Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. CCXLIII.] MA.WRTH, 1867. [Llyfr XXI. GWRTHGILIAD. GAN Y PARCH. THOMAS LEVI. Wbth anfon cais am rywbeth iTr Drys- ORFa, awgrymodd y Golygydd y buasai ysgrif ar Wrthgiliad yn ddymunol, gan fod hwnw "yn destun nad oedd ond ychydig o ysgrifenu na phregethu arno." Disgynai y sylw yn ddyeithr wrth ei ddarllen ; ond wedi meddwl ychydig, cefais nad oeddwn i, beth bynag, wedi ysgrifenu yr un llineíl erioed ar y pwnc, ac nid wyf yn cofio pa bryd y gwran- dewais bregeth gan neb arall arnò. Mae hyn yn ymddangos yn hynod hefyd ; oblegid nid oes yr un testun y cyfeirir yn fynychach ato yn y Bibl. Dyma y drwg ag y mae cŵyn cyffredin yr Ar- glwydd ar ei bobl o'i herwydd. Onid i egluro hyn, ac i rybuddio rhagddo, y llefarodd yr Arglwydd Iesu lawer o'i ddammegion ? Onid llyfr pwrpasol yn herwydd gwrthgiliad, ac i ragflaenu gwrthgiliad, yw yr Epistol gwerthfawr at yr Hebrëaid ? Y mae hwn, ysywaeth, yn " bwnc y dydd" i'r eglwys Gristion- ogol ymhob oes. Ac nid oes yr un pwnc ag y mae yr eglwys yn Nghymru y dydd hwn yn galw am sylw mwy mynych arno. Yr awgrym uchod, beth bynag, a achlysurodd yr ychydig sylwadau brysiog a ganlyn. Bu llawenydd mawr yn y nef a'r ddaear ar adeg y diwygiad grymus diw- eddar, pan ychwanegwyd cynifer o fil- oedd at eglwysi y saint yn y Dywysog- aeth. Ond y mae gwrthgiliad wedi gwneyd difrod enbyd ymysg y cyfryw yn y saith mlynedd diweddaf. Pa sawl cant o Gymry oedd â'u gruddiau yn wlybion gan ddagrau edifeirwch saith mlynedd 1 heddyw, a'u gliniau ar lawr mewn gweddi, a gobeithion uchel yn cael eu coleddu am eu hachubiaeth, sydd erbyn hyn wedi eu colli—wedi "tynu yn ôl* i ffordd colledigaeth ? Ychwanegwyd tyrfäoedd hefyd at yr eglwysi mewn amrywiol fanau yn adeg ymweliad yr haint y'misoedd diweddaf; ond y mae llawer o'r rhai hyny eisoes wedi llithro yn ôl, a llawer yn yehwaneg, ond odid, ar y ffôrdd i'w canlyn. Mae nifer gwrthgilwyr mewn llawer ardal yn ddifrifol o fawr, ac yn gymaint mewn rhai ardaloedd, mae yn bosibl, â nifer y proffeswyr. Onid oes llais at Gristion- ogion y wlad yn hyn? Onid yw y ffaith yn fath o fynegfys yn cyfeirio at ddiffyg gofal priodol am ddychweledig- ion ieuainc, a diffyg moddion priodol i'w haddysgu a'u cadarnhâu ? Heblaw y rhai sydd wedi gwrthgilio mor bell a thaflu heibio eu hymarferiadau a'u pro- ffes grefyddol, y mae llawer yn yr eglwysi, ag sydd yn amlwg i bawb wedi colli ys- bryd crefydd, ac wedi cilio ymhell i dir gwrthgiliad. I olwg Duw, yr hwn nid yw yn edrych fel yr edrych dyn, gallai fod cynifer o wrthgilwyr yn yr eglwys ag sydd y tu allan iddi. Y mae llawer, nid "ar fedr cilio" oddiwrth yr Arglwydd, ond, yr hyn sydd lawn mor beryglus, yn cilio ymaith, gan ymado â'r Duw byw, heb wybod eu bod. Ymysg prit* achosion gwrthgiliad y dyddiau hyn, gellir nodi, mae yn bosibl, Gwybodaeth anmherŷaith o wirionedd- au crefydd. Mae yn wir fod cyflëusderau gwybodaeth grefyddol yn llîosocach nag erioed; ond y mae mor wir a hyny fod y wybodaeth hono, gyda'r lliaws, yn brinach ac ỳn fasach nag erioed; ac fe allai y gellir rhoddi cyfrif am hyny. Mae y ffaith fod proffesu crefydd wedj dyfod yn beth mor gyfrifol yn. ngolwg y byd, yn peri i lawer geisio crefydd gyda dealltwriaeth ac argyhoeddiad mwy arwj'nebol nag mcwn amseroedd blaenoroL Mae yn ddîau yn destun