Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 508.] CHWEFROR, 1873. [Llyfr XLIII. Y GRAS O GYFRANU.' GAN Y PARCH. WILLIAM HOWELLS, LLYWYDD COLEG TREFECCA. "Edryclrwch ar fod o honoch yn y gras lnvn hefyd yn ehelaetli." 2 Corinthiaid viii 7. Mor hawdd yw cael testun ar tm- rhyw fater cristionogol yn ysgrifen- iadau Paul! Mor ëang yw cylch ei addysg, oddiwrth ddirgelion dyfnaf ein crefydd hyd y manylion lleiaf sy'n perthyn i ymarferiad duwiol! Ymae yn anilwg hefyd ei fod ef nior gartrefol gyda'r naill a'r llall, a'i fod yn gweled yn eglur y dolenau cryfion sydd yn cydgysylltu. holl ranau gwirionedd yr elengyl. Oddiyma ni a ganfyddwn "ei gyfanrwydd deallol ac ysbrydol. Gyda pherffaith wylder, ac eto gyda llawn liyder, gallasai efe lefaru am dano ei hun "megys pen-saer celfydd/' yn meddu syniacl clir am holl saile y gwirionedd, ac yn abl i osod gyda llaw gadarn y sylfeini hyny ar ba rai y byddai raid i'r | holl athrawon a'r dysgadurion dyfodol adeiladu. Y mae iâs yn myned trwy enaid un wrth ddarllen y geiriau oihad- wy hyny, sydd morfynegoi o argyhoedd- iad dwfn ac o'r awdurdod uchaf, " Megys y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awrhon dracheín yn dywedyd, Os efeng- yla neb i chwi amgen na'r hyn a dder- byniasoch, bydded anathema." Yr oedd y zêl anílinedig a arddan- gosid gan Paul mewn mynegu holl gynghor Duw yn cyfodi nid yn unig oddiar ei fod wedi derbyn yr efengyí yn uniongyrchol oddiwrth yr Arglwydd, ond hefyd oddiwrth ei fod yn gweled ei gwirioneddau bywiol yn tarlu eu gwreiddiau i Berson a gwaith Crist, " yn yr hwn y mae holl drysorau doeth- ineb a gAvybodaeth yn guddiedig." Yr oedd efe yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, "yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw." Yr un modd yr oedd yr awyddfiyd â pha un yr oedd efe yn ymestyn at berffeithrwydd cymeriad yn cael ei borthi gan ei ddymuniad i fod yn gwbl gydffurfìol â Christ, yr hwn sydd oll yn berffaith. Yr oedd Crist yn trigo yn ei galon trwy ffydd. Yr oedd Crist 3Tnddo, yn difa ei bechodau, ac yn ei gynnal yn ei ymdrech diymmod am sancteiddrwydd. Llais Crist a glywid yn ei bregethiad ; pan yr ysgrifenai, yr oedd yn ymddangos i'el yn trochi ei ysgrif bin yn ngwaed yr Oen ; yr oedd nodwedd Crist yn tywynu pan y gweith- redai a phan y dyoddefai; pa un bynag ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydoedd. Dracheín, pan yn ceisio d}T- chafu yr eglwj'si i fyny at ei safon uchel ei hun, yr un meddwl llywodr- aethol sydd yn fllachio allan. Wedi cyfres hir o annogaethau pwysig a gyn- nwysir yn y ddeuddegfed bennod, a'r drydedd ar ddeg, o'r epistol at y Rhuf- einiaid, y mae yn eu symio i fyny yn hyn: " Gwisgwch am danoch yr Ar- glwydd Iesu Grist," RÌiagorfraint yr eglwys eto y^v dysgu perffeithrwydd yn ol Crist wrth draed I Paul, yr hwn sydd mor gyfhawn íel ; cristion. Ynglỳn â'n pwnc, mae yn | ddigon i ni nodi dau o'r ansoddauhyny | sydd yn perthyn i gymeriad cristionogol ! p^erffaith, fel ei gosodir allan ganddo ef, I sef helaethder a chyfartaledd. Y mae | maint heb gyfartaìedd, yn gystal a j bychander pa mor wiw-gyfartal bynag, | yn anmherffeithiau. Ymddengys fod j Paul yn edrych ar y bai diweddaf fel 1 yr un gwaethaf. Y mae rhywbeth yn