Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Rhif. 483.] IONAWR, 1871. [Llyfr XLI. PREGETH AR YR YSGOL SABBOTHOL, A draddodwyd yn Nghymdeithasfa Caergybi, Rhagfyr 7fed, 1870, GAN Y PARCH. DR. EDWARDS, BALA Actau ii. 17, 18: "A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd; a'ch meibion chwi a'ch merched a brophwydant, a'ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a'ch henafgwyr a freuddwydiant freuddwydion; ac ar fy ngweision ac ar fy llawforwynion y tywalltaf o'm Hysbryd yn y dyddiau hyny, a hwy a brophwydant." Y mae yn arwycld er claioni fod cy- maint o sylw yn cael ei roddi gan y Gymdeithasfa a'r Cyfarfodydd Misol trwy Gymru yn y dyddiau hyn i'r fath sefydliad gwerthfawr â'r Ysgol Sab- bothol. Y mae yr eglwys a'r weinid- ogaeth o dan lawer o ddyled i'r sefydl- iad hwn; ac y mae yn dda genyf fod yn eu bryd dalu rhyw gyfran o'r ddy- led yn ol. Ar gais y Gymdeithasfa, a'ch cais chwithau yn y dref hon, yr wyf yn sefyll yma i ddyweyd gair ynghyleh yr Ysgol Sabbothol. Ac ar yr achlysur, nis gallaf feddwl am un- rhyw eiriau mwy cyfaddas i seilio ychydig sylwadau arnynt na'r geiriau a ddarllenwyd. Y niae y geiriau hyn yn gosod allan gyífredinolrwydd gwaith yr Ysbryd Glân, a chyffredinolrwydd ei effeithiau o dan oruchwyliaeth y Testameut New- ydd, fel y mae yn dwyn pob math o ddynion a phob graddau i lafurio gyda'r gwaith o ddysgu eu gilydd. Ỳ prif fater oedd gan Pedr mewn golwg wrth ddyfynu y geiriau hyn o'r Hen Testa- ment ydoedd, cyffredinolrwydd y swydd brophwydol o dan y Testament New- ydd : " A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd; a'ch meibion chwi a'ch merched a brophwydant:" nidynieib- ion yn unig, ond y merched hefyd. Y mae yn amlwg fod yma ryw ran o'r gwaith y gall y merched fod yn ddefn- yddiol gydag ef. Y mae llawer o ddadleu yngnylch hawliau merchod yn y dyddiau hyn. Y mae yn anhawdd penderfynu pa faint o le sydd i'r rhyw fenywaidd yn yr eglwys ; ond yn yr Ysgol Sul y mae cymaint o le i'r merched ag i'r meibion. "A'ch gwŷr ieuainc a welant weled- igaethau, a'ch henafgwyr a freuddwyd- iant freuddwwdion." Y mae pob oedran heb wahaniaeth i gymeryd rhan yn y gwaith hwn. "Ac ar fy ngweision ac ar fy llaw- forwynion y tywalltaf o'm Hysbryd yn y dyddiau hyny." Nid oes unrlryw wahaniaeth i fod o herwydd sefyUfa fydol. Y mae y dosbarth isaf mewn cymdeithas—y mae hyd yn nôd y gweision a'r llawforwynion, i gynieryd rhan yn y gwaith. Nid yw y gair fy yn cael ei gysylltu â'r geiriau hyn gan y prophwyd Joel. Ond y mae Ysbryd Duw trwy Pedr yn arddelwi y dosbarth- iadau isaf niewn cymdeithas, gan eu galw yn Weision ac yn llawfor^-ynion iddo ef ei hunan : "Fy ngweision a'm Uawforwynion." Y mae yn gosod yr urddas arnynt o'u d^i'chafu i gymeryd rhan yn y gwaith niawr o ddysgu. Y rhai yr ydych chwù yn eu gorthrymu, fel pe dywedasai, y rhai yr ydych chwi yn eu trin fel caethion, ie, fel anifeiliaid, myfi a'u codaf hwynt i fod yn weision ac yn llawforwynion i mi. O dan ddy- lanwad fy Ysbryd i, yr wyf yn bwriadu iddynt hwy brophwydo. Y mae pawb i brophwydo. O dan yr efengyl y mae y ddau ryw, pob oedran, a pbob sefyllfa, x gymeryd rhan yn y gwaith hwn.