Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhip. OGXXXV.] GORPHENAF, 1866. [Llypr XX. ?Draet^0bau u $ẁcaWvùm. GOLYGIADAU CYFEILIORNUS AR LYWODRAETH DUW YN CAEL Eü CYWIRO YN Y BIBL. GAN Y PARCH. J. HUGHES, LIVERPOOL. II. Yr ydym wedi sylwi mewn erthygl flaenorol ar y golygiad sydd yn gwneuthur Duw yr un â natur. Yn ol credo yr Holldduwiad, Duw ydyw swru yr oll sydd yn hanfodi. Ffurfiau ang- nenrheidiol arno Ef ydyw pob peth yn y gweledig ac yn yr anweledig. Yn- ddynt hwy y mae Duw yn dadblygu ei hun, ac yn cyrhaedd ymwybyddiaeth o'i fôd. Natur a'i gwrthddrychau sydd yn perffeithio y Duwdod, fel y mae y ffrwyth yn perffeithio y pren. Megys nad ellir dychymygu am eu hanfodiad hwynt ar wahân oddiwrtho Ef, felly hefyd nis gellir meddwl am y posibl- rwydd o'i hanfodiad yntau ar wahân oddiwrthynt hwy. Ond y mae yn amlwg fod y golygiad hwn, fel y gwel- som, yn anghydweddol â syniadau dyfhaf a mwyaf greddfol dynoliaeth. Mae yn anghyson â'n syniadau cyntaf am Dduw, ac â'n syniadau am ein per- sonoliaeth a'n rhyddid .ein hunain, y rhai nis gallem trwy unrhyw ymdrech ymryddhâu oddiwrthynt. Mae y pell- der mwyaf mewn ymddangosiad rhwng Annuwiaeth a Holldduwiaeth, oblegid tra y dywed y cyntaf nad oes un Duw, dywed yr olaf mai Duw yw swm pob peth. Mae Annuwiaeth yn analluog i weled Duw yn gweithio yn holl gylch amser a lle; proffesa ddilyn holl gwrs hanesyddiaeth heb gyfarfod â Duw yn gweithio; edrycha ar ryfeddodau y ffurf- afen heb ganfod gwaith ei fysedd; gwrandawa ar sibrwd y meddwl oddi- fewn heb glywed ei lais. Ond y mae yr Hoildduwiad yn cymeryd arno weled Duw ymhob man ac ymhob peth; nid yn unig yn y pethau mwyaf ond hefyd yn y pethau lleiaf; nid yn unig yn nghylchdroadau y bydoedd, neu yn nghylhewidiad y tymmorau, neu yn nghyfodiad a chwymp teyrnasoedd, ond yn mhrydferthwch y rhosyn, yn nhyfiant y llysieuyn, neu yn ysgydwad y ddeilen. Felly y mae yma beilder mawr mewn ymddangosiad; ond nid ydy w ond ymddangosiadol yn unig. Yr oll o Dduw a fêdd yr Holldduwiad ydyw yr enw. Mae gwadu yr hyn sydd han- fodol i berson, neu weithrediad yr hyn sydd hanfodol iddo, yr un peth â gwadu ei fôd. Yspeilier brenin o'i holl hawl- freintiau fel brenin, pa beth sydd wed'yn yn aros? Dim ond yr enw. Ond pa werth sydd yn yr enw heb y peth? Dyma a wneir gan yr Holldduwiad: dyosga Dduw oi berffeithiau, ac o weithrediad ei berffeithiau; ac o ganlyn- iad, nid yw yr hyn sydd yn aros ond gwagnod disylwedd a diwerth. Ac yn unol â hyn, yr un faint o ddylanwadym- arferol sydd gan gredo yr Holldduwiad ag sydd gan gredo yr Annuwiad. Mae y naill yn gystal a'r llall "heb Dduw yn y byd." Önd yr ydym wedi dangos fod y Bibl, tra yn diogelu yr holl wirion- edd Bjàà yn gorwedd wrth wraidd Holl- dduwiaeth, sef fod Duw yn sefyll yn y berthynas agosaf â'i holl weithredoedd, yn dysgu hefyd ei fod uwchlaw, ar