Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehif. CCLI] TACHWEDD, 1867. [Llyfr XXI. CFSYLLTIAD SYDD RHWNG DIRNADAETH Y DEALL THEIMLAD Y GALON 0 WIRIONEDDAU CREFYDD. GAN Y PARCH. JOHN PRITCHARD, AMLWCH. Defnyddir y gair deall yn yr erthygl hon nid yn yr ystyr gyfyng ac athron- yddol a roddir iddo gan Kant, sef fel gallu ag sydd yn trefnu argraffiadau a dderbynir trwy y synwyrau corfforol, ac felly yn wahanol ac yn israddol i reswm, ond yn yr ystyr ëang a chyffredin a roddir iddo, fel yn gyfystyr â rheswm— yn cynnwys galluoedd deallol (intellec- íual powers) ý meddwl, trwy y rhai y mae y meddwl yn gallu cymáeithasu â'r gwirioneddau uchaf—y galluoedd a eilw Paul yn "llygaid ylheddyliau:" " Wedi goleuo llygaid eich meddyliau, fel y gwypoch beth y w gobaith ei alwedigaeth ef, &c." (Eph. i. 18). Yn yr ystyr ëang yma y defhyddir y gair Groeg sunesis yn y Testament Newydd, yr hwn a gyf- ieithir i'r Gymraeg yn ddcall. " A synu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, o herwydd ei ddeall ef a'i atebion" (Luc ii. 47). " A'i garu ef â'r holl galon, ac â'r hoU ddeall" (Mare xii. 33). "Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist" (Eph. iii. 4). "A deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef, ymhob doeth- ineb a deall ysbrydol" (Col. i. 9). " Ac i bob golud sicrwydd deall" (Col. ii. 2). "A'r Arglwyddaroddo i ti ddeall ymhoh peth" (2 Tim. ii. 7). Y mae yn eithaf amlwg mai y gallu meddyliol i ddirnad, neu ddirnadaeth, yw y gallu a olygir wrth y gair deall yn y manau hyn. Y mae y gair Groeg phronesis, yr nwn a arwydda ddirnadáeth neu syniad y nieddwL yn cael ei gyfieithu yn ddeall. "Trwy yr hwn y bu efe yn helaeth i ni ymhob doethineb a deall" (Eph. i. 8). Y mae yetyr y gair yn y Testament Neẁ- ydd yn caniatâu y defnydd a wneir o hono yn yr ysgrif hon. Hefyd, defnyddir y gair caUn yn yr erthygl hon, nid yn unig am y serch ond am holl ymdeimladau (emotions) y meddwl. Prif fater yr ysgrif fydd y cysylltiad ag sydd rhwng-dirnadaeth y deall o wirioneddau crefydd â theimlaä y galon. Y mae ysbrydoliaeth yn dysgu y pwnc hwn yn gystal âg athroniaeth feddyliol, o'r hyn lleiaf y mae yn cyd- nabod y cysylltiad. Y mae yn cael ei ddwyn i'r golwg yn yr ymddyddan a gymerodd le rhwng y ddau ddysgybl a'r Iesu, ar y ffordd i Emmaus. Mewn canlyniad i'r ddau ddangos, yn yr ym- ddyddan, hwyrfrydigrwydd i gredu fod y Messiah i ddyoddef y pethau ag oedd Iesu o Nazareth wedi eu dyoddef, wele yr Iesu, "gan ddechreu ar Moses a'r holl Drophwydi," yn esbonio " iddynt yn yr holl Ysgrythyràu y pethau am dano ei hun," heb roddi ar ddeall iddynt mai yr lesu ei hun oedd yn ymddýddan â hwynt. Goleuodd yr Iesu eu meddyl- iau i ddeall yr addewidion a'r pro- phwydoliaethau am y Messiah, nes oeddynt yn gweled fod perffaith gyd- gordiad rhwng hanes Iesu o Nazareth â darluniad y prophwydi o'r Messiah; ac mewn canlyniad i'r ddirnadaeth a gaws- ant trwy esboniad yr hwn a dybiasant yn ymdeithydd yn Jerusalem, wele eu calon yn teimlo. "Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra yr oedd efe yn ymddyddan â ni ar y ffordd, a thra yr oedd efe yn agoryd i ni yr Ysgrythyr- au " (Luc xxiv. 32) ì Yr ydym yn cael meddwl y ddau ddysgybl mewn dwy