Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Rhif. CCXLIX.] MEDL 1867. [Llyfr XXI. EIN GWAITH FEL CYTÜNDEB, A'R CÍMHWYSDERAU ANGHENRHEIDIOL. ANERCHIAD Y PARCH. DR. EDWARDS, BALA, YN NGHIMANFA GYFFREDINOL LLANIDLOES. Wrth gymeryd golwg gymhariaethol ar grefyddau y byd, neu ar y gwahanol enwadau Protestanaidd, nis gellir dy- wedyd am Fethodistiaid Cymru, fel y dywedir am rai pethau yn y dyddiau hyn, eu bod yn "ffaith fawr." Hyd yn nôd pe buasai y Cymry i gyd yn Feth- odistiaid, ni fuasent er hyny yn cael lle mawr yn hanesyddiaeth yr oesoedd, nac yn tỳnu llawer o sylw oddiwrth fawrion y ddaear. Gall hyn fod yn ddigalondid i ni os arferwn ein hunain i farnu pob peth yn ol ei swm, ac nid yn ol ei sylwedd. Ond pan feddyliom nad oes dim mewn bod o drefniad Duw heb fod iddo ryw ddyben, a'i fod Ef yn defn- yddio moddion distadl i gyüawni am- canion uchel, yr ydyrn yn teimlo na ddylem lwfrhâu, er y dichon fod genym lawer o achos i ofìdio o herwydd ein diffrwythdra a'n hanffyddlondeb. I bob crëadur rhesymol y mae ei fodol- aeth yn ystyriaeth ddifrifol, os yw yn credu naä yw wedi dyfod i fôd trwy ddamwain. Felly i ninnau fel cyfun- deb, y mae ein dyfodiad i fôd, a'n cadwedigaeth mewn bôd hyd yma, yn galw arnom i ystyried beth yw amcan y ffaith hon, ac i ba raddau yr ydym yn ateb dyben ein bodolaeth. Os collwn ein golwg ar y dyben, yr ydym ar unwaith yn coíli ein nerth, fel y mae unrhyẁ allu mewn natur yn myned yn aneffeithiol pan y troir ef i weithredu yn groes i'w ddyben priodol: ond tra fyddom yn myned ymlaen â'n golwg yn gywir ar y dyben, yr ydym yn gweith- redu yn unol â deddf ein crèadigaeth, ac ar y tir hwn yr ydym yn sicr o lwyddo, oblegid y mae pob llwyddiant yn tarddu o ufudd-dod. Y mae yn anghenrheidiol hefyd i ni gofio fod rhyw ddyben neillduol yn perthyn i bob cyfunäeb o Gristionogion, yr un modd ag i bob person yn umgol. Y mae deddf gyffredinol y nefoedd yn cymeryd rhyw ffurf neülduol yn ei pherthynas â phob person ac â phob cyfundeb. Y mae hyn i'w weled mewn ystyr fydol wrth sylwi pa todd y mae Rhagluniaeth wedi dosbárthu dynion i wahanol alwedigaethau; ac nid oes dim yn fwy aflwyddiannus i unrhyw ddyn na cheisio addasu ei hun at bob gwaith, yn lle cyfyngu ei hun at ryw waith neillduoL Yn yr eglwys gyffredinol dracüefn, "y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd; ac y mae amryw wein- idogaethau, eithr yr un Arglwydd; ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth yn mhawb." Y mae o bwys gan hyny i ni chwilio pa ddawn, pa weinidogaeth, pa weithrediad, y mae yr un Ysbryd, yr un Arglwydd, yr un Duw, wedi eu hymddiried yn fwyaf neillduol i'r Methodistiaid. Fe allai mai y ffordd oreu i benderfynu y mater hwn ydy w edrych yn ôl at eu dechreu- ad, oblegid y mae pob peth sydd mewn bod yn awr wedi derbyn ei fôd oddi- wrth yr hyn a fa. " Y plentyn yw tad y dyn," meddai Wordsworth. Tra yr oedd ein cyfundeb ninnau mewn cyflwr ieuangaidd y ffurfiwyd ei gymeriad; neu yn hytrach yr oedd elfenau ei gymeriad ynddo yn dyfod i'r byd. Methodistiaid y gwnaeth Duw ni, a Methodistiaid y mae yn rhaid i ni fôd, neu ynte beidio bôd. Yr ydych oll yn deall nad wyf yn cyfeirio at yr enw ond at y sylwedd a'r hanfod. Y