Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 507.] IONAWE, 1873. [Llyfr XLIII. TEYRNAS DDUW. GAN Y PARCH. DAVID CHARLES, D.D., ABERYSTWYTH. Matthew vi. 10 : "Deled dy deyrnas." "Ac yn nyddiau y breninoedd hyn," meddai Daniel yn ei ddeongliad o'r ddelw fawr yn mrenddwyd Nebuchod- onosor, " y cyfyd Duw y nefoedd fren- iniaeth yr hon ni ddystrywir byth ; a'r freniniaeth ni adewir i bobl eraill; ond bi a faluria ac a dreulia yr holl fren- iniaethau hyn, a hi a saif yn dragy- wydd." Dyma y freniniaeth neu y deyrnas y gweddîir am ei dyfodiad yn ngeiriau y testun. Un meddwl sydd yn rhedeg trwy weddi yr Arglwydd, ymha un y mae holl weddiau plant Duw yn gynnwys- edig; a'r meddwl hwnw yw dyfodiad teyrnas Dduw. Mae yr un meddwl hwn yn cael ei osod allan mewn dau gysylltiad yn y weddi; sef, yn gyntaf, yn gyfeiriol at Dduw yn ei berthynas â dyn; ac, yn ail, yn gyfeiriol at ddyn yn ei berthynas â Duw. "Sancteiddier dy enw—deled dy deyrnas—gwneler dy ewyllys ;" dyna gyfeiriad at Dduw yn ei berthynas â dyn, yn nyfodiad y deyrnas. Fr dyben hwn, "dyro i ni ein bara—maddeu ein dyled—nac ar- wain ni i brofedigaeth—gwared rhag drwg ;" dyna gyfeiriad at ddyn yn ei berthynas â Duw, a'r cwbl yn dwyn cysylîtiad â dyfodiad y deyrnas. Ac yn niwedd y weddi gynnwysfawr hon, y mae y sail dysgwyliad am atebiad yn cael ei dodi i lawr, " Canys eiddot ti yw y deyrnas, a'r nerth, a'r gogon- iant, yn oes oesoedd, Amen." Gweddi, gan hyny, am ddyfodiad teyrnas Dduw yw gweddi yr Arglwydd o'i de- chreu i'w diwedd ; ac yn hyn y mae hi yn sylwedd hanfodol pob gwir weddi o eiddo pob credadyn ymhob oes. Ar y pryd y llefarwyd geiriau y weddi hon gyntaf gan yr Athraw mawr, yr oedd teyrnas Dduw ar fedr ymddangos, ac yr oedd dysgwyliadau mawrion yn y byd yn gyffredinol am ei hymddangosiad, a hyny yn neillduol ymysg yr Iuddewon. Yr oedd y dys- gwyliadau hyn wedi eu sylfaenu ar y prophwydoliaethau, y rhai a ragdyst- ient am dani, ac a gyfeirient mewn modd arbenig at y Messiah fel Brenin. Crybwyllwn rai o honynt. " Minnau a osodais fy Mrenin ar Sion fy mynydd sanctaidd," meddai Dafydd (Psalm ü 6). " A bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef," meddai Esaiah (Esa. ix. 6). "Brenin a deyrnasa ac a lwydda; a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, Yb Arglwydd ein Cyfiawnder," meddai Jeremiah (Jer. xxiii. 5, 6). "A'm gwas Dafydd fydd Brenin arnynt; ie, un Bugail fydd iddynt oll," meddai Ezeciel (Ezec. xxxvii. 24). " Mi a welwn mewn gweledigaeth nos," ebe Daniel, "ac wele, megys Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr Hen Ddihenydd y daeth, a hwy a'i dygasant ger ei fron ef ; ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a breniniaeth, fel y byddai i'r holl bobloedd, cenedl- oedd ac ieithoedd, ei wasanaethu Ef; ei lywodraeth sydd lywodraeth dar- gywyddol, yr hon nid ä ymaith, a'i freniniaeth ni ddyfethir" (Dan. vii. 13, 14). " Wedi hyny y dychwel meib- ion Israel, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin," meddai