Skip to main content

Y DRYSOBFA. Rhip. 514.] AWST, 1873. [Llyfr XLIII. Y CYNGHOR A DRADDODWYD AR ORDEINIAD PEDWAR AR DDEG 0 FRODYR I'R WEINIDOGAETH, YN NGHYMDEITH- ASFA LLANGOLLEN, MEHEFIN 13, 1873. GAN Y PARCH. DAYID DAYIES, ABERMAW. Anwyl Frodyr,—Oddiar yr ystyriaeth I fy mod yn fwy priodol i dderbyn nag i I Toddi cynghor, yr wyf yn codi i fyny \ yn wan a chrynedig. Ond gan i'r \ Gymdeithasfa yn Llanidloes fy mhen- j ocíi i sefyll fel hyn yn " lle Crist," ac | yn enw holl eglwysi Crist yn Nghyfun- ! dub y Methodistiaid Calíìnaidd yn j Nogledd Cymru, ar yr adeg arbenig j hon, dymunaf am gymhorth Ysbryd yr j Arglwydd i ddyweyd gair a fydclo yn | fuddiol. Os ydyw yn ddoeth ac yn fanteisiol nodi ar ryw ran o'r Ysgrythyr yn fwy na'i gilydd, dymunaf eich sylw at 2 Timothens iv. 2 : " Pregetha y gair; bydcl daer mewn am- ser, allan o araser; argyhoedda, cerydda, aunog, gyda phobhirymaros ac athrawiaeth." Djrma yr epistol diweddaf, a chynghor diweddaf yr apostol i Timotheus. Mae efe wedi bod yn yr epistol hwn, ac yn yr epistol o'i fiaen, yn cynghori llawer ar Tirnotheus, gan gydnabod ei gyrnhwys- derau a'i fanteision. Ac i raddau helaeth, fy anwyl frodyr, yr ydych chwithau yn gyfranog o'r un manteis- ion. Un fantais y mae yn ei nodi oedd, ei fod wedi ei fagu yn ngciriau y ffydd: "Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythyr lân." Yr oedd hyn yn fantais i Timotheus, nid yn unig fel cristion, ei fod yn hyddysg yn ngair y gwirionedd, ond hefyd fel gweinidog yr efengyL Yr oedd y diweddar barch- edig a dysgedig Simon Llwyd o'r Bala yn dyweyd wrthyf, <:Llafuriwch chwi am fod yn ysgrythyrwr da, o ran nis gall neb fod yn dduwinydd da heb fod yn ysgrythyrwr da ; a rhaid bod yn ys- grythyrwr da i fod yn bregethwr da.'"r Fe ddywedir fod Whitfield yn fwy medrus i ddefnyddio y Bibl nag oedd Garrich, y chwareuwr, i ddefnyddio Shalcespere. Mae yr apostol yn cydnabod hefyd. fod Timotheus yn meddu "ffydd a chydicybod dda:" "Gan fod genyt ffydd a chydwybod dda." " Y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drig- odd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice ; a diammheu genyf ei bod ynot tithau hefyd." " Eithr bydd yn esiampl i'r ffyddíoniaid mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb." "Ffydd a chydwybod dda :" cydwybod yn cael ei chadw yn " ddi- rwystr." Mae un o'r tadau gynt wrth sylwi ar y geiriau, " Geiriau y doeth- ion sydd megys symbylau, ac fel hoel- ion wedi eu sicrhâu gan feistriaid y gynnulleidfa," yn dyweyd fod pregeth- wr yn debyg i saer yn curo hoel i fwrdd caled. Dygwydd weithiau na bydd ganddo hoel o werth ; pregethwr yw hwnw yn amddifad o bregeth. Un arall sydd a chanddo hoel ond heb forthwyl; pregethwr heb ddawn i draddodi yw hwnw. Mae arall gyda hoel a morthwyl, ond heb ebill i dyllu y bwrdd o flaen yr hoel; preg- ethwr heb gymeriad da ydyw hwnw. Uû arall sydd a chanddo yr holl