Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CCXII. AWST, 1864. [Llyfr XVIII. %XMfyŴW. CALONDID I DDYFOD AT GRIST. Crynodeb o Bregeth a draddodwyd gan y Parch. William Roberts, Amlwch, ac a ysgrifenwyd wrth ei gwrandaw. Ioan vi. 37: "Yr hyn oll y inae y Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi; a'r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Y mae genym hanes am ryw ddynion yn dywedyd am yr Arglwydd Iesu, wedi iddynt fod yn gwrandaw arno, "Ni lef- aroäd dyn erioed fel y dyn hwn." A dyma ni yn awr yn clywed geiriau a ddywedodd y llefarwr digyffelyb hwnw. Cofiwn na buom erioed yn gwrandaw geiriau un mor fawr. Fe lefarodd efe lawer o bethau nad allasai neu na ddyl- asai neb arall eu llefaru—pefchau y buasai yn bechod i bawb eraill eu dy- wedyd gyda golwg arnynt eu hunain. Er fod yr holi ysgrifenwyr sanctaidd dan gyfarwyddyd anffaeledig yr Ysbryd Glân, buasai yn gabledd yn mhawb o honynt lefaru yn ngeiriau ìesu Grist yn y bennod hon. Nid allasai Moses, na Dafydd, nac Esaiah, na Jeremiah, ys- grifenu ymadroddion y testun. Yn yr adnod hon, wele yr Arglwydd Iesu yn ei gyhoeddi ei hunan i'r byd yn gyf- rifol am gadwedigaeth dragywyddol pob enaid a gredo; mae yn ei rwymo ei hun y fath, fel, os na wna efe hyny, y gellir ei feio yn gyfiawn yn y dydd olaf am wneuthur honiad ofer, a thwyllo eneid- iau dynion. Ni feiddiasai neb erioed, ond efe, ddywedyd hyn ar ein daear ni heb f od yn euog o gabledd : « Yr hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Mae y dywediad hwn i ni o'r gwerth mwyàf; o herwydd y peth sobrafimwy- af ofnadwy, a gyfarfu â neb erioed ydoedd i Dduw ei fwrw ef allan. Yr oedd Dafydd er ei fod yn frenin, ac er ei fod yn dduwiol, yn ymdeimlo nad allai oddef y meddwl i'r Arglwydd ei fwrw ef ymaith. Gweddi ei gajon ydoedd, "Na fwrw fi ymaith yn amser henaint; na wrthod fi pan ballo fy nerth." Pa faint a dâl securio hyn ? Pa faint yw gwerth hyder sicr na wna Efe, yr hwn sydd i'n barnu, ein bwrw ni allan? Beth fydd gallu dyweyd mewn tawel- wch ar wely angeu, "Pan yw fy nhâd a fy mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn!" Ac 0! mor ddychryn- llyd yw i Dduw sicrhâu i gydwybod pechadur ei fod yn ei fwrw ymaith! Mor ofnadwy oedd teimladau Saul, brenin Israel, yn ngwyneb fod Duw yn ei adael a'i wrthod! dacw efe wedí dyrysu ac ymwylltio, yn myned at Satan ei hun i edrych am ryw help a chyfar- wyddyd. Meddyliwch pa beth mor arswydus a fydd i Fab Duw wadu pech- aduriaid, gan ddywedyd, "Nis adnabum chwi erioed; ewch ymaith oddiwrthyf, chwi weithredwyr anwiredd!" Fe fydd y cyfryw eiriau yn dyferu tân a brwmstan i enaid colledig. Os oes arnoch chwi, fel gwrandäwyr yr efengyl, ofn rhag myned dan y fath farnedig- aeth, mi a allaf roddi 1 chwi, oddiwmi y testun, ddefnydd claim o fiaen gor- seddfainc Duw am beidio eich bwrw ymaith. Dim ond i chwi fel yr ydych ddyfod at Grist, a dyna chwi dan am- ddiffyn tragywyddol rhag eich taflu allan. "Yr hwn a ddêl ataf fi," medd