Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 485.] MAWRTH, 1871. [Llyfr XLI. TREFN CADWEDIGAETH TRWY RAS. PBEGETH A DRADDODWYD GAN Y DIWEDDAR BARCH. MORGAN HOWELLS. Ephesiaid ii. 4, 5, 6: "Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, ie, pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cydfywhäodd ni gyda Christ (trwy ras yr ydych yn gadwedig), ac a'n cydgyfododd, ac a'n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu." Maent yn dyweyd mai calon y Bibl yw yr epistol at yr Ephesiaid. Bibl i bechadur yVr Bibl; nid Bibl i sant perffaith; ac y mae mwy am golledig- aetb pechadur mewn ychydig eiriau yn yr epistol hwn nag mewn un ran arall o'r Bibl, a mwy mewn lle cryno am drefn achub pechadur. Er fod pob pregethwr o anfoniad Duw yn bregeth- wr da, nid pechod ydyw fod genych chwi a chenyf finnau ein favourite preachers; ac felly er fod pob llyfr yn y Bibl wedi eu rhoddi trwy ysbrydoliaeth Duw, ac y dylem anwylo y cyfan oll, ni ddigia yr Ysbryd Glân wrthym, yr wyf yn credu, am fod ambell epistoí yn hoffach genym nag epistol arall. Ond nid mympwy, neu ryw chwaeth neill- duol, ywcredu yn rhagoriaeth yr epistol at yr Ephesiaid; y mae rhywbeth ynddo i'w weled ar ei ben ei hun yn rhyw ddyfnach ac uwch na'i holl gymydog- ion. Dywed rhai, mae yn wir, mai yr epistol at y Rhufeiniaid yw y goreu o'r holl epistolau. Y mae hwnw yn rhag- orol iawn; ond tybygaf fi fod rhywbeth rhagorach yn yr epistol at yr Ephes- iaid, er ei fod yn llawer llai ei faint. Rhyw afon lydan, ddofn, yn rhedeg yn rheolaidd a chyson, yw yr epistol at y Rhufeiniaid; ond y mae rhyw raiadrau mawr, falls rhyfedd, yn yr epistol hwn at yr Ephesiaid, sydd yn peri i mi ymron lewygu mewn syndod a mawl; ydyw! y mae yn ddigon i daflu enaid dyn o'i gorff wrth ei ddarllen. Mae yr epistol at y Rhufeiniaid fel y wawr yn cynnyddu fwyfwy hyd hanner dydd gogoniant; ond mae yn yr epistol hwn y fath daranau a mellt am ein cyf- lwr colledig wrth naturiaeth sydd yn crëu arswyd 501 ein mynwesau; ac y mae ynddo y fath wrês gydag ath- rawiaeth ein cyfodiad trwy ras, fel y mae yn ddigon i ladd pen gwan fel sydd genyf fi â sun-stroJce, os na chiliaf yn ebrwydd i'r cysgod i ryfeddu ac addoli. Clywch fel y mae yn darlunio cyflwr yr Ephesiaid cyn eu hyingeleddu trwy ras: " Oeddych feirw mewn camweddau a phechodau; yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol helynt y byd hwn, yn ol tywysog llywodraeth yr awyr, yr Ys- bryd sydd yr awrhon yn gweithio yn mhlant anufudd-dod." Ië, Paul, pecu- liarity oedd hyna yn nghyflwr yr Eph- esiaid fel rhyw sort hynod o Baganiaid; ni buost ti, a'th frodyr Iuddewig, sydd wedi dyfod i Grist Iesu, erioed fel y buont hwy. Tewch sôn; yix yr un regiment ddu yr oeddpn ninnau: "Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymar- weddiad ni oll gynt, yn chwantau y cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd, a'r meddyliau; ac yr oeddym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint megys eraill." Beth ond lamp ysbryd- oliaeth Duw yn llaw Paul a allasai ei ddysgu i weled mor glîr erchylldra ogofáau llygredigaeth natur? Dyn rhyfedd oedd yr apostol Paul;