Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehip. CCXLIV.] EBRILL, 1867. [Llyfr XXI. EIN POBL IEUAINC AC ARGOELION Eü HOES. GAN Y PARCH. J. H. SYMOND, GWRECSAM. Wrth graffu ar yr hyn mae y byd wedi gyflwyno yn ddiweddar i'n sylw, ac hefyd ar yr hyn mae yr eglwys yma a thraw yn ddadguddio i ni, nid yw yn anhawdd casglu íbd amgyíchiadau yn crynhoi o bob cyfeiriad tuag at ryw gyf- nod rhyfedd. Yn ein dyddiau ni mae galluoedd mewn natur, a fu yn guddied- ig trwy yr oesau, wedi eu darganfod a'u trefnu i wneyd gwaith blynyddoedd mewn ychydig oriau. Hyn sydd yn achosi fod masnach a thrafodaeth rhwng gwahanol wledydd yn cael eu dwyn ymlaen yn gyfìymach a mwy cyffredinol, dynolryw trwy y byd yn dyfod yn fwy adnabyddus o'u gilyad, egwyddor- ion rhyddid gwladol yn cael eu gwas- garu, hen ragfarnau cenedlaethol yn cael eu hymlid ymaith, a chenedloedd yn dyfod yn barhâus yn fwy unedig. Mae y tlodion, a'r rhai anwybodus, a'r rhai dyfnaf eu trueni, yn cael ymweled â hwynt a'u dyrchafu gan eu gwell. Nis galíwn gredu mai er mwyn masnach neu ryw fudd daearol yn unig mae yr holl welliannau hyn yn cael eu dwyn i weith- rediad. Ond y mae yr holl ddyfeisio, a'r masnachu, a'r tramwyo, a'r rhwyddhâu, fel pe baent wedi ymuno i ddyfod o hyd i ddynolryw ymhob pellderau, a'u par- otoi i fyned dan brawf yr un oruchwyl- iaeth. Yr un mor amlwg a chyffredinol drachefn ydyw yr argoelion yn y byd crefyddol. Mae ymdeimlad dwfn a chyffredinol yn bod ymhlith y gwahanol enwadau fod rhywbeth yn eisieu amgen Qag sydd; ac y mae anesmwythder a dysgwyliad i'w gweled yn tori allan naewn ffyrdd amrywioL Ymhob adran o'r eglwys weledig fe'u ceir yn ymddeffro wineyd cyfnewidiadau, ac i weithio eu üëgwyddorion i ymarferiad. Nid arwydd ! ddiystyr yw fod y Cristionogion goreu drwy yr holl fyd wedi ymuno am wyth- nos ar ddechre yr wyth mlynedd diw- ; eddaf i weddio; a mater mawr yr holl \ weddi'au ydoedd llwyddiant teyrnas yr | Iesu dros wyneb y byd; ac yr oedd I eleni fwy o afael ynddynt nag o'r blaen. ! Digon hynod hefyd yw yr ymdrechiadau | egnîol ymhlith pleidiau crefyddol o | olygiadau cyffelyb at ddyfod yn un. ! Cyhoeddir o'r newydd weithoedd yr hen j dduwinyddion Puritanaidd, a rnoddir l derbyniad helaeth iddynt. Mae mwy o J haelioni crefyddol yn dyfod i'r golwg yn barhâus. Rhyfedd ydyw gorchestion y cymdeithasau crefyddol; a rhyfedd fel y mae ieithoedd a gwledydd yn ym- agor i'w gweithrediadau. Dywedir fod y rhyfeloedd diweddar wedi agor un wlad ar ol y llall yn nghyfandir Ewrop i'r Ysgrythyrau a chenadon yr efengyL Symudodd rhyfel Crimea y rhwystr i efengyleiddio Mahometaniaid Twrci. Rhyfeloedd 1859 a 1860 yn Italy a agor- asant bron bob rhan o'r wlad hono i lafur cenadol. A dyna ryfel y flwydd- yn ddiweddaf wedi tynu ymaith y rhwystr olaf yn ymherodraeth Awstria, wedi gwanhâu dylanwad y Babaeth yn gyffredinolj ac wedi agor maes hynod obeithiol i weithrediadau Protestanaidd yn Bohemia a Moravia. A dywedir nad oes bron wlad i'w chael yn awr, oddì- eithr Spain a Rwssia, nad ellir dosbarthu yr Ysgrythyrau a phregethu yr efengyl yn lled ddiberygl o'i mewn. Mae aml ì offeryn eto, fel Cyrus, yn cael ei wregysu gan Dduw yn ddiarwybod iddo ei hun i ollwng ei achos o'i gaethiwed. A thrwy fod llyfrau crefyddol yn cael eu dwyn allan yn llawer mwy rhwydd a rhad, a chyflëusderau yn gwella o hyd i'w gwasgar ar hyd y gwledydd, a'r offer^