Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhip. OOXLVIL] GORPHENAF, 1867. [Llyfr XXL IESU GRIST A'R LLYWODRAETH WLADOL. GAN Y PARCH. N. CYNHAFAL JONES, PENRHYN. Un fantais annhraethadwy a ddeilliodd i'r byd trwy i'r Gair cael ei wneuthur yn gnawd, oedd cael gweled cyfraith Duw, nid mewn damcaniaeth yn unig, ond mewn ymarferiad yn mywyd y dyn Crist Iesu; cael ei gweled, nid mewn cyfres o orchymynion ar lechau cèryg, ond mewn gweithredoedd bywiol ar ddalenau buchedd y Deddfroddwr ei hun. Fel nas gellir gweled gogoniant un drychfeddwl, nac un cynllun, yn llawn hyd nes y gweithir ef allan yn sylweddol, felly nis gallesid gweled uniondeb perffaith na phrydferthwch nefol cyfràith Duw tra yr arosai yn unig mewn gorchymyn; ond pan gorfforwyd hi yn mywyd yr Arglwydd Iesu, daeth ei gogoniant yn eglur i bawb. Dyna un rheswm, yn ddiammheu, paham nad oedd y gyfraith foesol wedi ei deall gan y byd ond yn anmherffaith iawn hyd nes yr ymddangosodd yr Iesu, i'w hes- bonio trwy ei bregethau a thrwy ei fywyd. Nid oedd syniad yr Iuddewon am y gyfraith, er cymaint oeddynt yn ddarllen arni, ond cyfyng ac anianol; ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth yr Iesu wedi dechreu ar ei weinidogaeth gyhoeddus oedd dyrchafu safon moesol- deb a chrefydd yn annhraethol uwch nag ydoedd ymysg ei gydgenedl, trwy egluro ysbryäolrwydd y ddeddf. Mor wahanol ydyw y ddeddf yn ei eiriau bywiol, calondreiddiol Ef, ragor yr hyn ydoedd yn ngenau "y rhai gynt!" Dengys Ef fod y gyfraith nid yn unig yn edrych ar yr allanol a'r gweledig, ond bod ei llygaid yn cynniwair trwy bob cilfach o fyd y meddwl a'r galon; ei bod yn sylwi ar ac yn barnu nid gweithredoedd dynioh yn unig, ond hefy\l eu meddyliau, eu bryd, a'u tuedd- ion. Er yn gwybod ei fod yn esbonio y gyfraith a fyddai yn ei farnu Ef ei hunan, nid ydyw yn pallu edrych i fywioldeb tanbaid ei hysbrydolrwydd; ac er yn ymwybodol y byddai y byd yn ei farnu Ef wrth safon y gyfraith a bregethai mor zelog, nid ydyw hyny ychwaith yn rhwystro iddo ddadgan yn ddifloesg y perffeithrwydd a ofynai, a'r llymder Dwyfol a fygythiai am y diffyg lleiaf. Wrth ddechreu byw y ddeddf, dadblyg- odd a lledodd ei gofynion hyd eu hymylon eithaf. Y cwestiwn cyffredin gyda deiliaid llywodraeth wladol ydyw, —Beth a oddefa y gyfraith ? Ond cwest- iwn pwysig yr Iesu ydoedd,—Beth a ofyna y gyfraith ? Nid peth i'w hosgoi, ond i'w chyflawni, oedd cyfraith ei Dduw yn ei olwg Ef. Ond er mor ogoneddus ydyw y ddeddf yn ngenau y Dysgawdwr Dwyfol ar y mynydd, y mae yn annhraethol fwy gogoneddus yn ei fywyd yn Galilea, ac yn ei ufudd-dod gwirfodd a'i hunangyflwyniad tawel yn Jerusalem i ddwylaw ei ddienyddwyr. "Efe a fawrhäodd y gyfraith, ac a'i gwnaeth yn anrhydeddus;" yr oedd yn fawrhâd ac yn anrhydedd anieidrol ar y gyfraith ei hun gael ei chorffori mewn ufudd-dod gan Berson mor fawr â Mab Duw. Nid ydyw yr Arglwydd Iesu wedi gadael ei ganlynwyr yn ädiddeddf gyda golwg ar eu perthynas â, a'u rhwymed- igaethau i'r, llywodraeth wladol; ac ymhellach, er ein dirfawr fantais, y mae y gyfraith a osododd i'w gweled yn eglur ac yn gyflawn yn ei fywyd Ef ei hun. Llawer gwaith yn ystod ei yrfa yn y byd y daeth yr Iesu i gyflyrddiad âg awdurdodau cyfraith ei wlad; a phob tro y dygwyddodd hyny, y mae goleuui