Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehip. 490.] AWST, 1871. [Llyfr ^íjff. Y DIWEDDAR BAECHEDIG EDWARD MORGAN, DYFFRYN. Pennod I. Y mae marwolaethau pregethwyr da, a gweinidogion ffyddlawn o'r efeng- yl, yn peri teimlad dwys ymysg eu cyfeillion a'u cydnabod yn gyffredinol ; ond pan y collir pregethwr o'r gradd uchaf yn y weinidogaeth, mawr ei feddwl a mawr ei galon, parod a hyawdl ei ymadrodd, llawn o ysbryd gweithio, a chyda'r cymhwysderau mwyaf at ei waith, pob peth ganddo yn gryf ond ei gorff, ie, a'r corff hwnw wecli dal yn rhyfedd, awchlaw ei allu, i wneuthur pethau mawrion, y niae'r teimlad yn angerddol ar ol y cyfryw—a'r cyfryw un oedd y Parcheclig Edward Morgan o'r Dyffryn. Planed ddysglaer iawn ydoedd efe yn nghyfundreru Method- istiaeth Cymru; ac nis gellir ond cyfrif ein bocl wedi ein hamddifadu o lawer o oleuni yn ei ymadawiad ef. Dysgwylir, a cheir yn cìdiau, fywgraff- iacl mawr a da o hono mewn un gyfrol; yn y cyfamser, y mae yn clda genym allu anrhegu cíarllenwyr y Drysorfa â'r nodiadau canlynol a dderbyniasom oddiwrth rai o'i gyfeillion hoff a ffyddlawn. Ac yn gyntaf, gan fod Mr. Morgan wedi ei dclwyn i fyny yn Llanidloes, caiff ein brawd medrus a hysbys yn y ddiaconiaeth, T. F. Roberts, Ysw., Dolenog, gerllaw y dref hono, roddi hanes ei flynyddoedd boreuol. Ganwyd Edward Morgan ar ddydd Sadwrn, M^di 20fed, yn y flwyddyn 1817. Ei rieui, Edward ac Elizabetli Morgan, oeddynt yn byw y pryd hwnw yn y Pen- tref, treflan fechan o fewn milldir a hanneri Lanidloes. Gwneuthurwrgwlan- eni oedd ei dad wrth ei alwedigaeth. Nid oedd efe na'i wraig wedi ymuno mewn proffes gyhoeddus gyda yr un blaid o gref- yddwyr. Ond er hyny ymddengys fod ganddynt barch i grefydd, o herwydd yn eu tŷ hwynt yr oedd Ysgol Sabbothol y Metholistiaid Caliìnaidd yn cael ei chyn- nal, yr hon oedd gangen fechan mewn cysylltiad âg Ysgol Sabbothol y dref, Gŵr o synwyr cytfredin cryf oedd ei dad, ac yn fuddiannol ar râdd anarferol o yni corfforcl, er nad oedd ond bychan o gorffolaeth. Bu yn cerdded yn fynych i Lundain; a'r fath oedd gwydnwch ei gyf- ansoddiad fel y gallai ddal ati am ddydd- iau yn olynol i gerdded o hanner cant i I driugain milldir yn y dydd. Gwraig ! nodedig am ei hynawsedd a'i thiriondeb ! oedd ei fam, ac o ymddangosiad llednais a | boneddigaidd, fel un yn uwch na'i sefyllfa. j Bu hi farw yn lled ieuauc mewn cymhar- iaeth, Mai27ain, 1S33; ondbu Mr. Edward Morgan (henaf) fyw hyd nes y cyrhaedd- odd yr oedran mawr o 88 mlwydd; a chaf- odd ei fendithio âg iechyd da a by\\dog- rwydd anghyffredin, ac â chyflawn fedd- iant o'i synwyrau, hyd o fewn ychydig amser i'w farwolaeth. Yn yr Ysgol Sabbothol fechan yn nhŷ ei dad y dechreuodd meddwl ieuanc Edward jmiagor. Yma y dysgodd y w^'ddor Gymraeg, gan hen ŵr o'r enw Edward Lucas; ac yr oedd er 3'n ieuanc iawn yn rhagori ar y cyffredin am dd}rsgu allan ac adrodd rhanau helaeth o'r Bibl a'r Hytforddicr. Un gwych iawn ydoedd efe fel plentyn ymhob peth ond mewn chwareu. Byth nid ymunai gycla'i gyf- oedion ieuainc, meddid, yu eu' chwareuon bychain. Pan y byddent hwy gyda'r marblcs neu y top, elai Edward o'r neilldu gyda'i lyfr, a chyda hwnw y ceid ef yn wastadol. Rhoddodd ei dad iddo addysg ddyddiol yn ol ei allu a'i sefyllfa. Bu am amser o dan ofal y Parch. David Williams, yn awr o'r America, pan yr oedd yn cadw ysgol yn Llanidloes; ac wedi hyny bu gydag un o'r enw Elijah Davies yn Cwmbelan, yn agos i'w gartref. Ao wedi symudiad ei dad i fyw i'r dref, pan oedd Edward oddeutu deuddeg oed, bu gyda-Mr. Hicks am beth amser. Tyst-