Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 494.] RHAGFYR, 1871. [Llyfr XLT. PAUL AC IAGO AR GYFIAWNHAD. CYFIAWNÍIAD TRWY FFYDD YN* UNIG YK OL PAUL, A CHYFIAWNHAD AVKITHKEDOEDD AC NID 0 FFYDD Y.N' UNIG YX OL IAGO. RHUFEINIAID III. 23. IAGO II. 14—2(3. GAN Y PARCH. DR. J. HARRIES JONES. Yii allai nad oes yr un adran o fewn corff yr Ysgrythyr ag y mae mwy o walianol farnau yn ei chylch â'r adnod- au uchod y cyfeirir atynt yn Epistol Iago. Edrychir arni fel maes y frwydr yinha un yr ymrestra byddinoedd yr eglwys Rufeinig a'r eiddo yr eglwys Brotestanaidd yn erbyn eu gilydd, ac yr ymdrechant o blaid yr hyn a ystyrir ganddynt yn wirionedd a daerbyniwyd trwy Ddwyfol Ysbrydoliaeth,—y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint. Y mae yn hysbys fod duwinyddion yr Eglwys ÌBabaidd yn ffafriol iawn i Epistol Iago, a hyny yn benaf o herwydd eu bod yn cael ynddo y gynnaliaeth gryfaf a'r sylfaen gadarnaf i'w golygiadau neillduol ar gyfiawnhâd. Luther o'r ochr arall a alwai Epistol Iago yn epistol gwellt, a hyny o herwydd ei fod yn methu cysoni ei ddysgeidiaeth â rhanau eraill o'r Ysgrythyr, ac yn enwedig Epistolau Paul ar y pwnc o gyfiawnhâd. Os oes anghysondeb gwirioneddol, ac nid ymddangosiadol, rhwng Iago a Paul ar yr athrawiaeth dan sylw, yna y mae yn annichonadwy fod y naill fel y llall wedi ei gynhyrfu gan Ysbryd Duw i lefaru geiriau ag sydd yn cynnwys syniadau hollol groes i'w gilydd ; oblegid ar y dybiaeth hono buasai yr Ysbryd Dwyfol yn gwrth- ddywedyd ei hun, yr hyn beth sydd yn anmhosibl. O ganlyniad, ar y dyb- iaeth fod yr epistol yn dysgu athraw- iaeth hollol groes i wirioneddau eraill a roddwyd yn ddiammheuol i ddynion frfly gyfrwng Dadguddiad Dwyfol, yr oedd Luther yn iawn yn ei waith yn gwrthod cydnabod yr epistol fel yn petliyn i Ganon yr Ysgrytliyr. Ond os ydyw Epistol Iago yn rhan o'r Ysgryth- yrau, fel y mae yn üdiainmbeuol ei fod, yn ol y profion mewnol ac allanol o'i ddi- lysrwydd, yna y mae ynrhaid fod Luther wedi cyfeiliorni gyda golwg ar ei gynnwysiad, ac yn^'eius am ymwrthod yn gyfaugwbl â'i ddysgeidiaeth. Y mae yn debyg fod y duwinydd galluog a'r diwygiwr enwog Avedi mabwysiadu golygiadau naillochrog ar bwnc pwysig o athrawiaeth fel ag i fod yn ánalluog i werthfawrogi yn briodol syniadau a ymddaugosent yn groes i'w ddaliadau neillduol ef arno. Er cymaint a ysgrif- enwyd ar y pwnc sydd yn ymddangos niewn dadl rhwng Paul ac Iago, hwyrach nad yw yr agoriad iawn i'w llawn gymmodiad wedi ei gael eto. Ac y mae yn ddiammheuol genym y buasai yn fwy gweddus i Luther, yn hj'trach I na gwrthod yr ej^istol, aiferyd ffydd j gyda golwg ar gysondeb athrawiaeth y ddau apostol, ac ymddiiied i boí) I gwrthdarawiad ymddangosiadol rhyng- i ddynt i gael ei chwalu o iiaen goleuni j tanbaid dysgeidiaeth Fiblaidd, yr hon sydd yn ymberffeithio o oes i oes. Y j mae yn gymhorth mawr i ddyn yn ngwyneb cyfarfod âg anhawsderau ar dudalenau'r Bibl, yn gystal ag ar ffordd Rhagluniaeth, i íod yn feddiannol ar ffydd gref yn 3^ gwirionedd. Y mae llawer rhan o'r Ysgrythyr wedi ymddan- gos yn dra anhydyn i roddi ei meddwl hyd yn nôd i'w hedmygwyr a'i chyf- 2 K