Skip to main content

Y DRYSOEFA. Ehif. 491.] MEDI, 1871. [Llyfr %ü¥f.h GWEINIDOGION DUW I'W SANCTEIDDIO EF. CYNGHOR A ÜRADDODWYD YN NGWASANAETH YR ORDEINIAD YN NGHYMDEITH- ASFA ABERYSTWYTH, AWST 2, 1871. GAN Y PARCH. D. C. DAVIE3, M.A., LLUNDAIN. (Wedi ei ysgrifcnu ganddo ef ei hun.) Lefiticus x. 3: " Mi a sancteiddir yn y rliai a nesânt ataf, a clier bron yr holl bobl y'm sroproneddir." Llefarwyd y geiriau hyn mewn cyf- eiriad at farwolaeth meibion Aaron dan i'arn Duw. Ond nid ydych chwi, fel yr oeddynt hwy, yn offeiriaid cyfryngol rhwng Duw a dynion. Eto y niae a wnelo gwaitli eich swydd â Duw, ac â dynion, ac â'r Arglwydd Iesu, yr unig Gyfryngwr rhyngddynt. Yn eich gweddiau cyhoeddus, chwi a fyddwch yn arweinwyr cynnulleidfa yn eu hadd- oliad ger bron Duw. Wrth bregethu, chwi a fyddwch yn llefaru geiriau Duw wrth ddynion. Ac fe'ch dewis- wyd gan yr eglwysi i lywyddu yn ngweinyddiad bedydd a swper yr Ar- glwydd er eu hacíeiladaeth ysbrydol. Eel y nefoedd, yr ydych chwithau i ddadgan gogoniant Duw, ac i fynegu gwaiíh ei ddwylaw ef;. ond yn rhagori ar y nefoedd, chwi a gewch ddadgan ei ogoniant yn wyneb Iesu Grist, a niynegu ci waith yn iachawdwriaeth dynion. Ani hyny, dylai eich gwrandäwyr weled a theimlo mwy o fawredd Duw wrth eich clywed chwi yn pregethu nag y gallant yn holl brydierthwch natur. Bydded iddynt fod dan orfod i gydnabod hyny hefyd. Boed i'ch hysbryd daflu teimlad a nerth i'ch cyhoeddiad o ogoniant Duw na fedr y nefoedd wybrenol byth ei feddu ! Y mac y geiriau hyn mor gymhwys i fod yn destun ystyriaeth gan weinid- ogion yr efengyl âg oeddynt gan yr offeiriaid Iuddewig. " Mi a sanct- eiddir"—mi a fynaf fy sancteiddio— " yn" mhersonau a gwaith "y rhai a nes- ânt ataf, a cher bron yr holl bobl y'm gogoneddir" ganddynt yn eu hufudd- dod i fy ewyllys, neu ynte mewn ar- wyddion o fy anfoddlonrwydd tuag atynt o herwydd eu hanufudd-dod. Yr arwydd yn amgylchiad y testun oedd disgyniad tân o'r nefoedd i'w dyfetha. Y mae yr anfoddlonrwydd Dwyfol }m parhâu yr un eto, os nad yw yn fwy, o herwydd yr ychwanegiad yn ngwybodaeth clynion o'u dyledswydd dan oruchwyliaeth yr efengyL Ond nid yr un yw yr arwydd o hyny. Y mae yr arwydd yn ysbrydol, ac yn cyí- ateb i ysbrydolrwydd yr oruchwyliaeth. Yr arwydd yn awr yw ymadawiad Ysbryd Duw yn farnol oddiwrth ddyn nes ei adael icldo ei hun. Os ymarfer- wch â'ch gwaith yn ffurfiol, yn rhag- rithiol, yn ysgafn, er mwyn budrelw neu ryw amcan hunanol arall, na syn- wch os ryw ddiwrnod y bydd y gras attaliol ei hun wedi ei attal, ac os cewch eich hunain wedi syrthio yn wrthddrychau dirmyg byd ac eglwys, wedi gwneuthur llongddrylhad o'ch cy- meriad a'ch defnyddioldeb. Yn adn. 6, tra yr oedd Moses yn gwahardd Aaron a'i feibion i wneuthur arwyddion cyhoeddus o'u galar, dywed- odd hefyd, "Wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd." Wylo sydd briodol eto pan y mae Duw yn cymeryd ei Ysbryd yn farnol oddiwrth weinidog yr efeng- yl: wylo, nid llawenhâu—wylo, nid gwawdio—ie, wylo, nid siarad llawer 2 A