Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhip. COL.] H7DREF, 1867. [Llyfr XXI. ADDYSG AC ADDOLIAD TEÜLUAIDD. Papyr a ddarllenwyd yn Nghymanýa Oyýredinol Llanidloes. GAN Y PAECH. RICHARD LUMLEY. Y teulu yw ffynnonell cymdeithas. Ychydig deuluoedd sydd yn cyfansoddi y pentref, a lftaws o deuluoedd a wnânt ddinas, a theyrnas, a chenedl. Teulu yw sylfaen yr adeiladaeth ; ac os bydd hwn fel y dylai fod, bydd yr oruwch- adeiladaeth yn ddiogel ac yn hardd. Gwelir dylanwad addysg ac arferion yr aelwyd ymhob cylch mewn cymdeith- as; ar grwydriaid a gwibiaid y byd, ac ar y rhai sydd yn rhodio uchelderau y ddaear. O dan riniog y tŷ y rhêd allan y dyfroedd sydd naill ai yn iachâu neu yn gwenwyno cymydogaeth. Dan gron- glwyd, o bosibl, sydd yn eithaf tlawd, y mae problems moe3ol mawr yn cael eu deongli. Canfyddir hyn mewn gweith- rediad cyson megys deddf, a chydna- byddir hyn, yn ddiarwybod, gan y byd yn gyffredin. Pan y clywir am ryw drosedd mawr, rhyw gyflafan, neu achos crôg, yn y fan yr ydys yn penderfynu fod y troseddwr wedi hanu yn ddrwg. Ychydig yw yr enghreifftiau ymysg y rhai a dreuliant eu hoes o garchar i garchar, nas gellir olrhain eu sefyllfa i esgeulusdod neu ddrygmni y rhai a'u magasant. "Had y rhai drygionus" yw y "meibion sy'n llygru." Ar yr ochr arall, fe delir parch i rieni rhai hynod mewn rhinwedd. Ymysg y Chinëaid, y mae yn ddeddf nad oes ìneb dderbyn teitl neu Irddas oddiwrth neb a'i rhag- flaenodd; riis dichon y tad adael teitl i'w fab; ond os ennill neb iddo ei hun radd dda, cyfrifir hyny yn anrhydedd iwhenäfiaid; oddiar y eyniad, fel mae yndébygjna8gallasaigyrhaeddyr uchel- nôd heb éu cymhorth hwy. Onid oes yn eglwys Dduw esiamplau lawer o'r un peth? Y mae brasder yr addewid, y tywalltaì Duw ei Ysbryd ar had Israeh a'i fendith ar eu hiliogaeth, wedi disgyn ar gannoedd lawer o deuluoedd ar ol amser ei chyhoeddiad. Rhaid cyfaddef fod eithriadau nodedig o bryd i bryd i'w gweled, yr hyn sydd yn ein dysgu fod Duw pob gras yn "trugarhâu wrth y neb y myno." Ẅeithiau fe fydd had y rhai drygionus, cywion yr estrys, yn dyfod i nythu yn ymyl "allorau Ar- glwydd y lluoedd;" dygir y pell yn agos, a "meibion dyeithr a lynant wrth yr Arglwydd, gan ei wasanaethu ef:" a "phlant y deyrnas a fwrir allan gyda gweithredwyr anwiredd." " Asa ydoedd berffaith gyda'r Arglwydd, er rhodio o'i dad yn ffordd Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu," tra y mae gwar- adwydd ar Israel wedi dyfod o dan gronglwyd yr offeiriaid: "Meibion Eli oeddynt feibion Belial." Ond y mae y syndod a deimlir ac a ddadgenir am esiamplau o'r fath, yn profi fod rheol Duw wedi dwfn wreiddio yn ein medd- yliau. Er dyddiau deddfwr Israel, yr hwn a fagwyd yn ffydd ei rieni, hyd amser Samuel y prophwyd, mab gweddi- au ac addunedau ei fam, a'r pêr-ganied- ydd, yr hwn oedd yntau yn "fab gwas- anaethferch" yr Arglwydd; ac oddiyno hydddyddiau apostolion einHarglwydd, yr eedd amryw o honynt hwythau yn Want i ryw Salome neu Fair, gwrag- edd a weiniasant i Fab y dyn. Y mae gan hyny o'r pwys mwyaf fod teuluoedd Israel yn cydnaood eu Duw; ac os llwyddir trwy y llinellau hyn i ychwanegu un allor mewn rhyw deulu nas galwodd hyd yma ar ei enw, neu i ü - - - j