Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 486.] EBRILL, 1871. [Llyfr XLI. CYDYMDEIMLAD CRIST. GAN Y PARCH. W. THOMAS (ISLWTN). ' Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddyoddef gyda'n gwendid ni, ond wedi ei demtio ymhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod. Am hyny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffomras yngymhorth cyfamserol." Hebheaid iv. 15, 16. Cydymdelmlad yw y feddyginiaeth oreu i galon glwyfedig. Yr ydym yn ymollwng ac yn llesgâu pan na fyddo neb i gydymdeimlo â ni ; neb yn siarad gair tyner wrthym. Braidd nad yw unigedd mewn gofid yn waetb na'r gofid ei bun. Ac yn hyn y mae gwerth penaf perthynasau a chyfeillion yn gor- wedd—eu bodyn fforddio i ni gydgym- deitbas mewn gofid. Y mae y gofid yn cael ei ranu rhwng llaweroedd, ac felly yn myned yn llai. " Calon wrth galcn " yw prif allu ysgogol a chynnal- iol cymdeitbas. " Calon wrtb galon " a wna i ni berio y rhwystrau mwyaf, a dyoddef y caledi llymaf. Y mae undeb rhwng dwy galon, neu mewn un gair, y mae cydymdeimlad, yn ein galluogi i gânu yn y nos dywyllaf, ac yn troi y croesau trymaf yn blŷf ar yr ysgwydd. Wel, y mae yr byn sydd yn anmher- ffaith. mewn dyn yn berffaith yn Nghrist. Os profasom gydymdeimlad mewn cyfaill mynwesol erioed, cofiwn fod yr un cydymdeimlad yn Nghrist— yr un o ran ei natur, ond yn anfeidrol ragori mewn effeithiolrwydd a tbyner- wch. Dau amcan mawr oedd gan Grist wrth ddyfod yn ddyn. Y dyben penaf ydoedd b'od yn Iawn dros ein pecbodau; a'r dyben arall oedd bod yn brofiadoí o'n gwendidau a'n profedigaethau. Nis gall ei brofiad personol ycbwanegu dim at ei wybodaetb o'n gortbrymderau; ond rhaid i ni ystyried fod yr Arglwydd yn cyfaddasu pethau at wendid ein dealltwriaeth ni. Wrth edrych o safle dynol, profiad yw ffynnonell naturiol cydymdeimlad. Ni ddysgir y wers hon ond yn ysgol y "cystudd mawr." O ddaear profiad y mae planigyn cydym- deimlad yn tỳnu ei nôdd a'i gynnal- iaeth: yma yn unig y mae yn tyfu; dagrau yw y r unig wla w sy dd yn ei ddy fr- hâu a'i faethu ; ac ystormydd adfyd yn unig sydd yn rhoi cadernid tragywyddol iddo. Y mae Crist yn gallu cyd-ddy- oddef gyda'n gwendid, nid am ei fod yn ein hadnabod, ond am ei fod wedi myned i mewn i'n natur, wedi teimlo ein teimladau, wedi wylo ein dagrau, wedi byw, dyoddef, a marw. Y mae hyn yn ein cyrhaedd ni; y mae dwy galon megys yn cyffwrdd â'u gilydd. Nis gall calon asio â gwybodaeth; nis gall asio ond â cbalon, a hono yn galon brofiadol. Y mae profiad personol o ortbrym- derau yn tyneru y galon. Fe aeth Crist trwy y profiad hwn. Ac fel y byddai ei brofiad yn belaethach, fe ddewisodd y sefyllfa hono ag y mae y rhif lîosocaf o'r hîl ddynol ynddi. Yn lle byw i fyny gyda'r ychydig, fe ddaeth i la^yr at y dyrfa, at y miliynau. Pen- derfynodd fyned trwy yr un profedig- aethau âg y mae corff mawr ei eglwys yn gorfod myned trwyddynt jnnbob oes o'r byd. Penderfynodd y mỳnai weled gwaelod môr y cystudd mawr. Yr ydym ni yn ceisio dewis y rhan dawelaf ar fôr amser i'w groesi. Ond am Grist, osgöai ef y manau tawel, gan ddewis y manau mwyaf tymhestlog a tbònog. Y calm yr ydym ni yn ei