Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhip. 493.] TACHWEDD, 1871. [Llyfr XLT. DIOLCHGARWCH. PREGETH GAN Y PARCH. THOMAS REE3, CRUGHYWEL. 1 Thessaaoniaid v. 18: "Yoihob dim diolcliwcli: canys liyn yw ewyllya Duw yn Nghrist Iesu tuag atoch chwi." Mae y geiriau hyn yn cynnwys un o amryw gynghorion neu annogaethau tra buddiol a gwerthfawr,—yn cyfran- ogi o natur gorchymyn a roddwyd gan yr Ysbryd Glân trwy yr apostol Paul i'r eglwys gristionogol oedcl wedi cael ei phlànu yn ddiweddar ganddo ynninas Thessalonica, yr hon oedd mewn aai- gylchiadau neillduol ar hyn o bryd. Ond y mae yn eithaf amlwg a diam- mheuol, pa mor gymhwysiadol bynag oedd hyn atynt hwy, nad yw yn perthyn yn unig iddynt hwy, neu i'w gyfyngu yn gyfangwbl a hollol iddynt. Y mae yr un mor gymhwysiadol atom ninnau, o leiaf at gredinwyr pob oes a gwlad yn gyffredinol. Mae yr un peth yn cael ei ddywedyd wrthym ninnau yr un ffunud, yr un mor union- gyrchol a phendant. Mae yr hyn a erchir yma yn nghwmni dyledswyddau pwysig eraill âg sydd yr un mor rhwymedig. Yn y ddwy adnod flaenorol, y rhai sydd yn nodeclig am eu byrdra, yn gynnwysedig y naill mewn tri gair a'r llall mewn pedwar, yr ydys yn galw arnom i wneyd rhyw bethau sydd yn dwyn perthynas agos â bywyd ysb^dol, îe, y sydd yn hollol hanfodol i'w lwydd- iant, ei gynnydd, a'i ffrwythlonrwydd. Y mae talu sylw arbenig iddynt a'u cyflawni i ryw fesur, yn llwyr an- hebgorol i fyw yn dduwiol. Nis gall gras hanfodi yn y galon ar wahan oddiwrthynt. Y maent ar unwaith yn brawfiadau o hóno, ac yn swyddau perthynol iddo; ac nis gall bywyd Duwyn enaid dyn fod inewn amawdd bríodoL yn iach a chryf, heb fod y pefchau hyn nid yn unig genym ond hefyd yn eu haml hwynt. Nid yma yn unig ychwaith y cysylltir y pethau hyn ynghyd gan yr apostol Paul. Nid all neb fod yn gyfarwydd yn ei epistolau heb wybod ei focl yn tỳru ynghyd yr un ymarferion ysbrydol yn rhai o'i lythyrau eraill ag y mae yma ; er engraifft, Eph. v. 20 ; Col. iii. 17. Nid yr ysgrifenydd sanctaidd hwn yn unig ychwaith sydd yn gwneuthur hyn, eithr y mae engraifft arall o'r un peth yn Esaiah li. 3. Yn awr, mae y ffaith hon yn awgrymiadol iawn. Ỳ mae yn ein harwain yn auocheladwy i'r casgliad fod rhywbeth mwy na dy- gwyddiad damweiniol yn unig yn yr amgylchiad. Mae yn ddiau fod pertíi- ynas agos ac hanfodol cyd-rhyngddynt â'u gilydd. Mae y naill yn deíerau y llall. 'Y maent yn gofyn, yn diogelu, ac yn dwyn ymlaen eu gilydd; ac nis gellir cyflawni y naill yn ffyddlawn ac effeithiol heb wneuthur y lleill. Gellir edrych arnynt fel cyniíer o ddolenau yn gydiol â'u gilydd, ac yn cyfansoddi un gadwen ogoneddus, gadarn ; neu yn hytrach fel gwahanol ddefnyddiau wedi eu cydwau â'u gilydd yn gyfrodedd, ae yn cyflwyno golwg amrywiaethog a phrydferth ; neu yn fwy cywir fyth, l'el y dy wedwyd eisoes, gwahanol swydd- au yr un a'r unrhyw fywyd ysbrydol ydynt, a moddion ei ddadbíygiad. "Llawenhewch yn wastadol." Y mae hyn yn cynnwys mwy na sirioldeb tymher naturiol, llòndeí ysbryd yn unig, yr ysbrydoedd anifeilaidd yn uchel. Llawenydd yn cael ei osod gan Dduw yn y galon yclyw; llawenydd ys- brydol trwy gredu. Cydymaith gweddi'o yn ddihaid ydyw; ac nid ellir ei fwyi.- 2 G