Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 510.] EBRILL, 1873. [Lltpb XLIII. UNOLIAETH Y MOESOLDEB A DDYSGWYD GAN MOSES A CHRIST. GAN Y PARCÍI MORRIS MORGAN, ABERDAR. "Canys pe eredaseeh chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: ohlegid am danaf fì yr ysgrifenodd efe." IesuGbist (Ioan v. 46.) Ymhob ystyr rhaid fod cysondeb perffaith rhwng Moses a Christ, í'el y byddai pwy bynag a gredai addysg- iadau y prií Ddeddlroddwr, yn anochel- adwy yn credu athrawiaethau y prif Efengylwr. Canlyniad naturiol unol- iaeth Moses a Christ ydyw unoliaetn y ddau Destament, gan niai Moses oedd sylfaenydd yr Hen, ac niai Crist sylfaenodd y Newydd. Cyn gosoä i lawr ein rhesymau dros unrhywiaeth dysgeidiaeth foesol Moses a'r eiddo Crist, hwyrach nad anfuddiol í'yddai gwneyd ymchwiliad i'r achosion hyny y gellid eu dwyn ymlaen yn erbyn ein gosodiad, a'r rhai yn wir a gawsant eu codi i sylw i'r dyben hwnw amryw weithiau. Tybiwyd gan lawer fod amhweig- iaeth ac ysgariaeth yn engreifftiau i'r perwyl, gan hyny teilyngant ein hym- chwiliad a'n hystyriaeth, mewn modd arbenig. 1. A ydyw athrawiaeth Moses a Christ yr un o barth i Amlwreigiaeth ] Mae yn amlwg oddiwrth ateb Crist i'r Pharisëaid ei f'od yn gwrthwynebu amlwreigiaeth : " Oni ddarllenasoch i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechreu, eu gwneuthur hwy yn wryw a banyw" (Mat. xix. 4). Yma cyfeiria at hanes crëadigaeth (Gen. i. 27). Nis gellir camgymeryd y casgliad oddiwrth y ffaith hon. Un wraig a wnaeth Duw i Addamewn diniweidrwydd, pan ydoedd dyn wedi ei ddonio â hoíl hanfodion dedwyddwch ; o ganlyniad y mae un wraig yn weíl nag ychwaneg byth er | hyny. Mae yr holl ffeithiau a adroddir yn y Testament Newydd, yn gystal a'r : cyfarwyddiadau apostolaidd, yn gyd- : weddol â'r egwyddor a osodir i lawr yma (Mat. xix. 4) gan Grist. Pan yn ; desgrifio cymhwysderau esgob, neu ! fugail, ysgriíena Paul at Timothëus, " Rhaid gan hyny i esgob fod yn ddiar- gyhoedd, yn ŵr ün wraig" (1 Tim iii. ; 2). Rhoddir yr un cyfarwyddyd, gan yr j un apostol, ar yr un mater i Titus (i. 6, 7). Drachefn, pan yn ysgrifenu \ at Timothëus ynghylch y gwragedd 1 gweddwon oeddent i'w cynnal gan yr eglwys, dywed nad oedd yr un i'w j dewis i'r nifer " dan driugain mlwydd ! oed, yr hon fu wraig i un gŵrrJ> | (1 Tini. v. 9). Ymhob man iaith y I Testament Newydd ydyw,—un wraig j i'r un gŵr ar yr un adeg. Ond a ydyw yr Hen Destament yn awdurdodi neu yn cymeradwyo fel arall ? Gadawer i ni archwilio ei gynnwysiad. Yr ydym eisoes, yn ymadroddion Crist, wedi gweled cyfeiriad at sefyllfa gyntefig yr achos hwn. Nid oedcl gan Adda ond un \vraig, ac yr oedd efe wedi ei fwriadu —gallwn feddwd—i fod yn gynllun i'w hiliogaeth—holl ddynolryw. Y pryd hwnw y dy~wedodd Duw (yn ol esbon- iad Crist), " Oblegid hyn y gâd dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig; a'r ddau a fyddant yn un cnawd." Ni ddywed Duw yn unlle, A'r tri, neu y pedwar fyddant yn un cnawd, ond, "a'r ddau fyddant yn un cnawd." Dyna, ynte, ädeddf priodas w^edi ei chyhoeddi yn ddiammwys ar foreu