Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORPA. Rhif. CCXIV. HYDREF, 1864. [Llyfr XVIII. îmtjjMtrau. DUWIOLDEB A DEFNYDDIOLDEB. GAN Y PARCH. DAVID CHARLES DAVIES, M.A. PENNOD II. CYSYLLTIAD DÜWIOLDEB A DEFNYDDIOLDEB a'r BIBL A CHRISTIONOGAETH. Ystyr Fiblaidd y gair Duwioldeb—Yr athrawiaethol a'r ymarferol—Cymhariad duwioldeb a defnyddioldeb—Eu gwrthddrychau—Yr Arglwydd Iesu yn gyfrwng y teimladau perthynol i'r naiU a'r llall—Yr amlygiad o'r e'ysylltiad agos rhwng Duw a djm fel nodwedd mawr y Dadguddiad Dwyfol—Hyny yn gwahaniaetìm crefydd y Bibl oddiwrth Baganiaeth—Yr elfen Baganaidd yn syniadau y rhai sydd yn ysgar deddfau natur â gofal personol Duw—Y syniad Paganaidd yn rhedeg trwy Babyddiaeth, Ariaeth, a Sosiniaeth—Dammeg y mab afradlawn—Dylanwad athraw- iaeth y Bibl—Effeithiau anuuiongyrchol Cristionogaeth—Grym ysbryd Cristionogol mewn calon. Y mae Duwioldeb yn air Biblaidd. Er í'od ychydig o wahaniaeth rhwng ei ystyr mewn gwahanol í'anau, y mae y tcimlad o barch i Dduw, a gweithrediad y parch hwnw mewn addoliad, y rhai a gynnwysir genym yn gyffredin yn y gair duwiolírydedd, neu ddefosiwn, yn rhedeg fel edafedd sidan trwy ei wa- hanol ystyron Biblaidd. Fe'i defnyddir yn awr i ddangos yr ymarferiad â'r holl ddyledswyddau crefyddol a moesol tuag at Dduw ag y mae y Bibl yn eu gor- chymyn, ac fe'i haraíleirir yn achlysur- ol yn ymddygiad yn ôl Duw, neu tebyg i Dduw. Ond gan fod y gair yn cyn- nwys y syniad o addoliad, y mae yn meddu ar y neillduolrwydd o ddangos un o'r actau uchaf a mwyaf gogoneddus ag y medr crëadur ei chyflawni, ac eto act sydd yn berffaith wahanol oddiwrth yr un a fedr Duw byth ei chyfiawni. Y mae yn weithred sanctaidd, ond hollol wahanol oddiwrth holl weith- redoedd y Duw sanctaidd ei hun. Y mae llawer o anfanteision pwysig mewn defnyddio geiriau y Bibl mewn ystyr wahanol i'w hystyr Fiblaidd. Ond y mae yr estyniad ar feddwl y gair hwn yn meddu ar y fantaia o osod allan gydag arbenigrwydd fod esgeulusdod o'r dyledswyddau moesol ag y mae Duw wedi eu gorchymyn i ddyn yn profì amddifadrwydd o ysbryd defosiwn, pa mor berffaith bynag y byddo y ffurf o hono. Yn y sylwadau canlynol fe'i defnyddir yn ei hen ystyr Fiblaidd, i arwyddo duwiolfrydedd fel ansawdd yr enaid, ac addoliad i Dduw fel act enaid yn yr ansawdd hono—addoliad nid yn ei gyhoeddusrwydd cynnulleidfäol a theuluaidd, ond í'el gweithrediad dirgel yr enaid tuag at Dduw. Nid oes dim yn taro y meddwl gyda mwy o syndod na'r rhwyddineb â pha un y mae dyn sydd yn teimlo pwysig- rwydd un gwirionedd yn colli teimlad o bwysigrwydd gwirionedd arall. Y mae y pwys a osodir ar ymarweddiad sanctaidd yn cynnwys ynddo ei huri berygl i ddibrisio defosiwn ysbryd. Fe all y defosiynol ar un ochr edrych ar fanylrwydd mewn ymarweddiad yn ar- wydd o ddeddfoldeb a Pharisëaeth; ar. fe all y manwl ar yr ochr arall ystyried defosiwn fel un o oîion ofergoeledd myn- achod y canoloesoedd. "Wele, ddau Hebrëwr yn ymryson." Ac fe eílir dy- wedyd wrth y naül a'r llall, "Paham y