Skip to main content

Y DRYBORB^A. Rhif. CCXXXVI.] AWST, 1866. [Llyfr XX. %XKtfy0ÌSM U JltoMẀta, EIN DYLEDSWYDD FEL CYFUNDEB YN NGWYNEB LLEDANIAD YR IAITH SAESONEG. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, ABERTAWE. (Y Papyr a ddarllenwyd yn Nghymanfa Gyffredinol Aberystwyth.) Cymer y testun yn ganiatäol fod yr iaith Saesoneg yn lledanu yn y Dywysogaeth; ac felly y mae. Nid yn unig y mae y gallu i ddeall ac i ddefnyddio yr iaith hono yn myn- ed yn fwy cyffredinol ymhlith y Cymry, ond hefyd y mae yn dyfod i gael ei defnyddio yn lle yr iaith Gymraeg. Y mae yn awr yn llwyr ac yn hollol feddiannu ardaloedd lle yr oedd rai blynyddoedd yn ol yn gwbl anadnabyddus. Yr oedd Sir Faesyfed, er enghraifft, ar ddechreuad y Diwygiad Methodistaidd, yn agos yn gwbl Gymraeg; ond erbyn hyn y mae wedi myned, oddieithr darn bychan ar ei chongl ogledd-orllewinol, yn gwbl Seison- ig. Y mae enwau Cymraeg ar y lleoedd, a golwg Gymreig ar y trigolion; ond nid oes gair yn eu genau o iaith eu tadau; ac er i Fethodistiaeth gymeryd meddiant lled hel- aeth o'r wlad yn y cychwyn cyntaf, darfu i'n Cyfundeb lwyr ddifianu o honi gyda diflan- iad yr iaith Gymraeg. Bu offeiriad parchus farw yn ddiweddar, yr hwn oedd wedi bod yn gwasanaethu yn Llandrindod am hanner cant o fiynyddoedd. Am y deng mlynedd ar hugain cyntaf o'r cyfnod hwn, gwasanaethai yn yr iaith Gymraeg; ond am yr ugain mlyn- edd oláf, cafodd ei hun o dan orfodaeth i weini yn hollol yn yr iaith Saesoneg. Yn Llanhir, tua dwy filldir i'r gorllewin o Lan- drindod, yr oedd o fewn cof rhai sydd yn fyw heddyw eglwys Fethodistaidd Gymraeg, yn cynnwys dros driugain o aelodau; ond bell- ach y mae y Saesoneg mewn llawn feddiant o'r ardal, ac olion diweddaf yr eglwys hono wedi llwyr ddiflanu. Yn Nghapel y Dolau, perthynol i'r Bedyddwyr, ar y ffordd rhwng Penybont a Rhaiadr, pregethid er ys hanner can' mlynedd yn ol yn unig yn Gymraeg; ond bellach y mae yn hollol ofer cynnal moddion gras yno mewn un iaith ond y Saesoneg. Mewn rhai ardaloedd yn Nghymru, nid oes ond ychydig heblaw yr henaf o'r bobl yn myned i'n capeli, tra y mae y bobl ieuainc, ac yn eu plith plant aelodau a swyddogion Methodistaidd, yn analluog i ddeall pregethu Cymraeg, naill ai yn myned lle y gallant gael Saesoneg, neu, yr hyn sydd yn ddifesur gwaeth, yn syrthio yn raddol ac yn sicr i'r arferiad niarwol o lwyr esgeuluso moddion gras. Y mae lliaws o eglwysi Methodistaidd yn Nghymru a fuant unwaith yn fiodeuog wedi myned erbyn hyn yn bethau bychain a gweiniaid. Cynnwysant ychydig o bobl yn mwynhâu eu crefydd eu hunain yn yr hen iaith, heb na'r nerth na'r cyfiëusdra i dori tir newydd, am fod yr ardaloedd o'u hamgylch wedi myned yn hollol Seisonig. Yn nhref- ydd mawrion Morganwg a Mynwy, y mae yr achos Cymraeg yn ymddibynu yn agos