Skip to main content

Y DRYSORPA. Rhif. COXXX.] CHWEFROR, 1866. [Llyfr XX. lítMlgûòw u %ẅaìi}Aúwx. JOSEPH YN EI BROFEDIGAETHAU AC YN EI LWYDDLANT. GAN Y PARCH. EBENEZER DAVIES, LLANERCHYMEDD. Genesis xlix. 23, 24: "A'r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a'i •asasant ef. Er hyny arhôdd ei í'wa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryfhasant, trwy ddwylaw grymus Dduw Jacob; oddiyno y mae'r bugail, maen Israel." Dyma y geiriau hyn, ni a welwn, yn sôn am "y bugail, maen IsraeL" Yr oedd Joseph erbyn hyn wedi hod yn fugail da, da iawn, i'r genedl: wedi eu cadw yn fyw yn nhymmor maith y newyn trwm—wedi cynnal "ei dad, ei frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ol eu teuluoedd;" fel bwydo plent- yn, meddir, ar y margin (Gen. xlvii. 12). Yr oedd eí'e hefyd wedi bod yn gàreg sylfaen dan y genedl, rhag suddo i lawr i gorsydd newyn. Ar yr un pryd, ineddyliwch chwi am "Fugail mawr y defaid," ac am y "Maen a sylfaen- odd Duw yn Sion," yr hwn nad oedd Joseph ar y goreu ond cysgod o hono; a rhoddwch eich pwys ar yr Iesu fel y naill, a chyflwynwch eich holl ofaL iddo fel y llall. Y mae yn amlwg i bawb, sydd wedi sylwi, fod y paragraph y mae'r geiriau uchod yn rhan o hono yn dalfyriad byr a chryno—brief'shetch tra chynnwysfawr —o hanes bywyd Joseph gan ei dad, a lefarwyd ganddo ar ei wely angeu pan yn bendithio ei feibion, ac yn rhag- fynegu yr hyn a ddeuai iddynt ar ol ei ymadawiad ef. Y mae yn dygwydd fel nyna weithiau,—y tad yn rhoi hanes y mab; a phryd arall y mae'r mab yn rhoi hanes y tad: mae dynion duwiol yn ddigon hunanymwadol i wneyd y naill a'r llall os bydd defnyddiau addas. Gwnaeth y Parch. William Rees (Gwil- ym Hiraethog) y ddau mewn dwy er- thygl anmhrisiadwy yn y Traethodydd. "Fy Nhad" y gelwir y naill: "Fy Mab" y gelwir y llalL* Cynghorem chwi, dadau, ar bob cyfrif i ddarllen "Fy JSíhad" canys mae yn anmhosibl darllen yr erthygl hon heb deimlo fod grym duwioldeb yn dylanwadu yn gryf ar ei gwrthddrych trwy holl gyfnewid- iadau ei oes, a'i fod yn marw mewn llawn fwynhâd o'i chysuron cryfion; ac yr wyf yn meddwl y bydd y darlleniad o honi yn sicr o däyfod â chwithau i werthfawrogi ac i ddymuno y " Ffydd i'r làn a'u daliodd hwy." Cynghorem chwithau, wŷr ieuainc, i ddarllen "Fy Màb" ac i sylwi yn fanwl ar y prif linellau yn y caracter tlws a phrydferth; a chwi a welwch yn amlwg ei fod yn feddiannol ar yr "enw da sydd well nag enaint gwerthfawr;" ac er i awelon oerion a difäol y Darfodedig- aeth wywo "blodeuyn y glasweiltyn" hwn pan oedd yn ymagor, a lapio ei holl ogoniant i'r bedd pan yr oedd ei berarogl fel ar ddechre gwasgar, yr oedd iddo ef "ddydd marwolaeth yn well na dydd genedigaeth." Ac mi rôf fy ngair i chwi nas geÜwch ddarllen am dano heb deimlo awydd calon am ei efelychu. Y maegenymhefydhanes"Bywyd y Parch. * Traethodtod, Medi, 1856, tu dal. 277, a Mawrth, 1857, tu dal. 64.