Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCXXIX.] IONAWR, 1866. [Llypr XX. ímtjjutìmtt. PETER WILLIAMS. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, ABERTAWY. Pan oedd y Parchedig Peter Williams yn ddeuddeng inlwydd a thriugain oed, ysgrifenodd gofnodau lled helaeth o hanes boreuol ei íywyd, a llafur a theithiau ac erlidigaethau blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Ysgrifenwyd y cofnodau hyn yn yr iaith Saesonaeg, a chyfieithiwyd hwy i'r Gymraeg, a chy- hoeddwyd hwynt gydag ychwanegiadau gan Owen Williams, o'r Waenfawr, 'yn y fiwyddyn 1817. Y mae y dullwedd yn dra dyeithr, yr orgraff yn un ry- íedd, ac am yr argraffiad y mae yn druenus o'r dechreu i'r diwedd, ac mewn nid ychydig o fanau yn anweledig. Nis gwyddom fod y cyfieithiad ymhob man yn gosod allan feddwl yr ysgrifau gwreiddiol; ac y mae ein hammheuaeth ar y mater hwn yn cael ei gryfhâu wrth weíed "baseless fabric of a vision" yn cael ei gyfieithu, "gweledigaeth yw adeilad disail." Ý mae y golygydd yn rhoddi ar ddeall i'r darllenydd "mai yn Saesonaeg yr ysgrifenwyd gyntat y rhan flaenaf o'r hanes, ynghyd a'r llythyrau cyfeiriedig at y Methodistiaid Calfin- aidd, oddieithr amddiffyniad Bibl Cann," ac ychwanega, "yn anmherffeithrwydd y cyfieithiad y dymunaf nawdd y dysg- edig, yn yr hwn orchwyl yr ymdrechais nyd 7 gallwn am iaith ac ymadrodd deallus i'r cyffredin. ***** Gwallau y casglydd mewn iaith ac ym- adroddion nis gellir eu cyfiawnhâu, a pha gynifer bynag sydd o honynt, cymaint a hyny sydd rhyngwyf a chyrhaedd y nôd o berffeithrwydd; a phe heb ym- drechu am y cyfryw nôd, buasai'r llafur mewn mwy o annhrefn nag y mae." Amcanwn osod sylwedd y llyfryn hwn o flaen darllenwyr y Drysorfa, heb ond ychydig neu ddim sylwadau o'r eiddom ein hunain. Yr oedd Peter Williams yn fab i rieni cyfrifol yn Llacharn, yn Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ef ar y 7fed o Ionawr, 1722. Yr oedd ei fam yn wraig grefyddol, a chy- merai ef yn fynych, pan nad oedd ond pump neu chwech oed, i wrando yr enwog Griffith Jones, Lianddowror; ac er fod ganddi àdau o blant, mab a merch, heblawefe, ymddengys mai Peter oedd wedi cael y lle blaenaf yn ei chalon. Boddlonai hi yn fawr wrth ddysgu allan ac adrodd iddi ranau o'r Ysgrythyrau, megys hanes y plant a watwarasant y prophwyd ac a ddinystr- iwyd gan arth o'r coed—hanes yr hwn a labyddiwyd â chèryg am halogi'r Sabboth—hanes Joseph yn cael ei werthu gan ei frodyr, a'i ddyrchafiad yn yr Aipht, &c. Dysgodd regu wrth glywed plant eraili yn gwneuthur hyny; ond y tro cyntaf y clywyd ef gan ei fam oedd y tro diweddaf iddo wneuthur hyny byth. Yr oedd yn ei chalon wedi ei gyaegru i'r Arglwydd, a chwbl gredai ei fod megys mab Jesse gynt wedi ei eni i ryw ddyben mawr, a dymuniad ei henaid ydoedd ar fod iddo, pan ddeuai yr amser priodol, ym- gyfiwyno i weinidogaeth yr efengyl. Yr oedd cydymdeimlad mwy trwyadl rhwng y fam a'r mab nag oedd rhyng- ddynt âg aelodau eraill y teulu. Cym- deithasent fwy â'r ysbrydol a'r anwel- edig, ac oblegid hyny yia^lyment yn fwy am eu gilydd. Pan oedd Peter yn