Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CCXIII. MEDI, 1864. [Llyfr XVIII. §Dmt|0ta. Y BEDYDD CRISTIONOCOL. GAN Y PARCH. DAYID SAüNDEES. LL7THTR H. Y DULL O FEDYDDIO—Y GAIR GWREIDDIOL. Anwyl Gyfaill,—Cawsoch ddigon o ragymadrcdd i wasanaethu ar amryw o lythyrau yn ein llythyr blaenorol. Ond os ydych chwi yn teimlo na ddylai yr un llythyr fod heb ragymadrodd, nid oes genym ond eich hannog i ddarllen hwnw drachefn. Wrth wneuthur ym- chwiliad i'r testun yr ydym yn ysgrif- enu arno, dylem wahanu rhwng dull gweinyddiad a deiliaid yr ordinhâd; oblegid nid oes gysylltiad hanfodol rhyngddynt. Y mae yn wir, yn ein gwlad ni, fod y rhai a ffafriant daenellu fel dull priodol gweinyddiad yr ordinhâd yn dadleu hefyd dros hawl babanod, a bod y rhai a bleidiant fedydd trochiad yn gwrthod yr ordinhâd i fabanod. Ond nid ydym ni yn canfod un cysylltiad anghen- rheidiol rhwng y ddau beth, ac nis gallwn roddi cyfrif am y ffaith ond trwy rym arferiad. Dygwyddiad nas gallwn roddi cyfrif am dano yn un ffordd arall, ydyw nad oes yn ein gwlad ddau enwad cref- yddol heblaw y rhai sydd—un yn mab- wysiadu taenellu fel duU gweinyddiad bedydd, ond yn ei chyfyngu i rai mewn oed; a'r llaíl dros drochiad, ond yn hòni fod gan fabanod hawl gyfreithlawn i'r ordinhâd. Sonia y Dr. E. Williams am Wrthfedyddwyr babanod yn Hol- land sydd yn daenellwyr, ac y mae yn dyfynu yn helaeth o ysgrifeniadau rhyw Mr. EUiot, ysgrifenydd o'r wlad hon, ond or un golygiadau. Ar yx ochi arall drachefn, y mae Dr. Schaff, yr hanesydd eglwysig, ynghyd ag amrýw o dduwin- yddion Germany, y rhai a ddadleuant yn gryf dros drochi, ac a ddadleuant yr un mor gryf dros hawl ysgrythyrol babanod. Gan nad oes gysylltiad han- fodol rhyngddynt, dylem wneyd ym- chwiliad i'r naül bwnc ar wahân oddi- wrth y llall. Ni a ddechreuwn gyda'r lleiaf ei bwys, sef y dull. Pan yn gwneuthur ymchwiliad i un- rhyw beth y lleferir yn ei gylch yn y Testament Newydd, dylem ddechreu gyda'r geiriau a adefnyddir. Gwn nad ydych yn ymhoni eich bod yn deall llawer am yr iaith Roeg-—yr iaith ymha un yr ysgrifenwyd y Testament New- ydd—ond, pe na bae ond o herwydd y äadleuon mynych a fu yn Nghymru ynghylch bedydd, yr ydych yn gwybod mai baptẁo ydyw y gair Groeg am fed- ydd, a bod hwnw wedi hânu o'r gair henach bapto. Nid wyf yma yn bwr- iadu eich synu na'ch dyrysu â dyfyn- iadau dysgedig, ond yn hytrach gosod ger eich bron, mewn iaith mor syml a chartrefol ag y gall y mwyaf annysgedig ei deall, y penderfyniad y daethum iddo ynghylch y geiriau hyn, ar ol ymchwil- ìad Ued fanwL Cofiwch, nid wyf fi yn hòni bod yn ddigon dysgedig i wneyd ymchwiliàd hoUol annibynol ar gyn- northwy eraüL Nid ydwyf fi yn ddigon cynnefìn â Uênyddiaeth Roegaidd i