Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Rhip. CCXLV.] MAI, 1867. [Llyfr XXI. EIN CYFAEFODYDD EGLWYSIG. GAN Y PARCH. ROBERT ELLIS, DYSGWYLFA, ARFON. Nid ein hamcan yn hyn o ysgrif yw ymholi pa ddefnydd a wneir o Gyfar- fodydd Eglwysig mewn Cyfundebau eraill lle maent, na pha fodd y gwneir i fyny y diffyg o honynt Ue nad ydynt. Gallai hyny fod yn destun dyddorol i ddyn yn meddu y gallu a'r cyfiëusdra i edrych i mewn iddo. Mae yn ymddan- gos i ni, o leiaf, yn beth anhawdd os nad anmhosibl ei ddirnad, pa fodd y gall eglwys i Grist, yr hon sydd i fod yn gymundeb neillduedig a didoledig oddiwrth y byd, hanfodi o gwbl heb yr un math o Gyfarfod Eglwysig. Am Gy farfod Eglwysig y Methodistiaid Calfinaidd, mae hwn yn adnabyddus. Gwyddys yn dda pa fodä y cychwynodd, a gwyddys hefyd iddo gynnyrchu peth annhraethadwy o ddaioni. Bu yn fodd- ion i weinyddu mwy na mwy o gysur a nerth a bywyd i'n hen dadau a'n hen famau yn y dyddiau gynt; ac y mae yn parhâu i weinyddu yr un ymgeledd i eneidiau miloedd ar filoedd o dduwiolion yr oes hon. Dechreuodd ein .Cyfarfod Eglwysig gyda dechreuad ein Cyfundeb, a daeth ar unwaith yn elfen bwysig a gWerthfawr o hono, a chynnyädodd íelly i ganlyn pob cynnydd arall. Càn gynted ag y deffröwyd ystyriaethau pechaduriaid cysglyd Cymru trwy wein- idogaeth danllyd Howel Harris a'i gydlafurwyr, y dechreuodd y pechadur- iaid deffrous hyn ymwasgu âu gilydd ac yniffurfio yn fân gymdeithasau cref- yddol. A gwnaethant hyny yn naturiol ae o honynt eu hunain, neb wybod nac ymholi cymaint pa un a oedd y fath gyfrinachau wedi bod gan eglwys Crist erioed o'r blaen. Ac, yn wir, nis gallent beidio; mae gras yn nghalon dyn yn rhyw reddf—anîan; mae y dyn grasol yn naturiol yn ymwasgu â'i gyffelyb. Pan yr oedd duwiolion unwaith yn an- aml yn. y tir, elai y naill ddyn grasol ymhell er cael cymdeithasu âg eraill a fyddai yn synio ac yn teimlo fel yntau, a melus fyddai y gyfrinach. Mae gras Duw yn enaid dyn eto yr un peth, ac yn dwyn yr un cyffelyb ffrwyth; ac i'r cyfryw y mae cymdeithas y saint yn parhâu yr un mor gyffelyb werthfawr. Y rheswm paham, gan hyny, am dde- chreuad y cyfarfodydd hyn, fel am ddechreuad llawer o bethau eraill y Cyfundeb yw, gras Duw yn nghalonau dynion yn gweithio allan ei ffrwythau naturiol ei hun. A'r un rheswm sydd hefyd am eu parhâd. Gellid, a dylid gwellâu Uawer arnynt mewn llawer lle; ond am eu dilëu, nis gellir tra byddo duwiolion mewn cyrhaedd cymdeithasu â'u gilydd. Ond os rywbryd yn y dyfodol tywyll y derfydd dynion duw- iol o'r Cyfundeb, yna hawdd y pryd hyny fydd gwneyd ymaith gyda'u cyf- arfoä hoff. Yr oedd duwiolion oes gyntaf Methodistiaeth yn hyn, fel mewn, pethau eraill, yn gwneyd yn gýffelybi'r saint yn oes gyntáf Cristionogaeth. Mae yn eglur hollol fod gan y brifeglwyfe, fel ei gelwir, ei chyfarfodydd neillduoL lle y býddent yn neillduedig oddiwrth y byd, yn cynghori a dysgu, yn adeiladu ac yn dyddanu, yn rhybuddio ac yn ceryddu eu gilydd. Yn wir, yr oedd oes gyntaf y Methodistiaeth yn dwyn ìläwer o debygolrwydd i oes gyntaf Cristionög- aeth; yr oedd y naill yn ailargraffíèrcl^aa o'r llaÛ. Y mae mawr werth ein Cyfarfodydd Eglwysig i'w ddeall, pan yr ystyrìom mai eu hamcan uchel1 yw meithrih crefydd ysbrydol y galon, cryfhâú'a gwresogi crefydd yn ei gwedd gymdeîth- asol, a dwyn yr oll aífaín i' ymarferîíid