Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORPA. Rhif. COXXXVIL] MEDI, 1866. [Llyfr XX. feítjwìmu ar Jẃwtòmta, PABYDDIAETH YN NGHYMRU. GAN Y PARCH. B. HUGHES, NEWMAREET. Pabyddiaeth yn Nghymru! Pabydd- iaeth yn cynnyddu yn Nghymru! A ydyw hyn yn ffaith? Pa un ai dy- chymyg gwyllt rhai penboeth yw hyn, neu a ydyw hyn yn wirionedd ì Y mae yr achos mor bwysig, a'r canlyniadau mor ddifrifol, a'n cyfrifoldeb ninnau mor fawr, fel y dylem chwilio a chael allan i fanylrwydd beth yw gwir sefyllfa "dirgelwch yr anwiredd yr hwn sydd yn gweithio eisioes" rhwng ein bryniau. Y mae yr ymadrodd "Pab- yddiaeth yn Nghymru," yn taro y teimlad yn fwy chwithig o lawer na phe dywedid "Protestaniaeth yn Rhuf- ain," oblegid y mae ein ffydd yn nhyst- iolaethau y Bibl, ynghyd a'r buddugol- iaethau pwysig a ennillodd Protestan- iaeth yn yr oesoedd diweddaf, yn peri i ni gredu y gwelir baner crefydd y Diwygiad yn chwyfio cyn hir ar dyrau y "Ddinas Dragywyddol," tra y mae ein gobaith a'n cariad at ein gwlad a'n cenedl rywfodd wedi gwarafun i ni dybied y byddai i Anghrist byth ormesu ar Gymru. Yr ydym wedi arfer edrych ar Babyddiaeth, a hyny yn eithaf priodol, fel corfforiad o'r egwydd- orion mwyaf erchyll ar gweithredoedd mwyaf anfad. Na chyhudder ni o fod yn ddiffygiol mewn tynerwcb wrth ddyweyd fod y gyfundraeth Babaidd, o'r dechreuad, wedi ei llunio mewn anwiredd, iddi gael ei pherffeithio yn raddol gan dwyll, a bod yn euog o fathru ar iawnderau anwylaf y ddynoliaeth am oesoedd lawer. Nid yw y geiriau, "gormes, caethiẁed, creulondeb, ysgel- erder, dichell anghyfiawnder," &c, yn derbyn y fath ystyr waedlyd ac ofnadwy gyda dim fu yn y byd erioed â'r hyn y maent yn eu meddu pan y defnyddrr hwynt i draethu am erchyllwaith y grefydd Babaidd. Y mae yr "anwir hwnw" yn gyfrifol am lygru a gwen- wyno ffynnonellgwirionedd;—amgeisio llethu a gŵyrdroi amcanion yr efengyl; ie y ff urf baganaidd hon ar Gristionogaeth fu y rhwystr mwyaf penderfynol i lwyddiant crefydd bur yr Arglwydd Iesu am ganrifoedd lawer. Yr ydym ni yn y dyddiau hyn, yn ddiarwybod i ni ein hunain, yn dueddol i goleddu dau gyfeiliornad am Babyddiaeth,—sef, yn gyntaf, tybied fod y grefydd yma wedi newid ei natur yn awr o'r hyn ydoedd bedwar a phum can' mlynedd yn ol—fod y Babaeth erbyn hyn yn rhyw grëadur newydd, a bod yr hen bethau erchyll ac ofnadwy wedi myned heibio—os yw y corff a'r aelodau yn aros eto, foä ysbryd arall yn yr hen gyfundraeth,—fod gormes wedi newid am ryddid,—fod creulondeb wedi rhoddi lle i dynerwch, a bod mwy o wirionedd a hawddgarwch yn perthyn iddi erbyn hyn na dim arall. Na thwylled neb ni! "A newidia yr Eth- iopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni ?" By ddai yn hawddacn tybied hyny nag a fyddai i ni gredu fod Pab- yddiaeth wedi newid dim ar ei natur. Na, y mae yr honiad beiddgar a wna o anffaeledigrwydd yn peri 1 ni gredu fod y Babaeth, o ran ei hysbryd a'i hathrawiaethau, yr un ddoe a heddyw. Gwir fod gweinyddiad eu dialeddau ar y traws a'r anufudd wedi lüniaru yn