Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 484.] CHWEFROR, 1871. [Lltfr XLI. Y GENADAETH. GAN MR. ROBERT HUGHES ('Glàn Collen), LLANGERNYW. "Pa íbdd y pregethant onis danfonir hwynt?'- Pe gellid esgyn i ryAv uchder penodol yn yr awyr ar rai adegau tua dechre mis Mai, ceid fod cynnwysiad y cym- ylau yn dyfod i lawr yn eira a darnau o rew; ond erbyn cyrhaedd i hinsawdd gynhesach, niae yn disgyn ar y ddaear yn wlaw tyner a maethlawn. Fe fỳn rhai edrych ar yr ymdrechion i gasglu arian at achosion crefyddol fel rhyw- beth rhy gnawdol a chyffredin; ond dylid cofìo fod ein rhoddion cyffredin ni, yn awyr dymherus cariad Duw, yn troi yn gawodydd o Avlaw graslawn ar eneidiau y gororiaid tywyll, a'r Cassiaid melynddüon. Mae gormod o duedd ynom i edrych ar ein gallu yn rhy fychan a distadl. Mae Duw yn ngwaith gras, fel mewn rhagluniaeth, yn hoff o bethau bych- ain. Pa fodd y rhoddir cyfrif am y ffaith mai gyda cheiniogau y tlodion, gan mwyaf, y dygir ymlaen achos teyrnas nefoedd yn y byd? Pwy ond "Efe a wna y defnynau dyfroedd yn fftn1?" a thrwy y gwlaw mân y mwydir y ddaear, ac y chwydda yr afonydd. Beth pe dywedai y dyferyn bach yn mynwes y cwmwl, 'Pa ddýben i mi gychwyn yr holl ffordd i lawr i'r ddaear ] ni bydd i mi ar ol yr ymdaith i gyd ond prin allu lleithio trwyn un glas- welltyn?' Na! mae yn cychwyn ei daith yn dawel a diddig, yn cyfiawni ei s-wydd o dan ei Feistr mawr gyda ffydd- londeb angel goleuni. Mae pethau bychain hefyd, pan mewn cysylltiad âg egwyddorion pwysig, yn gwneyd pethau maẁr. Edrychwch ar y dyn acw sydd yn cyffwrdd ft wire y telegraph: mor syml—mor gyffredin! eto gall hynyna lefaru heddwch, a chrëu llawenydd difesur mewn rhyw galon bryderna sydd yn dysgwyl y newydd draw, draw, ymhell. Bychan, a syml iawn yn wir, ydyw cyffyrddiad bŷs y wedcìw dlawd yn Nghymru â rhaff telegraph addewidion Duw; er hyny fe gyhoedda i golledigion pelldiroedd India y new- ydd annihrisiadwy, "Ganwyd i chwi heddyw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd." Bydd marsiandwyr a dynion antur- iaethus yn taflu eu holl fywyd allan mewn anfon llongau i farchnadaeth y byd pellenig, yn y gobaith y bydd idd- ynt ddychwelyd mewn amser priodol gyda chyfoeth aneirif. Marsiandiaeth ydyw teyrnas nefoedd, ac y mae rhyw- rai yn barod i anturio llawer arni, gan edrych ymlaen i'r dyfodol pell am y ffrwyth. "Bwrwdy fara ar wyneb y dyfroedd, canys ti a'i cei ar ol llawer o ddyddiau." Cei, gristion! ti gei weled dy geiniogau a'th sylltau yn dychwelyd fel llongau marsiandAvyr i mewn i 1 torth- ladd y bywyd, os nid yn gynt, dan eu llawn hwyliau, yn llwythog o berlau— eneidiau cadwedig; a bydd pyrth Caer- salem yn diaspedain gan eu llawenydd a'u gorfoledd. Unwaith, ar fore dydd Nadolig, aeth hen ŵr tlodaidd yr olwg allan i'r heol, ac estynai ei ddwylaw crynedig at nifer o blant nwyfus a chwareuent gerllaw. Wrth edryçh ar sefyllfa fethedig yr hen ŵr, teimlai amryw o'r plant awydd rhoddi rhywfaint iddo; ond cyn i hyny gael ei wneyd, dywedai un bachgen talog, o ymddangosiad da, fod ei dad ef wedi ei ddysgu i beidio cyfranu i gar- dotwyr; nad oedd hyny ond cefnogi segurdod. Ar hyn attaliwyd unrhyw