Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. CCXXXIV.] MEHEFIN, 1866. [Llyfr XX. SDmtfyota ar ^totòmta. BYWYD: YN EI FFYNNONELL, EI GYFRWNG, A'I DROS- GLWYDDIAD. GAN Y PARCH. GRIFFITH PARRY, LLANRWST. Ioan vi. 57: "Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy y Tad, felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi." Y mae y geiriau hyn yn gosod allan d.refn oruchel bywyd—y raddfa (scale) ddwyfol o fywyd. Y mae yr Arglwydd Iesu, trwy y Salmydd, yn dyweyd wrth ei Dad : "Dangosi i mi lwybr bywyd ; digonolrwydd ílawenydd sydd ger dy fron ; ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd." Cyfeirio y mae Iesu Grist yn y geiriau yna at ei adgyf- odiad oddiwrth y meirw—y llwybr ar hyd yr hwn yr esgynodd o waelod bedd i'r digonolrwydd llawenydd sydd ger bron Duw. Dyna y mae yr adnod yma yn ei wneyd i ninnau: "daugos" y mae hi i ni "lwybr" goruchel "bywyd;" llwybr o'r un man ag yr aeth Mab Duw o hono (mewn cyffelybiaeth), ac ir un man (mewn gwirionedd) ag yr aeth efe iddo—llwybr i bechadur i ddringo ar hyd-ddo o ddyfnder bedd y farwolaeth ysbrydol, ar ol Iesu Grist, i'r "digonol- rwydd llawenydd" sydd ger bron Duw. Y mae y geiriau yn dangos tréfn neu lwybr bywyd, o'i wreiddyn cyntaf yn Nuw Dad i lawr i'w drosglwyddiad i enaid pechadur. Dolenau cadwen hywyd sydd yma. Y mae yma uchder mawr, a dyfnder mawr. Y mae yr adnod yn dechreu yn yr uchder mwyaf—gyda'r "Tad byw." Oddiyna y mae yn dyfod i lawr i'r dyfnder isaf—i ddyfnder y farwolaeth ysbrydol. Dyna uchder—<lyna ddyfn- der ! Pe buasai y problem yn cael ei gosod o flaen y ddoethineb grëedig uch- af—i gysylltu y ddau yna â'u gilydd, fe fuasai yn aros byth heb ei dadrys. Ond fe gafodd doethineb Duw drefh i wneyd hyny. Dyma Berson yn dyfod i'r golwg yn y canol, mor uchel â'r blaid uchaf, ac mor isel â'r blaid isaf—Person digon mawr i lanw y pellder ar ei hŷd, digon mawr i wneyd y ddwy blaid yn un yn- ddo ei hunan,—digon mawr i ddyfod â by wyd y Duwdod i lawr i enaid y pech- adur marw. Felly ni a welwn mai tri rnater sydd yn yr adnod yma: Duw, pechadur, a Chyfryngwr rhwng y ddau. Ni a welwn yma Fywyd,— I. YN EI FFYNNONELL WREIDDIOL : "y Tad byw." II. Yn ei Gyfrwng goruchel : "Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr wyf fì yn byw trwy y Tad." III. Yn ei Drosglwyddiad i enaid y pechadur: "Felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi." Neu, mewn geiriau eraill:— Y Tad—yn ffynnonell bywyd; Y Mab—yn gyfrwng bywyd ; Y pechadur, yn ei undeb â Mab Duw, yn derbyn bywyd, ac yn byw byth trwyddo. I. Bywyd yn eiFpynnonell wreidd- IOL : "y Tad byw." Y Person cyntaf yn y Duwdod ydyw gwreiddyn pob bywyd. I ddefnyddio iaith rhai o'r prif dduwinyddion—Efe ydyw gwreiddyn y Duwdod ei hunan.