl a fethodd gyrhaedd Canaan. Diddymasant gyfammod Duw, ac ni thrigasant ynddo. Sicr ydyw eu bod wedi methu er cael y defodau. Ond ynglŷn â hyn, y mae gwirionedd arall yn dyfod i'r golwg, mai un o amcanion Duw yn "gosod arnynt" ddefodau oedd i'w hargyhoeddi o'u hanallu i gyrhaedd bywyd tragyw- yddol drwy unrhyw weithredoedd da. Yr oedd amryw amcanion gan Dduw yn rhoddiad y ddeddf a'r seremonîau i genedl Israel. Arfer Duw yn fynych ydyw peri fod un weithred yn ateb llawer o ddybenion. Y mae swper yr Arglwydd o dan y testament newydd wed ei ordeinio er côf am Iesu Grist, ae hefyd i fod yn foddion gras. Syniad eglur yn yr ysgrythyrau ydyw bod yr oruchwyliaeth Iuddewig yn "gysgod daionus bethau a fyddent," yn cyfeirio ymlaen at " waed Crist^" afc "dabernacl B9