Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhif. 509.] MAWRTH, 1873. [Llyfr XLIII. ADDYSG AR YSGOL SABBOTHOL. GAN Y PARCH. JOHN EYAN8 (I. D. FFRAID). Dodais yr Ysgol Sabbothol mewn cysylltiad âg addysg, am mai hi yw prif-athrofa dyn í'el crëadur moesol. Xid oes gan ysgolion y byd namyn gwyddorau yn gallu taflu eu goleu gwan o fewn terfynau cyfryngol amser; ond y mae yn addysg y Bibl elfenau a ddys- gleiriant byth mewn anfarwoldeb. Deil ef ei lamp i dywynu ar dywyllwch marwolaeth nes ei droi yn oleu ddydd, gan ddadguddio gorsedd Duw trugarog, ac egluro llwybr pechadur i dŷ ei Dad, a chartref bywyil ac anllygredigaeth. Ymorfoledda yn ehangder ei derfynau a thra-rhagoriaeth ei amcanion uchel. Mae addysg yn ymranu yn naturiol i ddwy ran—y grefyddol a'r fydol; ac nis gall fod yn gyflawn heb gynnwys y ddwy. Ac er mai yr un gwrthddrych- au sydd i'r addysg hwn yn ei gyfan- rwydd, eto nid yw yn canlyn mai yr un offerynau a raid gyfranu y naill ran a'r llall o húno. Gall y wladwriaeth roddi yr ysgolfeistr ar waith i gyfranu addysg bydol; ond dyledswydd yr eglwys gristionogol yw rhoddi addysg crefyddol. Hònir gan lawer fod y sawl a fynant gyfyngu yr ysgolfeistr dyddiol i addysg bydol yn unig, yn gweithredu fel gwadwyr Duw, y Bibl, a Christionogaeth. O'r ochr arall, gellir dyweyd fod y cristionogion hyny a geisiant daflu addysg crefyddol ar ysgwyddau yr ysgolfeistri bydol, yn ymwrthod â'r cyfrifoldeb o ddysgu y gwirioneddau hyny na ymddiriedwyd gan Ben yr eglwys i ofal neb ond ei eglwys ei hun fel y cyfryw. Mae y byd wedi deffro i wneyd ei ran yn addysgiaeth y genedl: deffröed yr eglwys i wneyd ei rhan hithau. Mae pob ymgais a wneir ganddi i dafiu ei baich ar ysgwyddau y wladwriaeth yn brawf o ddiffyg adnabod ei gwaith ei hun, neu o ddiffyg ffydd yn nyJanwad ei gallu addysgol. Yr eglwys a biau y rhan bwysicaf o addysg ; ac os aiff y byd ar gyfeiliorn am na roddir addysg I crefyddol yn yr ysgolion dyddiol, got'- | ynir ei waed ar ddwylaw dysgyblion I anffyddlawn a gweinidogion diog a ! diofal, ac nid ar ddwylaw na bwrdd j ysgol, na chorfforiaeth, na senedd, na phenadur. Tra yr ymgynhyrfa y byd I gan ymdrechiadau i ledaenu addysg | bydol, mor ddymunol fyddai gweled yr | eglwys wedi ei meddiannu gan awydd- | fryd sanctaidd i ddodi ei holl ym- adferthoedd ar waith i roddi addysg crefyddol i holl ieuenctyd y deyrnas ! Mae yn amlwg mai y piif foddion i gyfranu yr addysg hwn yw yr Ysgol Sabbothol, yr hon nad yw amgen na'r eglwys yn gweithredu yn y tfurf o ysgolfeistr crefyddol. Mae yr Ysgol Sabbothol wedi cael dylanwad mawr eisoes ar y genedl, ac nid ar neb ya fwy na'r rhan Gymréig o hóni. Eithr nicl yw yr ymdrech o'i phlaid yn gyfartal eto i allu yr eglwys, heb sôn am gyfateb i fawredd y genadwri. Mae yn berygl meddwi ar yr helynt a'r drafferth yn sefydlu ysgolion dyddiol, a cholli golwg ar hawliau mawrion a dybenion goruchel yr Ysgolion Sab- bothol. Pa bryd y daw cyfranu addysg crefyddol, nid gan yr ysgolfeistr gwladol, ond gan yr eglwys ei hun, yn bwnc y dydd? Pa bryd y daw pob aelod o hóni i ymdeimlo â'i rwymedig-