Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhii. 489.] GORPHENAF, 1871. [Llyfr XLI. GWEINIDOGAETH EFFEITHIOL. ANERCHIAD I EFRYDWYR ATHROFA Y BALA. A DRADDODWYD AR DDIWEDD YR ARHOLIAD BLYNYDDOL, MEHEFIN 2il, 1871, GAN Y PARCH. JOHN HUGHES, LIYERPOOL. Fy Anwyl Gyfeillion,—Yr oeddwn ar y cyntaf yn meddwl rhoddi rhai an- nogaethan i chwi fel Myfyrwyr yn yr Athrofa hori; ond wedi mwynhâu yr hyfrydwch o ddarllen eich papyrau, a chael fy llawn foddloni yn eich atebion, y rhai sydd yn profi i chwi fod mewn llai'ur mawr am lawer o amser, nid oeddwn yn gweled anghen am roddi i chwi un cyfarwyddyd gyda'ch efrydiau, eithr yn unig eich annog i fyned rhag- och gyda'r un ymroddiad âg a ddangosir genych yn yr adeg bresennol. Ond gan fod y nifer fwyaf o honoch cisoes wedi dechreu pregethu, ac yn golygu eich llafur yn yr Athrofa fel parotöad arnoch i lafur mwy pwysig y weinidogaeth ar ol hyn, mi a amcanaf wneuthur rhai sylwadau ar y gwaith mawr ag y ceir chwi, ni a obeithiwn, yn ffyddlawn iddo wedi gadael y lle hwn. Ac i'ch tueddu i roddi gwran- dawiad diragfarn, goddefwch i mi eich hysbysu focl yr hyn a annogaf arnoch chwi wedi cael ei awgrymu i i'y meddwl gan deimlad dwys—teimlad' sydd yn myned yn barhäus yn ddwysach—o ddiffyg, ac nid gan y profiad cysurus o fod yn meddiannu, y peth y dymunwyf eich annog chwi i ymestyn ato. Nid nn yn bwrw ddarfod iddo gael gafael f^ydd yn amneidio arnoch chwi, megys o bell, i ddilyn, ond un sydd yn gweìed y nôd yn myned yn bellach oddiwrtho bob dydd ; un sydd yn edrych arno yn beìlach o'i gyrhaedd na phan yr oedd, amryw flynyddoedd yn ol, yn eistedd ymysg y Myfyrwyr yn yr hen adeilad, ond un sycld, er hyny, yn credu nas gellir ennill dim o werth ìnewn cysylltiad â phregethu heb gadw bron y nôd uchaf yn barhäus nieddwl. Y peth y dymunwn ei argraffu ar eich meddyliau ydyw, y lle mawr sydd i bregethu effeithiol fel y prif foddion i ddychwelyd y byd at Dduw, ac fel y gwaith mwyaf pwysig o holl ddyled- swyddau gweinidog yr efengyl. Ni feddylia neb ein bod, wrth roddi y fiaenoriaeth i bregethu, yn diraddio rhanau eraill o waith y weinidogaeth. Y mae y weinidogaeth yn un, a'r berthynas agosaf rhwng ei gwahanol ranau â'u gilydd. Yn debyg ìel y mae gyda grasusau a dyledswycldau yr ef- engyl: y mae y fath gydbertíiynas a chyd-ddibyniad rhwng un ddyled- swydd neu un gras â'r lleill, fel nas gellir, &c na ddylid ceisio en hysgaru oddiwrth eu gilydd. Pe cyfyngid y weinidogaeth at un gorcliwyl, er i ìiwnw fod y mwyaf pwysig, y mae yn sicr y byddai hono yn weinidogaeth ddiffyg- iol. Mae " ysfa" am bregethu i'w wahaniaetbu oddiwrth wir ysbryd y weinidogaeth yn hyn. At gyhoedd- usrwydd y pulpucí a'r gynnulleidfa liosog y mae y cyntaf yn llygadu, ac y mae yn ddiystyr o gyìchoedd llai cy- hoedclus ; ond y mae yr olaf yn wastad yn barod i groesaAvu pob cyflcusdra i wneuthur daioni. Yr oedcl" yr Hwn a wyddai yn berffaith werth un enaid, nid yn unig yn pregethu i "fyrddiwn o bobl wedi ymgasglu ynglíyd/' ond hefyd i un—i nn Nicodemus—i un wraig o Samaria; yr oedd awyddf] yd ei ysbryd yn llosgi mor angerddol wrth ymddyddan âg un ag wrth ddysgu y torfëydd ar y mynycíd, ac fe allai yn fwy angerddol. Ÿr ydym ni, chwi a