Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSOEFA. Rhip. COXLVI.] MEHEFIN, 1867. [Llyfr XXI. UNDEB YR YSBRYD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., LLUNDAIN. Ephesiatd iv. 3: " Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr ysbryd yn nghwlwm tangnefedd." Nodwedd neillduol undeb efengylaidd a enwir yma y w, mai "undeb yr Ysbryd" ydyw, yr hyn sydd yn cynnwys nid yn unig mai undeb rhwng ysbrydoedd credinwyr â'u gilydd ydyw, ond hefyd inai undeb ydyw a ffurfir gan yr Ysbryd Glân. Yr Arglwydd Iesu, yn ei weddi yn Ioan xviL, a roddodd i'r byd ddad- guddiad cyflawn o'r gwirionedd mawr am undeb yr eglwys; ond nid yw ynddi yn cysylltu yr undeb â'r Ysbryd Glân 0 gwbl; îe, ac nid yw yn gymaint ag enwi yr Ysbryd o ddechreu y weddi i'w diwedd. Ar ol i'r Iachawdwr daflu ger bron y byd y gwirionedd ei hun, Paul a godwyd i ddwyn i'r golwg y modd yr oedd y gwirionedd hwn yn gysylltiedig â gwirioneddau eraill. Prif achlysur diffyg undeb yw y gwahaniaeth sydd rhwng dynion â'u gilydd. Y mae hwn yn ddosbarthedig i ddau fath: gwahaniaeth personol rhwng y naill ddyn â'r llall, a gwahan- iaeth cenedlaethol rhwng y nailí genedl -Vr llall. Gellir ystyried yr olaf yn cynnwys pob gwahaniaeth rhwng un- rhyw ddosbarth o ddynion â dosbarth arall. Yn Rhuf. xii., undeb er pob ^wahaniaeth personol a enwir. ¥n 1 Cor. xii., undeb er y ddau wahaniaeth a enwir, yn benaf er gwahaniaeth per- sonoL Ýn Galat. iii. 28, undeb er gwa- haniaeth rhwng Iuddew a Chenedlddyn a^nwir. Ond yn y llythyr hwn, golygir undeb er y ddau. Os edrychir oddiar yr adnod hon yn ôl i pen. ii. 14—18, undeb rhwng Iuddew a Chenedlddyn ydyw er pob gwahaniaeth cenedlaethol. Ac os edrychir ymlaen i ganol pen. iv., gwelir mai "undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw"—undeb corff er pob gwahaniaeth personol rhwng yr aelodau â'u gilydd, ydyw. Gan fod y gwahaniaeth rhwng y genedl Iuddewig â phob cenedl arafl mewn llawer ystyr y mwyaf a fu erioed, y mae y ffaith bod undeb wedi ei ffurfio rhyngddynt er hyn, yn cynnwys y posiblrwydd i'w ffurfio er pob gwahan- iaeth Uai. Y mae y geiriau hyn yn gyferbyn- iol â geiriau yr adnod flaenorol. Y mae "gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd" yn gyferbyniol â "gan oddef eich gilydd: a "chwlwm tang- nefedd" yn gyferbyniol â'r "mewn cariad." Y mae yn amlwg fod yn bosibl i ddynion "odäef eu gilydd" heb wneuthur hyny "mewn cariad." Hwy a allant oddef eu gilydd mewn ofn am- bell waith—oddiar deimlad o hunan-les ar brydiau eraill—^îe, ac oddiar y balch- der sydd yn diystyru eraill. Goddefiad cariaäus y mae yr efengyl yn ei ofyn. Yn gyffelyb y mae yn bosibl i dduwiol- ion feddu ar "undeb yr Ysbryd" heb ei fod yn cael ei gadw mewn "tangnefedd." Y mae undeb credinwyr â'u gilydd yn cael bôd yn undeb pob un yn bersonol â Mab Duw; a'r unig ffordd i dori eu hundeb â'u gilydd yw, trwy dori eu hundeb âg Ef. Ac eto y mae hanes yr eglwys yn dangos na chafodd yn aml ei gadw mewn tangnefedd. O'r foment y credodd Wesley a Whitfield yn Nghrist, yr oedd undeb yr Ysbryd rhyngddynt; ond nid oedd yn cael ei gadw mewn tangnefedd yn eu hymrafaelion am etholedigaeth. Yn Ephes. ii. 14-—18, y dangosir sail a natur yr undeb. "Ond," meddai rhywun, "gan fod yr undeb