Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehijt. 492.] HYDREF, 1871. [Llype ~$im. FFYDD A GOLWG. GAN Y PARCH. THOMAS OWEN, PORTMADOC. Gwirio^edd sylfaenol yn mhwysig- rwydd gwirioneddau i ddyn ydyw, er ei fod yn awr yn byw yn y daearol— yn set'yll yn y gweledig, fod perthynas rhyngddo â'r ysbrydol a'r anweledig. Dyma'r gwirionedd sydd yn tatla an- nhraethol bwysigrwydd i bob gwirion- edd arall am ddyn; trwy hwn y mae nerthoedd y bycì a ddaw yn ymweithio iddynt oll. Euogrwydd dyn ger bron Duw yn wyneb yr ystyriaeth yma sydd yn beth ofnadwy i feddwl am dano; a derbyn maddeuant pechodau, cael hawl a chymhwysder i etifeddiaeth y saint yn y goleuni, sydd yn codi i anfeidrol- deb mewn gwerth a phwysigrwydd. Y berthynas sydd rhwng dyn â'r ys- brydol a'r tragy wyddol, a barhâ yn oes oesoedd; nid ydyw i gael ei difodi byth. Ond y mae amgylchiadau y berthynas yn newid. Ac mae y ddau air yma, Ffydd a Golwg, yn gosod allan ddwy agwedd wahanol ar yr un berthynas hon—maent yn gosod allan ac yn cynnrychioli dwy orchwyliaeth wahanol yn sefyllfa y saint yn eu perth- ynas â phethau tragywyddol. Ffydd sydd yn gosod allan yr orchwyliaeth y maent dani yma yn y byd hwn, fel y gallwn ddyweyd, " Yr awrhon y mae yn aros, ffydd." "Wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg." Ffydd yw y cyfrwng drwy ba un yr ydym yn ymwneyd â'r ysbrydol a'r tragywyddol yn ein hystâd bresennol; ond gohog ärachefh a esyd allan sefyllfa y saint yn y byd tragywyddol yn eu perthynas â'r pethau hyn, sef eu gweled yn ddi- gyfrwng. Wrth Ffydd mae y credadyn, yn ei sefyllfa bresennol, yn rhodio fel cyf- rwng ei ymwneyd â phethau ysbrydol a thragywyddol. Mae amrywiol ffyrdd wy ba rai yr ydym yn cyrhaedd gwybodaeth am bethau o'r tu allan i ni ein hunain, sef trwy gyfrwng ein syn- wyrau corfforol—gweled neu deimlo y peth; a thrwy ein rheswm, drwy gy- mharu y naill beth â'r llall, ac ymres- ymu y naill oddiwrth y llall; ac hefyd drwy dystiolaeth rhai eraill am bethau na welsom hwynt ein hunain : yr ydyni drwy y tair ffordd yna yn dyfod i wyb- odaeth am bethau y byd hwn. Ond Ffydd ydyw yr unig gyfrwng drwy ba un yr ydym yn cymdeithasu â gwrth- ddrychau mawrion crefydd. "Niwel- odd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarpar- odd Duw i'r rhai a'i carant Ef; eithr Duw a'u hegluroddi ni trwy ei Ysbryd;" a derbynir yr eglurhâd yna yn du- fewnol gan yr enaid drwy Ffydd. Gallwn edrych ar bethau Ffydd drachefn megys dan wahanol ddos- barthiadau. Dyna un dosbarth o bethau ffydd: y pethau hyny sydd yn ysbrydol o ran eu natur, fel nad ydynt, o herwydd hyny, yn dyfod o fewn cylch gwybyddiaeth ein synwyrau corfforol. Y Duw mawr sydd yn holl- bresennol o ran ei Hanfod; ond am mai Ysbryd yw, mae yn anweledig i ni. " Oblegid rhaid i'r neb sydcl yn dyfcd at Dduw, gredu ei fod ef." Nis gallwn ddyfod at Dduw drwy ei weled â'r llygad, na thrwy ei deimlo â'r dwylaw. Dosbarth arall o bethau Ffydd ydyw y pethau hyny sydd wwclûaw i'n rheswm allu eu dirnad a'u hamgyffred, megys athrawiaeth y Drindod—Tri Pherson yn un Duw—a phob un o'r Personau yn Dduw, o gyd-dragywyddol a gogyf- uwch, eto heb fod yn dri Duw, ond yn un. Dyna beth y mae rheswm yn ymddyrysu uwch ei ben, yn metnu amgyffred y dirgelwch; am fod y peth heddyw, pa fodd bynag, y tu allan i 3 D