Skip to main content

Y DRYSOEFA. RHIP. 515.] MEDI, 1873. [Lltfr XLIII. CYNGHORION GWEINIDOGAETHOL I HEN AC IEÜANC. Tmrs ii. 1—6 : " Eithr llefara di y pethau a weddo i athrawiaeth iachus : bod o'r henafgwyr 5 n sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yn nghariad, mewn amynedd : bod o'r henaf- wragedd yr un ifunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd ; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i wìn lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni; fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuaiuc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant, yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i'w gwỳr priod, fel na chabler gair. Duw. Y gwŷr ieuainc, yr un ifunud cynghora i fod yn sobr." Y mae Paul yn ei epistol hwn yn rhoddi cyfarwyddiadau gwerthfawr i Titus tuag at gyflawni ei swyddogaeth bwysig yn Creta ; ac ymhlith pethau eraill, y mae yn ei gynghori i gyhoeddi athraw- iaeth gras mewn cysylltiad â hyffordd- iadau ac annogaethau i ddyledswyddau moesoL " Eithr llefara di y pethau a weddo i athrawiaeth iachus." Dyna yr athrawon o'r enwaediad yn athrawiaethu y pethau ni ddylid, er mwyn budrelw ; y maent hwy yn ofer-siaradus, yn dwyllwyr meddyliau, yn dwyn ymlaen chwedlau Iuddewaidd, i ŵyrdroi eneidiau oddi- wrth y gwirionedd; a dyna gristionog- ion Creta, 0 herwydd eu cynneddfau neu eu harferion blaenorol, a'r llygred- igaethau sydd yn ffỳnu o'u hamgylch, mewn dirfawr enbydrwydd i syrthio yn ysglyfaeth i'r cyfry w athrawon peryglus. "Eithr" tydi, 0 Titus, yn llwyrwrth- wyneb iddynt hwy, a iawn gyfreni efengyl Crist: " llefara di y pethau a weddo i athrawiaeth iachus ;" athraw- iaeth fawr yr efengyl, yr athrawiaeth sydd yn dwyn iachawdwriaeth, yn dwyn ymlaen iachâd moesol, sanct- eiddiad a dedwyddwch, y rhai a'i derbynio. Dangos di fel y mae crediniaeth o'r athrawiaeth hon yn gweitbio yn dda drwy holl berth- ynasau ac amgylchiadau cymdeithas; cyfaddasa di j gwirionedd yn gy- mhwysiadol »t eefyllfäoedd j gwa- hanol bersonau a chymeriadau a gyf- erchir genyt. Ni a geisiwn egluro y cyfarwydd- iadau a'r gocheliadau a roddir i wa- hanol oedran a rhyw yn adnodau'r testun ; ac yna cyfeiriwn at orchymyn yr apostol am gyhoeddi a chymhwyso y cyfryw ddyledswyddau. I. Nodir yma henafgwyr, henaý- wrage&d, gwragedd ieuainc, a gwŷr ieu- ainc. laf. Yr henafgwyr; yr hen mewn dyddiau, hen wŷr, dynion oedranus. Yr oedd rhai felíy yn perthyn i'r broffes gristionogol yn Creta, y rhai yr oeddid i'w parchu yn herwydd eu henaint, ac y dysgwylid iddynt hwy- thau ymddwyn yn hybarch fel rhai yn gwisgo coron penllwydni. 1. Mae Paul yn arddodi ar fod o honynt "yn sobr." Fe dybygid mai ystyr benodol y gaír sobr yn y lle hwn yw gwyliadwrus; ac felly y cawn y darlleniad ar ymyl y ddalen : " bod o'r henafgwyr yn wyliadwrus:" bod yn effro, gofalus, ystyriol, manylgraff, edrych o amgylch i osgoi pob perygL Dylai henafgwyr fod yn wyliadwrus ar eu tymherau, rhag ymollwng i ddryg- naws a grwgnachrwydd anynad, a'u gwnelo yn boenus iddynt eu hunain, ac yn faich i eraill. Ac y maent i wyfio ar eu holl ymddygiad; cany» gallai ychydig ffolineb, nas cwynid nemor o'i herwydd mewn pobl ieuainc, íéü