Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCXXXVIII.] HYDREF, 1866. [Llyfr XX. %xntfyaòm u %Ì5XüWvùm. MARWOLAETH A BYWYD CRIST. PREGETH A DRADDODWYD GA>T T DIWEDDAR BARCH. WlLLIAM CHARLES, GWALCHMAI, M0X.* DadgtjddiaÍ) i. 18: "A'r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae genyf agoriadau uffem a marwolaeth." "Diatj cynddaredd dyn a'th folianna di; gweddill cynddaredd a waherddi," ebai y Salmydd. Yr ydym yn cael fod hjTn yn wirionedd gyda golwg ar lawer o'i ysgrifeniadau sanctaidd. Llawer o'i salmau a gyfansoddwyd pan yr oedd Dafydd yn fföedig o fiaen gelynion; llawer o epistolau Paul a ysgrifenwyd pan oedd yn y carchar; ac yn ddiweddaf oD y Dadguddiad a roddwyd i Ioan pan mewn sefyllfa o alltudiaeth yn ynys Patmos. Fel hyn y mae llawer o ffrwyth yr eglwys wedi ei gael; llawer o'r mêl fel wedi ei sugno o'r graig; casglwyd llawer o'i grawnwin oddiar ddrain carch- aran, a'i ffigys oddiar ysgall erlidig- aethau. Yn y bennod hon yr ydym yn cael yr ymddangosiad rhyfeddol o eiddo Crist i Ioan yn Patmos ar ddydd yr Arglwydd. Cawn hanes am amrywiol ymddangosiadau o'i eiddo o'r blaen yn y Bibl, ynghyd a'r effeithiau a ddilyn- odd y naill a'r llall. Parodd ei ym- ddangosiad i Abraham lawenydd an- nhraethadwy; ei ymddangosiad i Jacob a fu yn fendithiol iawn, pan y bu yn cydymdrechu âg ef; ei ymddangosiad wrth Jericho fu yn hynod, pan y bu Josua yn wrol ymddyddan âg ef; ei ymddangosiad ar y maes, gerllaw Sorah, oedd yn rhyfeddol, pan y bu Manoah a'i * Ysgrifenwyd y bregeth hon mewn llaw fèr gan Mr. Humphrey Williams, yn bresennol o Ddin- bych, wrth ei gwrandaw yn nahapel Sion, Llan- rwst, Ionawr 5,1845. wraig yn ei addoli. Ond yr oedd ei ym- ddangòsiad yn Patmos yn fwy nodedig. Mae Efe yn ymddangos yn y mawredd a'r gogoniant hwnw â pha un yr ym- wisga yn ei sefyllfa o ddyrchafiad. Caf- odd hyn effaith neillduol ar Ioan—Ioan y dysgybl anwyl, yr hwn unwaith a bwysai ar ei fynwes, gan arfer tuag ato holl hyfdra cyfailL Y mae yr olwg arno yn ei ogoniant yn rhy nerthol i natur farwol ei ddal. "A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw." Yntau a dynerai yr ymddan- gosiad trwy osod ei law ddehau arno, a dywedyd wrtho, "Nac ofna, myfi yw y Cyntaf a'r Diweddaf." Dyna efe yn Dduw anfeidrol ar unwaith. " A'r hwn wyf fyw,"—mae yn nesâu yn agosach at deimlad Ioan, rhag y buasai Ioan yn petruso pwy oedd, gan y gogoniant oedd yn ei gylchynu. "Ac a fûm farw." Hwnw a welaist ti, Ioan, yn marw ar Galfaria, ychydig amser yn ol, hwnw ydwyf fi. " Ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd." Ar hyn mi feddyliwn glywed Ioan yn dechreu gwaeddi " Amen," byw fyddo y Brenin; Amen! dyna ddigon i godi Sion yn fyw eto. Ond gâd i mi ddywedyd y cyfan, Ioan: "ac y mae genyf íbgoriadau uffern a marwolaeth." Yr uffern yna sydd yn gwneyd cynllun- iau yn erbyn Sion, a'r marwolaeth sydd yn eu dwyn i weithrediad,—mae ji agoriadau arnynt ac iddynt yn fy llaw i; mae holl lywodraeth y byd anwel- edig yn fy llaw i heddyw, Ioan. Chwi